ASTUDIAETHAU ACHOS

Nia Yorke

Cwblhaodd Nia Yorke, 21 o Gaerdydd, Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol gyda Sgil Cymru yn 2016. Wrth gwblhau ei phrentisiaeth gweithiodd Nia fel Prentis Arbenigwr Cynhyrchu i ITV Cymru Wales yng Nghaerdydd.

 

Cyn ymgeisio am y brentisiaeth, astudiodd Nia Gyfryngau, Dylunio Graffeg a Chymdeithaseg yn y chweched dosbarth. Yn fuan iawn roedd Nia yn gwybod ei bod hi ddim eisiau mynd i’r brifysgol, roedd hi am ddechrau gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol cyn gynted â phosib.

 

Fel prentis, roedd Nia yn hyfforddi o fewn y Tîm Technegol roedd yn gyfrifol am allbwn newyddion rhanbarthol ar draws Cymru. Roedd Nia yn gweithio fel Cynorthwyydd Cynhyrchu ac ar Autocue rhan fwyaf o’r amser.

 

Dwedodd Nia:

Roeddwn i’n gweithio bob dydd ar fwletin amser cinio, bwletin hwyr a’r rhaglen flaenllaw, Wales at Six. Roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus i weithio ar raglen roedd yn cofio marcio 50 blwyddyn ers trychineb Aberfan.

 

Roedd Nia yn ei harddegau wrth gwblhau ei phrentisiaeth a gweithio i ITV Cymru Wales. Oherwydd ei oedran roedd Nia yn poeni nad oedd hi’n mynd i ffitio mewn gyda gweddill y tîm, oherwydd roedd ei chydweithwyr i gyd wedi bod yn gwneud eu swyddi am fwy na 10, 20 a 30 blwyddyn. Yn fuan ar ôl dechrau roedd Nia wedi setlo mewn i’w thîm newydd.

 

Dwedodd Nia:

Roedd y siawns i fod yn rhan o dîm profiadol wedi gwneud i fi aeddfedu.

 

Yn dilyn ei phrentisiaeth dechreuodd Nia weithio’n llawrydd i ITV Cymru Wales ac ers hynny mae hi wedi parhau i wneud.

 

Ar y cyd gyda gweithio i ITV Cymru Wales mae Nia wedi gweithio ar brosiectau eraill gan gynnwys Cardiff Singer of the World 2017, Eisteddfod yr Urdd a The Big Painting Challenge.

 

Yn ogystal â chwblhau ei phrentisiaeth enwebwyd Nia, gan Sgil Cymru, am Wobrau Cynghrair Ansawdd Sgiliau (CAS) 2017 sydd yn dathlu llwyddiant prentisiaid rhagorol y CAS dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Dwedodd Nia:

Roeddwn i mor hapus i ennill y wobr am Brentis Diwydiannau Creadigol y Flwyddyn yng ngwobrau CAS 2017. Mae hyn yn edrych yn grêt ar fy CV ac mae fe wedi fy helpu i gael mwy o waith.

 

Heb y brentisiaeth ni fydd Nia wedi cael y cyfleoedd yma mor fuan yn ei fywyd proffesiynol. Ni fydd unrhyw gwrs prifysgol yn medru dyblygu’r profiadau mae Nia wedi cael o ganlyniad i’r brentisiaeth.

 

Dwedodd Nia:

Mae fy hyder o fewn y diwydiant cyfryngau wedi tyfu ac oherwydd hyn dwi’n hapus yn fy swydd. Mae fy sgiliau yn parhau i ehangu pob dydd. Ni fyddwn ni fan hyn heb y brentisiaeth.

Jac Bryant

Cwblhaodd Jac Bryant, 23 o Barri, Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3 yn 2016 gyda Sgil Cymru. Wrth gwblhau ei brentisiaeth gweithiodd Jac fel Prentis Dylunio Graffeg Iau i Orchard Media and Events Group yng Nghaerdydd.

 

Cyn y brentisiaeth roedd Jac yn astudio Dylunio a Chelf yn yr Academi Celfyddydau Caerdydd. Wrth astudio daeth Jac o hyd i’r cyfleoedd prentisiaeth ac ar ôl bach o ymchwil fe benderfynodd Jac fynychu diwrnod agored lle cafodd e’r siawns i ddysgu mwy am y cyfleoedd gan hefyd wrando ar straeon cyn prentisiaid.

 

Dwedodd Jac:

Roeddwn i’n gwybod mod i ddim eisiau colli allan ar gyfle fel hyn.

 

Fel rhan o’i waith fel prentis roedd Jac yn dylunio posteri, hysbysebion a fideos i hyrwyddo’r ystod eang o ddigwyddiadau roedd Orchard yn rheoli.

 

Dwedodd Jac:

Wrth weithio i Orchard rwyf wedi cael y cyfle i weithio ar brosiectau i gleientiaid yn cynnwys UEFA, FAW, Airbus, S4C ac amrywiaeth o artistiaid yn cynnwys Noel Gallagher ac Elton John.

 

Ni ddoth y brentisiaeth heb ei drafferthion i Jac. Roedd y sialens o ddysgu’r prosesau a thechnegau yn dasg fawr ond gyda help gan ei dîm wnaeth Jac dechrau rhagori.

 

Yn dilyn ei brentisiaeth fe gafodd Jac swydd llawn amser gyda Orchard oherwydd ei angerdd parhaol a’i waith caled. Ac ers hynny mae Jac wedi parhau i weithio o fewn tîm dylunio Orchard, fel Dylunydd Iau. Gyda’r sgiliau a ddysgwyd ar y brentisiaeth mae Jac yn edrych ymlaen at gynyddu o fewn ei rôl gyda Orchard.

 

Dwedodd Jac:

Rwy’n teimlo fy mod i wedi tyfu i fod yn berson mwy galluog, cymwys a hyderus o ganlyniad i’r brentisiaeth.

Ellis Clark

Yn 2015 dechreuodd Ellis Clark, 22 o Frynmawr, Brentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol. Wrth gwblhau ei brentisiaeth roedd Ellis yn gweithio fel Prentis Golygydd Crefft i ITV Cymru Wales.

