Prentis Technegydd / Gyrrwr – Alpha Grip

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                        Alpha Grip
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Technegydd / Gyrrwr
Lleoliad:                      Caerdydd

Am y Sefydlia

Mae Alpha Grip yn ddarparwr gwasanaeth arbenigol i’r Diwydiant Masnachol, Ffilm a Theledu. Ers 2005, mae Alpha Grip, ddechreuodd yn Pinewood Studios, wedi adleoli i gyfleuster 5000sq ft mwy a mwy yn Stiwdios Shepperton, gan sefydlu swyddfeydd yn Pinewood Wales, ac yn fwy diweddar Marrakesh, Moroco. Mae ein cyrhaeddiad yn tyfu fwyfwy!

Disgrifiad Swydd 

Fel prentis byddwch yn dod i adnabod yr eitemau Grip sylfaenol yr ydym yn eu stocio, ac yn dysgu sut i osod offer yn barod i’w rhent, gan gynnwys gwybodaeth sylfaenol am y gwasanaeth a sut i’w glanhau. Mae’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolyn ymarferol a chanddo ddiddordeb brwd yn y diwydiant teledu a ffilm. Drwy ddod yn brentis yn Alpha Grip, byddwch yn cael eich troed yng nghalon y diwydiant, p’un a ydych am symud ymlaen i fod yn Grip ai peidio.

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?:

  • Ymarferol
  • Cyfathrebwr da
  • Cyfeillgar
  • Yn awyddus i ddysgu
  • Diddordeb yn y diwydiant teledu a ffilm
  • Yn hunan-gymhellol gyda menter

Sgiliau Hanfodol:

  • Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol
  • Trwydded yrru lân llawn, gan y byddwch yn gyrru o gwmpas mewn cerbyd cwmni yn rheolaidd
  • Synnwyr cyffredin
  • Personoliaeth cyfeillgar

Fframwaith

Tra’n gweithio i Alpha Grip byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Cyflog

Cyflog i’w gadarnhau – yn ddibynnol ar brofiad.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Isafswm Cyflog Prentis Cenedlaethol, ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

Sut i wneud cais

Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gais.

Os oes gennych gwestiynau am y rhaglen brentisiaeth, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin.

Dyddiad Cau

14.00 ar y 23ain o Orffennaf, 2019