 

Cyn y brentisiaeth roedd Ellis yn gweithio fel Golygydd Fideo i Radio BRfm. Fel rhan o’i rôl roedd Ellis yn cynhyrchu a golygu fideos cerddoriaeth a digwyddiadau yn ogystal â gwaith sain a gwaith cyfryngau cymdeithasol. Ar ôl gorffen gyda BRfm roedd Ellis yn awyddus i barhau gyda’i yrfa o fewn y diwydiannau creadigol, ac ar ôl ymchwilio fe welodd Ellis y cyfleoedd prentisiaeth ac fe benderfynodd ymgeisio.

 

Dwedodd Ellis:

Roeddwn i eisiau dilyn gyrfa o fewn y diwydiant cyfryngau ac roeddwn i’n gwybod bod prentisiaeth yn ffordd dda i ddechrau.

 

O ddydd i ddydd, fel Prentis Golygydd Crefft, roedd Ellis yn golygu fideos, trwy ddefnyddio meddalwedd Avid, a chreu graffeg. Yn ogystal â hyn gwnaeth Ellis greu promos ar gyfer sioeau gwahanol oedd yn cael eu dangos ar ITV Cymru Wales. Un o uchafbwyntiau Ellis oedd golygu fideos ar gyfer darllediadau byw ac uchafbwyntiau’r Rugby World Cup yn 2015.

 

Dwedodd Ellis:

Wrth weithio fel prentis wnes i fod yn rhan ar amryw o brosiectau gan gynnwys Wales at Six, Reels on Wheels a Welsh Politician of the Year.

 

Yn dilyn ei brentisiaeth fe gafodd Ellis swydd llawn amser yn gweithio fel Arbenigwr Cynhyrchu i ITV Cymru Wales, ac mae wedi parhau i weithio iddyn nhw ers hynny.

 

Dwedodd Ellis:

Mae fy swydd fel Arbenigwr Cynhyrchu yn newid pob dydd. Un diwrnod gallai fod yn gwneud sain ar gyfer y newyddion a’r diwrnod wedyn dwi’n cyfarwyddo. Mae’r swydd yn amrywio o ddydd i ddydd sy’n gwneud y rôl yn un diddorol a digonol.

 

Yn 2016 fe enillodd Ellis wobr ‘Arbenigwr Cynhyrchu’r Flwyddyn’ mewn seremoni wobrau mewnol ITV. Dewiswyd Ellis fel yr enillydd  o’r Deyrnas Unedig i gyd.

 

Dwedodd Ellis:

Roedd y brentisiaeth wedi fy helpu i ddechrau gyrfa o fewn y diwydiant cyfryngau. Heb y brentisiaeth ni fyddwn i le ydw i ar hyn o bryd.

Liam Bevan

Dechreuodd Liam Bevan ei brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3 nôl yn 2013. Gweithiodd Liam, 23 o Abercynon, fel Prentis Ôl Gynhyrchu i BBC Cymru Wales ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd.  

 

Wrth iddo orffen astudio am ei lefelau A roedd Liam yn edrych am y cam nesaf yn ei fywyd. Fel pawb arall oedran Liam roedd yna dri dewis: prifysgol, prentisiaeth neu weithio mewn swydd arferol. 

 

Dwedodd Liam:  

Ar ôl gwneud llawer o ymchwil mewn i astudio cyfryngau mewn gwahanol brifysgolion roedd prentisiaeth yn sefyll allan fel y penderfyniad gorau. Roedd y brentisiaeth yn rhoi siawns i gael profiadau ymarferol gyda meddalwedd o safon y diwydiant mewn gweithle proffesiynol. Allwch chi ddim dysgu hynny ar yr un lefel unrhyw le arall. Roedd fy mhenderfyniad yn un amlwg. 

 

Cafodd Liam amryw o gyfleoedd o fewn yr adran Ôl Gynhyrchu wrth gwblhau ei brentisiaeth. Dechreuodd e yn yr Ystafell Lwytho yn llwytho yr hyn oedd yn dod drwy’r drws gan gynnwys ‘rushes’ rhaglen ddogfen drosedd, elfennau ar gyfer The One Show ac archif ar gyfer chwaraeon. Fe ddysgodd cyd-weithwyr Liam iddo fedru delio ag unrhyw beth oedd yn dod drwy’r drws. 

 

Dwedodd Liam: 

Ar ol hynny symudais Pobol Y Cwm i weld sut oedd cyfres sefydlogedig yn perfformio, a dyna lle wnes i ragori. Cefais y siawns i dderbyn hyfforddiant gyda llif gwaith cyson megis chwarae rhaglenni i dap i’w golygu, cofnodi cerddoriaeth, llwytho ‘rushes’ o leoliad a’u cael yn barod ar gyfer eu golygu. Cefais lawer o siawns hefyd i geisio bras olygu golygfeydd ar fy mhen fy hun, ac wedyn i gael adborth gan y Bras Olygydd! 

 

Doedd y brentisiaeth ddim heb ei drafferthion i Liam. Heb brofiad o weithio ar y meddalwedd o fewn yr Ystafell Llwytho roedd gan Liam lawer i ddysgu gan gynnwys y gwahanol fformatau o Avid a’r terminoleg i gyd. Gyda’i frwdfrydedd a help ei gydweithwyr dysgodd Liam pob dim am y meddalwedd a phrosesau’r adran ôl-gynhyrchu. 

 

Dwedodd Liam: 

Ar ôl y prentisiaeth wnes i edrych am waith heb unrhyw lwc. Ar ôl 7 mis o ymchwilio roeddwn i ar fin edrych am yrfa newydd, ond wedyn clywais i oddi wrth y tîm yn Sgil Cymru bod rhywun yn edrych am Gynhyrchydd Cynorthwyol ar gyfer ei ddarllediad rygbi ar S4C. Ar y dechrau roeddwn i’n nerfus wrth feddwl am y rôl oherwydd roeddwn i’n dod o gefndir ôl-gynhyrchu heb wybod lot am rygbi chwaith. Wnes i gwrdd â nhw am baned i drafod y rôl ac wedyn dechreuais i dreial tri mis gyda nhw yn Sunset+Vine Cymru. 

 

Tair blynedd yn ddiweddaraf mae fy CV wedi ehangu, dwi’n golygu agoriadau a nodweddion ar gyfer y rhan fwyaf o’r gemau rygbi yn y Principality Premiership a’r National Cup yn ogystal ag uchafbwyntiau o raglenni megis Tour de France, taith y Lions 2017, the Top 14 a’r European Rugby Champions Cup ar S4C. Rwyf hefyd wedi cael y siawns i deithio i gemau Cymru i gyd gan gynnwys y Rugby World Cup yn 2015 a Lyon ar gyfer yr European Cup Final. Ar ben hyn i gyd rwyf yn gweithio i Tinopolis fel Golygydd Llawrydd.

Ffion Taylor

Dechreuodd Ffion Taylor ei gyrfa yn 2014 ar Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3. Gweithiodd Ffion, 23 o Aberystwyth, fel Prentis Rhedwr i Green Bay Media yng Nghaerdydd.

 

Cyn ei phrentisiaeth roedd Ffion yn gweithio fel gweinyddes mewn bwyty yn Aberystwyth. Astudiodd Ffion Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol a Ffotograffiaeth yn y coleg ac roedd hi’n gwybod ei bod hi am ddechrau gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol ond wyddai hi ddim  sut. Gyda llawer o ymchwil fe ffeindiodd Ffion y brentisiaeth ac fe  benderfynodd hi i ymgeisio.

 

Dwedodd Ffion:

Roeddwn i eisiau gwneud y prentisiaeth oherwydd roeddwn i’n gwybod ei fod e’n mynd i roi sail gref i fi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant teledu a ffilm.

 

Wrth gwblhau ei phrentisiaeth gweithiodd Ffion fel Prentis Rhedwr ar amryw o gynyrchiadau gan gynnwys Llond Ceg, DNA Cymru a Sian Lloyds Work-Life Balance. O ddydd i ddydd roedd Ffion yn ffeindio a chyfweld cyfranwyr gyda potensial ar gyfer rhaglenni dogfen a phlant, trefnu gwaith papur ar gyfer trwyddedau perfformiad plant, ffeindio lleoliadau a chael caniatâd i ffilmio, a hefyd tasgau gweinyddol o fewn y swyddfa. Yn ogystal â gweithio fel Rhedwr roedd Ffion yn gweithio ar set ac allan ar leoliad fel chaperone.

 

Dwedodd Ffion:

Yn ystod fy mhrentisiaeth, fe wnes i wynebu nifer o heriau. Gan nad oeddwn i wedi gweithio mewn teledu o’r blaen, roedd e’n dasg anferth i ddysgu popeth. Roedd ceisio ffeindio cyfranwyr am raglenni heb wybod ble i edrych yn anodd! Ond gydag amser ac ymarfer dechreuais i fod yn fwy trefnus a hyderus. Os ofynnwch i mi ddod o hyd i gyfrannwr am gyfres pobl ifanc nawr, byddwn i’n gallu, heb broblem!

 

Yn dilyn ei blwyddyn fel prentis parhaodd Ffion i weithio i Green Bay Media fel Ymchwilydd am 10 mis. Ers hynny mae Ffion wedi gweithio mewn adrannnau cynhyrchu ar-lein a chorfforaethol, hyfforddiant cyfryngau, ac yn fwy diweddar fel Rheolwr Cynhyrchu Iau I gwmni animeiddio o’r enw Cloth Cat Animation ar gyfres i Channel 5.

 

Mae hi bellach wedi dewis ehangu ei gorwelion unwaith eto trwy dderbyn swydd o fewn y swyddfa cynhyrchu ar ffilm nodwedd o’r enw Judy. Mae’r ffilm yn cael ei saethu o fewn Pinewood Studios gyda Renée Zellweger yn chwarae’r brif ran.

 

Dwedodd Ffion:

Heb y brentisiaeth fyddwn i ddim wedi dysgu’r sgiliau sydd wedi siapio fy ngyrfa hyd yn hyn. Wnes i wneud y penderfyniad i beidio mynd i’r brifysgol felly rhoddodd y brentisiaeth y cyfle i fi ddysgu’n ymarferol. Trwy gael y profiad yma mae hyn wedi gwneud i fi sefyll allan yn erbyn pobl eraill. Dwi wir yn meddwl y byddwn i wedi ffeindio fe’n lot anoddach i ddechrau gyrfa o fewn y diwydiant teledu heb hyn.

Osian Davies

Cwblhaodd Osian Davies, 20 o Glan Conwy, Prentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3 gyda Sgil Cymru nol yn Haf 2016. Gweithiodd Osian fel Prentis Cynhyrchu yn yr adran ffeithiol yn BBC Cymru Wales yn Llandaf. Ers gorffen ei brentisiaeth mae Osian wedi parhau i weithio o fewn yr adran ffeithiol yn BBC Cymru Wales. Dyma ei stori.

 

Cyn ei brentisiaeth cyfryngau roedd Osian yn astudio ei Lefelau A wrth weithio mewn bwyty gwesty yng Ngogledd Cymru.

 

Dwedodd Osian:

Pan ddechreuais astudio fy Lefelau A roeddwn i’n meddwl fy mod i eisiau bod yn berfformiwr. Yn fuan iawn sylweddolais nad oeddwn i eisiau fod yn berfformiwr ond o’n i eisiau gweithio tu ôl y camera. Yn ogystal â hyn doeddwn i ddim eisiau mynychu prifysgol oherwydd nid wyf yn gweld fy hun fel person academaidd ac mae gwell gen i ddysgu wrth weithio. Yn dilyn hyn, dechreuais chwilio am brentisiaethau cyfryngau a theatr a nes i ddod o hyd i’r Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3.

 

Yn dilyn ei benodiad fel Prentis Cynhyrchu Ffeithiol dechreuodd Osian weithio ar raglenni The One Show, BBC Young Musician, X-Ray, Bargain Hunt a Coast.

 

Cafodd Osian y cyfle i gwblhau amrywiaeth o dasgiau wrth gwblhau ei brentisiaeth gan gynnwys gwaith ymchwilio ar The One Show. Gwnaeth y gwaith ymchwilio golygu bod angen i Osian ffeindio storïau, cyfranwyr, lleoliadau ac archif ar gyfer y saethu. Yn ogystal â hyn roedd angen i Osian gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwyr, Cynorthwywyr Rheoli Cynhyrchiad a Chynhyrchydd y Gyfres er mwyn mynd a’r stori o’r dechrau i’r darllediad. Wnaeth swydd Osian newid o ddydd I ddydd a symudodd Osian o gwmpas gwahanol cynyrchiadau er mwyn cael profiadau gwahanol.

 

Dwedodd Osian:

Cefais y siawns i ofalu ar ol y cystadleuwyr a’r barnwyr ar BBC Young Musician, cadw trefn ar offer camera a helpu setio fe lan ar leoliad gyda X-Ray yn ogystal â chysgodi’r rhedwr ar Bargain Hunt a’i helpu gyda galwadau castio ac ar leoliad.

 

Yn dilyn ei flwyddyn fel prentis cafodd Osian swydd fel Rhedwr ar Bargain Hunt. Ers hynny mae Osian wedi parhau i weithio o fewn BBC Cymru Wales ar gynyrchiadau eraill yn cynnwys The One Show ac mae e nawr yn gweithio fel Ymchwilydd Castio ar Bargain Hunt.

 

Dwedodd Osian:

Wnaeth y brentisiaeth fy ngalluogi i ddangos fy mhotensial gwirioneddol. Fe roddodd fwy o hyder i mi a’r hyfforddiant a’r profiad ymarferol yr oeddwn ei angen.

 

DIWEDDARIAD GWANWYN 2022

Mae Osian nawr yn Gynorthwyydd Technegol ac yn Weithredwr Drôn ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r BBC.

 

1.Ble oedd eich lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru?

Fy lleoliad gyntaf oedd yn yr adran ffeithiol ar The One Show gyda’r VT Team yng Nghaerdydd. Ar y pryd, BBC Cymru ond erbyn hyn, BBC Studios. Wnes i helpu hefo ymchwilio fewn i straeon a helpu paratoi y cit ar gyfer saethu’r straeon.

 

2.Pa bryd y dechreuodd pethau ddisgyn i’w lle? Eich bod chi’n gwybod eich bod chi yn y lle iawn?

Ar fy lleoliad gyntaf hefo’r One Show i ffilmio’r stori wnes i setio fyny yng Nghaerfaddon ar y Box Tunnel. Fe wnes i ddysgu sut oedd y cit yn gweithio a chyfarfod a phobl oedd eisiau rhannu eu storiâu nhw. A dyna y foment wnes i sylweddoli fy mod eisiau neud gwaith camera. Gofynnwyd i mi gasglu golygfeydd cyffredinol (GVs)  ar gyfer ffilm arall. Yn yr ystafell olygu, roedd y cyfarwyddwr mor hapus hefo fy ngwaith, roeddwn i’n gwybod mae gwaith camera roeddwn eisiau wneud yn y dyfodol.

 

3.Beth yw’r rhwystr mwyaf rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i oresgyn naill ai yn ystod eich prentisiaeth neu yn dilyn ymlaen ohoni?

Dwi’n meddwl y peth mwyaf dwi wedi goresgyn yw ffeindio fy hunan hyder i wneud y swydd a chredu yn fy hun. Mae’n hawdd yn y diwydiant yma i golli hyder neu i ail feddwl be ti’n neud, yn enwedig wrth edrych ar waith bobl eraill a’r safon maen nhw’n disgwyl o’r gwaith.

 

4.Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch fel prentis?

‘Just do it’. Os wyt ti eisiau gweithio gyda’r camera, cymer luniau neu ffilmia dy stwff dy hun yn dy amser sbâr.

 

5.Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau fel prentis?

Gwrandewch ar y bobol o’ch cwmpas chi ar leoliad. Mae pawb eisiau helpu ac eisiau i chi lwyddo. Os oes gennoch chi gwestiwn neu chi ddim yn deall rhywbeth, peidiwch fod ofn gofyn, mae pawb yn deall eich bod chi yna i ddysgu.

Molleasha Quinn

PODLEDIAD CRIW: I ddarganfod ble mae Meish nawr ac i glywed am brofiad Meish, ewch i Spotify neu i sianel YouTube Sgil Cymru

 

Dechreuodd Molleasha ei gyrfa yn 2015 ar Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3. Gweithiodd Molleasha, 20 o Gaerdydd, fel Prentis Adran Gelf i BBC Cymru Wales ym Mhorth y Rhath yng Nghaerdydd.

 

Cyn darganfod y brentisiaeth roedd Molleasha yn astudio Lefelau A mewn Celf, Astudiaethau Cyfryngau a Dylunio a Thechnoleg. Doedd Molleasha ddim yn hoff iawn o’r syniad o fynd i’r brifysgol ond yr oedd hi’n gwybod bod hi am astudio cwrs creadigol.

 

Dwedodd Molleasha:

Wnaeth dysgu yn y gweithle yn apelio i fi yn hytrach na astudio yn y Brifysgol. Roeddwn i’n gwybod fy mod am wneud rhywbeth creadigol, ond roeddwn yn teimlo’n ansicr am ba gwrs i’w wneud oherwydd mae cyrsiau creadigol yn ddrud ag yn gystadleuol. Rwy’n credu mai prentisiaeth yw’r ffordd orau o ddechrau gyrfa.

 

Wrth gwblhau ei phrentisiaeth wnaeth Molleasha weithio fel Prentis Adran Gelf ar Casualty am y 6 mis cyntaf a Pobol y Cwm am y 6 mis olaf.

 

Yn dilyn ei phrentisiaeth wnaeth Molleasha barhau i weithio gyda BBC Cymru Wales fel Cyfarwyddwraig Celf.

 

Dwedodd Molleasha:

Yn 19 oed gofynnwyd i fi fod yn Gyfarwyddwraig Celf gyda Pobol y Cwm. Yr wyf wedi aros gyda’r BBC yn gweithio fel Cyfarwyddwraig Celf ers Ebrill 2016 a fi ydy’r ieuengaf i’w neud yn barhaus.

 

Yn ogystal a hyn mae Molleasha wedi cadw’n brysyr trwy fynychu cyrsiau dramor ac yn gweithio’n llawrydd ar gynyrchiadau eraill.

 

Dwedodd Molleasha:

Tra o’n i i ffwrdd yn yr Haf, cwblheais i gwrs byr mewn Graffeg a Dyluniad Gweledol yn Los Angeles yn ogystal a gweithio dyddiau yn gwisgo setiau ar Emmerdale. Yn y flwyddyn newydd byddaf yn gweithio fel Cyfarwyddwraig Celf ar Casualty.

 

Ers cwblhau ei phrentisiaeth mae Molleasha wedi gweithio ar amryw o gynyrchiadau ac yn parhau i weithio’n galed i greu enw da i’w hun fel Cyfarwyddwraig Celf. Heb brentisiaeth fyddai hyn ddim wedi bod yn bosib.

 

Dwedodd Molleasha:

Helpodd y brentisiaeth greu fy ngyrfa. Mae hyd y brentisiaeth wedi gadael i fi brofi i’r cyflogwyr pa mor alluog ydw i. Mae adeiladu perthynas fel hyn yn anodd iawn i’w gyflawni trwy wneud cyfnodau byr o brofiad gwaith.

Gabriella Gardner

Dechreuodd Gaby Gardner ei phrentisiaeth yn 2013, ar Brentisiaeth lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol. Roedd Gaby, 21 o Barri, yn gweithio fel Prentis Cynorthwy-ydd Castio ar gyfer asiantaeth castio yng Nghaerdydd, Regan Management (a elwid gynt yn Regan Rimmer Management).

 

Cyn y brentisiaeth mynychodd Gaby 6ed Dosbarth Barri lle bu’n astudio Astudiaethau Theatr, Ffilm a Cherddoriaeth am lefelau A. Trwy gydol ei hamser yn yr ysgol cafodd Gaby trafferth gyda’i hyder. Roedd gan Gaby diddordeb yn y diwydiannau creadigol a gwelodd Gaby y brentisiaeth fel cyfle gwych i adeiladu ei hyder, cwrdd â phobl newydd a chreu gyrfa mewn diwydiant sy’n enwog am fod yn anodd i dorri i mewn i. Ar ôl cael y swydd cymerodd Gaby y cam mawr ac penderfynodd gadael yr ysgol.

 

Fel Prentis Cynorthwy-ydd Castio, Gaby oedd yn gyfrifol am fwcio actorion ar gyfer sesiynau castio, cynnal cronfeydd data, ffilmio clyweliadau actorion a mynd a’r ffilm i’r Cyfarwyddwyr. Roedd yn hanfodol i Gaby i fod yn y gyfarwydd efo talent newydd drwy ymweld â’r theatr gyda’r nos yn ogystal â mynychu arddangosfeydd. Ar ben hyn roedd Gaby yn gweithio’n rheolaidd allan o’r swyddfa yn Llundain.

 

Yn ystod ei phrentisiaeth gweithiodd Gaby ar y cynhyrchiad Theatr na nÓg ‘Tom The Musical’, ffilm nodwedd Kevin Allen (fFati fFilms) ‘Under Milk Wood’ yn ogystal â nifer o gynyrchiadau Clwyd Theatr Cymru. O ganlyniad o weithio ar brosiectau mawr a gorfod delio â nifer o bobl yn ddyddiol, tyfodd hyder Gaby yn sylweddol.

 

Ar ôl cwblhau ei brentisiaeth yn 2014, cynigiwyd swydd amser llawn i Gaby fel Asiant Cynorthwyol gyda Regan Management. Ers hynny mae hi wedi parhau i weithio gyda’r asiantaeth, a efo’i hyder newydd mae Gaby nawr yn setio lan swyddfa newydd Regan Management yn Bryste. Ar hyn o bryd mae Gaby yng nghanol gwrdd gydag actorion lleol a chwmnïau cynhyrchu er mwyn adeiladu rhestr o clientiaid ym Mryste.

 

Dywedodd Gaby:

Mae’r staff Sgil Cymru wedi fy helpu i ddarganfod ochr wahanol i’r diwydiant. Y benderfyniad i gwblhau fy mhrentisiaeth oedd y peth gorau y gallwn i fod wedi gwneud. Mae e wedi agor cymaint o ddrysau a dwi wedi gwneud cymaint o gysylltiadau o fewn y diwydiant. Rwy’n ddiolchgar iawn i Sue a’r tîm am eu cefnogaeth a’r cymorth y maent yn parhau i roi. Yr wyf wrth fy modd yn gwybod eu bod nhw dal efo ddiddordeb yn yr hyn rwy’n ei wneud ac rwy’n gwybod y gallaf droi i Sgil Cymru ar unrhyw adeg. Dwi’n argymell prentisiaethau i unrhyw un sy’n awyddus i ennill a dysgu yn y gwaith!

 

Yn Dathliad Sgil Cymru ym mis Mawrth 2017, enillodd Gaby Gwobr Cyflawniad Eithriadol Creative Risk Solutions Ltd. Enillodd Gaby y wobr hon i nodi llwyddiant rhagorol hi yn y diwydiant ar ôl iddi cwblhau ei brentisiaeth.

Brooklyn Lloyd-Evans

Yn 18 oed, roedd Brooklyn sydd yn byw ym Mhontypridd yn gorffen ysgol ac yn edrych i bontio’r bwlch o addysg i gyflogaeth. Ym mis Medi 2016, canfu y bont honno ar ffurf prentisiaeth gyda ITV Cymru Wales.

 

Roedd Brooklyn eisoes wedi cymryd rhan yn cynllun hyfforddi BBC Cymru ‘It’s My Shout’.  Canfu hi am swydd prentisiaeth lefel 3 mewn cyfryngau creadigol a digidol gyda Sgil Cymru drwy Facebook.

 

Dywedodd Brooklyn:

“Ar ol fy mhrofiad gyda ‘It’s My Shout’ roedd hyn yn cadarnhau i mi fy mod eisiau gweithio yn y diwydiant teledu. Roedd ymwneud â gweithgareddau yn y diwydiant creadigol yn lle roeddwn yn teimlo fwyaf hyderus bob amser. Nawr mae gen i prentisiaeth anhygoel gyda ITV ac rwy’n caru’r swydd yr wyf yn ei wneud.”

 

Roedd rhieni Brooklyn yn gefnogol iawn ac yn gweld ei bod hi yn ymddiddori yn y brentisiaeth ac roedd hi yn falch o’u cymorth. Helpodd rhieni Brooklyn gyda’i ffurflen gais I Sgil Cymru, a fynychodd Brooklyn y gweithdai dethol gyda grŵp o bobl ifanc o oedran tebyg.

 

Dywedodd Brooklyn y trafodwyd prentisiaethau yn yr ysgol ond nid prentisiaethau a oedd yn seiliedig ar y cyfryngau.

 

Roedd pontio o’r ysgol syth i gyflogaeth yn arbennig o heriol ond roedd anwythiad Sgil Cymru yn ddefnyddiol iawn. Dywedodd Brooklyn roedd hi’n naturiol yn teimlo’n nerfus oherwydd roedd hi’n gwybod bod hwn yn gyfle mawr ac yn siawns I wneud rhywbeth gallai hi dim ond wedi breuddwydio amdano. Bu hi yn cymryd rhan mewn tasgau grŵp, dysgu am byrddau stori a sgiliau cyflwyno.

 

Nid oedd Brooklyn yn siŵr beth i’w ddisgwyl nes iddi ddechrau gweithio a dysgu.

 

Brooklyn yw’r cyntaf yn y teulu i fynd i lawr y llwybr o brentisiaeth. Fodd bynnag nid oedd pwysau arni i fynd i brifysgol. Mae ei rhieni nawr yn hapus iawn am ei chyflogaeth gydag ITV.

 

Roedd gan Brooklyn graddau da yn yr ysgol, ond nid oedd llawer o bobl yn disgwyl iddi ddewis gwneud Prentisiaeth. Roedd hi’n nabod rhai pobl o’i hysgol oedd wedi dewis gwneud prentisiaeth ond fel y gwyr hi, hi oedd yr unig ferch yn ei blwyddyn. Roedd Brooklyn yn glir taw Prentisiaeth oedd y llwybr cywir iddi hi.

 

Tra yn gwneud ei prentisiaeth lefel 3 yn y cyfryngau creadigol a digidol gyda ITV ac yn bendant yn mwynhau, mae Brooklyn yn teimlo bod y prentisiaeth wedi rhoi llawer o gyfleuoedd iddi a bod pawb yn gefnogol iawn.

 

Dywedodd Brooklyn:

“Rwyf wedi cael y cyfle i weithio a cwrdd â phobl a dysgu. Mae’r cyfleoedd yn ddiddiwedd. Mae pawb yn ITV mor hyfryd – rwyf wedi cael fy nghroesawu yn llwyr gan bawb, ac rwy’n teimlo’n rhan o’r tîm.”

 

Dywedodd Fiona Frances, ITV Cymru Wales:

“Yn ITV Cymru Wales yr ydym bob amser yn edrych allan am dalent newydd ac rydym 100% tu ôl cyfleoedd i ennill-tra-yn-dysgu. Mae ein prentisiaid wedi dod o bob fath o gefndiroedd ac rydym yn rhoi y cyfle iddynt barhau eu haddysg mewn amgylchedd gweithle. Ein nôd yw rhoi profiad a sgiliau ymarferol i’r prentisiaid er mwyn iddynt blodeuo yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.”

Dylan Mohammad-Smart

PODLEDIAD CRIW: I ddarganfod ble mae Dylan nawr ac i glywed am brofiad Dylan, ewch i Spotify neu i sianel YouTube Sgil Cymru

 

Dechreuodd Dylan Mohammad-Smart ei brentisiaeth yn 2014 ar Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3. Gweithiodd Dylan, 19 o Bontypridd, fel Prentis Chwaraeon Radio gyda BBC Cymru Wales yn Llandaf, Caerdydd.

 

Wrth iddo astudio am ei TGAU cwblhaodd Dylan deuddydd o brofiad gwaith gyda’r BBC yn yr adran Chwaraeon yn Ionawr 2014. Ffeindiodd allan am y prentisiaeth gan y Rheolwr Golygydd o fewn yr adran Chwaraeon yn y BBC. Mae Dylan wastad wedi cael angherdd am chwaraeon a roedd e’n gwybod bod y prentisiaeth yma yn mynd i rhoi’r siawns iddo fe ddechrau ei yrfa yn y diwydiant.

 

Dywedodd Dylan:

Mae gen i angherdd am chwaraeon a rydw i wastad wedi cael diddordeb mawr yn y cyfryngau, neillai yn chwarae fe, yn darllen y colofnau Chwaraeon yn y papur newydd, yn gwylio fe ar y teledu neu yn gwrando arno fe ar y radio. Roedd y prentisiaeth yma yn gyfle perffaith i fi medru rhoi ‘cic-start’ i fy ngyrfa.

 

Tra’n gweithio i BBC Cymru Wales fel prentis cafodd Dylan y cyfle i weithio ar yr ochor radio o fewn yr adran Chwaraeon. O ddydd i ddydd roedd Dylan yn tori clips ar gyfer bwletins, ysgrifennu lincs ar gyfer y cyflwynwyr a hefyd yn trefnu gwesteion ar gyfer y Radio Wales Sport Show. Cafodd Dylan siawns i weithio ar brosiectau mawr yn cynnwys Pel-droed Cymru, Rygbi Rhyngwladol a Gwobrau Chwaraeon Cymru.

 

Dywedodd Dylan:

Roedd gwneud y prentisiaeth yma yn un o fy mhenderfyniadau gorau. Cyn i fi ddechrau’r prentisiaeth fe wnes i droi yn 16 a roedd angen i fi dyfu lan yn gyflym.

 

Roedd Dylan yn 16 yn dechrau ei brentisiaeth a roedd ei ffordd o weithio a’i wybodaeth am Chwaraeon wedi creu argraff da i’w chydweithwyr.

 

Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Dylan wedi gweithio mewn nifer o rôlau wahanol, yn cynnwys Rheoli ar Leoliad. Erbyn hyn mae Dylan yn Gynhyrchydd Cyfryngau Cymdeithasol sydd yn golygu ei fod e’n gyfrifol am dudalennau Twitter a Facebook ar gyfer BBC Wales Sport a BBC Scrum V. Mae Dylan hefyd yn ffilmio ac yn golygu cynnwys ei hun ac yn cyhoeddi fe ar draws tudalennau cyfryngau cymdeithasol y BBC gan gynnwys gwefan Chwaraeon BBC.

 

Dywedodd Dylan:

Rydw i wedi bod yn gweithio yn y Cyfryngau Cymdeithasol ers Hydref 2016 felly dwi dal yn newydd i’r swydd ac mae gen i lot i ddysgu o fewn y maes. Dwi’n gobeithio dwi’n mynd i aros ar yr ochr cyfryngau cymdeithasol am y dyfodol agos.

Joseph Marshall

Tra’n gweithio mewn swyddi rhan amser, fe ddarganfyddodd Joseph Marshall yr hyn mae yn disgrifio nawr fel “siawns unigryw sydd dim ond yn digwydd unwaith mewn oes“, wrth chwilio am gyfleoedd profiad gwaith.  Wedi darganfod prentisiaeth gyda Sgil Cymru fe wnaeth gais llwyddiannus a, brentisiaeth Ôl-gynhyrchu gyda’r BBC.

 

Tra’n cyfuno ei rôl gyda’r  BBC, ac  astudio cymhwyster lefel 3 am flwyddyn, cafodd Joseph y siawns i hefyd weld  y cyfrifoldebau mewn  swyddi eraill  y tu fewn i’r cwmni. Er bod Joseph yn gweithio’n bennaf yn ganolfan ddrama ym Mhorth y Rhath ar raglen BBC, Casualty, cafodd gyfle hefyd i weithio ar Doctor Who ac ar raglenni ffeithiol sy’n cael eu cynhyrchu ym mhencadlys y BBC yn Llandaff, Caerdydd. Wrth i’r deuddeg mis dod i ben, cynigwyd cytundeb tri mis gan y BBC i Joseph fel Cynorthwyydd Golygu.

 

Ar ddiwedd y cytundeb tri mis, fel llawer o weithiwr mewn adrannau Ôl-gynhyrchu, fe aeth Joseph yn llawrydd, er mwyn cymryd y cam nesa yn ei yrfa. Profodd y cysylltiadau, a wnaeth Joseph trwy gyfnod ei brentisiaeth, yn amhrisiadwy. Gan gychwyn ei yrfa hunangyflogedig, roedd llawer o bobl yn cynnig gwaith i Joseph gan gydnabod ei waith caled.  Cyn hir, dychwelodd yn nôl i Casualty i weithio ar gynnwys ar-lein y rhaglen.

 

Tra bod Joseph yn anelu at ddatblygu ei yrfa mewn ôl gynhyrchu teledu a chyfryngau cymdeithasol, mae’n cydnabod y rhan hanfodol y mae’r brentisiaeth wedi chwarae yn ei daith i yrfa yn y diwydiant.

 

Dwedodd Joseph:

Heb y cynllun prentisiaeth, ni fyddwn i ddim lle’r ydw i heddiw. Nid wyf yn unig wedi tyfi yn fy ngyrfa ond hefyd fel person. Cyn i mi ddod i weithio fel prentis i’r BBC, ‘roeddwn i’n swil iawn. Mae’r brentisiaeth wedi dysgu imi sut i gyfathrebu â phobl. Roedd pob un aelod o dîm Sgil Cymru yn anhygoel, pob un yn  fy arwain at swydd lwyddiannus yn y cyfryngau.

 

DIWEDDARIAD HAF 2023

 

Simon Guy

Fy enw i yw Simon Guy ac rwy’n gyn-Brentis Camera gyda Sgil Cymru. Y dyddiau hyn rwy’n weithredwr Camera llawrydd yn gweithio ar wahanol fathau o gynyrchiadau.

 

Dechreuais fy mhrentisiaeth gyda BBC Cymru yn gweithio ar ‘Casualty’ ac yna ‘Pobol Y Cwm’. Bryd hynny roedd fy nyletswyddau’n cynnwys ceblau a batris, a gwnes yn siŵr fy mod yn gwneud y gwaith yn dda. Ar ôl gorffen fy mhrentisiaeth, roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig swydd cynorthwyydd camera llawn amser ar gyfer ‘Pobol Y Cwm’. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dysgais bwysigrwydd sgiliau trefnu a sut i weithio gyda phobl; roedd pob un bloc ffilmio yn wahanol i’r un nesa gyda chyfarwyddwyr, gweithredwyr camera a chriwiau gwahanol.

 

Ar ôl ychydig o flynyddoedd, cefais fy symud i adran weithrediadau BBC Cymru. Roedd hyn yn golygu mwy o amrywiaeth ar gyfer y math o gynyrchiadau roeddwn yn gweithio arnynt. Dechreuais weithredu camera ar y newyddion a chwaraeon, a sioeau stiwdio fel ‘Crimewatch Roadshow’ a ‘Wales Live’. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, canolbwyntiais ar ddysgu cymaint ag y gallwn a gwella fy sgiliau, gan gynnwys dysgu gweithredu’r jib. Yna, cefais ddyrchafiad i rôl gweithredwr camera llawn amser yn BBC Cymru.

Wrth i ni ddod i ddiwedd ein cyfnod yng Nghanolfan Ddarlledu BBC Cymru yn ardal Llandaf, Caerdydd, roedd cyfle i fod yn rhan annatod o’r symud o Landaf i’r adeilad newydd yng nghanol Caerdydd. Neidiais ar y cyfle i wneud hynny. Roedd yn rhaid i mi greu ‘shots’ a symudiadau gan ddefnyddio’r camerâu roboteg i weithio gydag awtomeiddio yn yr orielau newyddion a’r stiwdios. Roedd y profiad hwn mor werthfawr, nid yn unig o ran dysgu technoleg newydd ond gweithio dan bwysau mawr a chyfyngiadau amser yn ystod y pandemig.

 

Ar ôl cwblhau’r prosiect, penderfynais ei bod hi’n amser i mi fentro allan i’r byd llawrydd. Felly, ym mis Ebrill eleni gadewais y BBC I fod yn hunangyflogedig. Mae gwneud hyn wedi bod yn un o’r profiadau mwyaf cyffrous yn fy ngyrfa hyd yn hyn; nid yn unig yr wyf yn gallu gweithio ar raglenni amrywiol, ond rwyf hefyd yn cyfarfod â phobl newydd bron bob dydd. Rydw i hyd yn oed wedi cael cyfle i gyfarwyddo, profiad cyffrous tu hwnt.

Mae’n deg i ddweud na fyddai dim o hyn wedi bod yn bosib heb Sgil Cymru a’r bobl wych sy’n gweithio yno…perswadio bachgen pentref bychan o ogledd Cymru y gallai gael gyrfa yn y diwydiant gwych hwn.

Diolch yn fawr iawn.

Eugenia Taylor

PODLEDIAD CRIW: I ddarganfod ble mae Eugenia nawr ac i glywed am brofiad Eugenia, ewch i Spotify neu i sianel YouTube Sgil Cymru

Enw: Eugenia Taylor

Oedran: 22

O: Caerdydd

Cyflogwr Prentis: ITV Cymru Wales

Swydd Teitl Prentis: Prentis Cyfryngau Creadigol a Digidol

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Cyn y brentisiaeth, roeddwn yn gweithio fel marchnatwraig ar-lein yn Escentual.com, sef safle manwerthu ar-lein ar gyfer cynhyrchion harddwch. Roeddwn i’n gweithio yn y maes manwerthu ers pan o’n i’n 16 oed, hyd at y diwrnod dechreuais i weithio I ITV.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Roeddwn i’n chwilio am swydd achos benderfynais i ‘mod i am adael y byd manwerthu a dechrau gyrfa newydd. Roeddwn eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac mae gen i ddiddordeb mawr erioed mewn teledu, ffilm a’r cyfryngau felly meddyliais byddai prentisiaeth yn ITV yr union beth roeddwn yn edrych amdano, a’r her berffaith.

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Roedd y swydd yn amrywiol iawn. O’r dechrau un, cefais fy nhaflu mewn i ddysgu am swyddi Arbenigwyr Cynhyrchu, fel Cynorthwyydd Cynhyrchu, Sain, Autocue, Rheolwr Stiwdio a Gweithredwr Camera Stiwdio ar gyfer bwletinau newyddion amser cinio a chwech o’r gloch.  Cefais y dasg hefyd o greu fy fideos ar-lein fy hun, gan roi cyfle i mi ddysgu sut i olygu gan ddefnyddio AVID, a deall sut i osod camera ar gyfer cyfweliad. Galluogodd hyn i fi ddeall pa fath o siots sydd eu hangen i greu rhediad syml.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?

Cefais y cyfle i weithio o fewn yr adran raglenni, a chysgodi un o’r cynhyrchwyr wrth iddi wneud cyfres dair rhan o’r enw “Station 20”, oedd yn dilyn hynt a helynt gorsaf dân yn y Bari. Gosodais y camera ar gyfer rhai o’r cyfweliadau, a sicrhau hefyd fod y person o fewn y ffrâm trwy gydol y cyfweliad.

Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?

Roedd ceisio cadw cydbwysedd rhwng swydd llawn amser ac aseiniadau ar gyfer y brentisiaeth yn anodd ar brydiau. Fodd bynnag, drwy gwblhau’r gwaith gartref cyn gynted â phosib neu yn ystod cyfnodau tawel, llwyddais i ddod i ben â phopeth.

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Pan wnes i gwblhau fy mhrentisiaeth, roeddwn i eisoes yn gweithio ers tri mis yn fy rôl newydd fel ymchwilydd dan hyfforddiant, ar un o gomisiynau rhwydwaith newydd ITV Wales. ‘Roedd yn dipyn o sioc gan i mi gael llawer o gyfrifoldeb yn gyflym iawn o’i chymharu â’r brentisiaeth, ble doeddwn i ddim ond yn cysgodi ac yn dysgu.

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

Yn ddi-os, helpodd hyn fi i dyfu a dysgu bod yn hyblyg. Roeddwn yn falch iawn fod y newid hwn wedi digwydd yn ystod, ac yn fuan wedi fy mhrentisiaeth, gan ‘mod i’n cael cefnogaeth gyson gan y tiwtoriaid yn Sgil Cymru, yn ogystal â fy rheolwraig yn ITV. Roedd hi’n ymwybodol o fy mhwysau gwaith a chefais i gyfarfodydd rheolaidd gyda hi a gyda Nadine, fy mentor Sgil Cymru.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Hoffwn ddatblygu fy sgiliau ymhellach, gan obeithio parhau â hyfforddiant camera, yn ogystal â chael mwy o brofiad newyddiadurol fel ymchwilydd. Dwi eisiau parhau i weithio gyda’r adran raglenni yn ITV a byddwn wrth fy modd bod yn Gynorthwyydd Cynhyrchu un diwrnod, a chynhyrchu fy rhaglen fy hun.

 

DIWEDDARIAD GWANWYN 2022

 

Mae Eugenia erbyn hyn yn gweithio fel Cynhyrchydd Cynorthwyol i ITV Cymru Wales.

 

Ble oedd eich lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru?

Roeddwn i gyda ITV Cymru Wales a gwnes i brentisiaeth cyfryngau Creadigol a Digidol.

 

Pa bryd y dechreuodd pethau ddisgyn i’w lle? Eich bod chi’n gwybod eich bod chi yn y lle iawn?

Sylweddolais fy mod yn y lle iawn pan oedd mynd i’r gwaith bob dydd yn hwyl ond yn her hefyd. Roedd pawb gan gynnwys fy rheolwr, Nadine a Sue o Sgil Cymru mor gefnogol ac yn awyddus i fy helpu bob cam o’r ffordd. Sylweddolais yn fuan fod gennyf gariad at yr adran raglenni yn ogystal â newyddiaduraeth a phan welodd fy rheolwr yr angerdd hwn, caniataodd i mi aros yn yr adran am ran helaeth o’m prentisiaeth. Gadawodd yr holl gynhyrchwyr i mi eu cysgodi, mynd allan ar leoliad gyda nhw a fy annog i ddysgu cymaint â phosibl.

 

Beth yw’r rhwystr mwyaf rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i oresgyn naill ai yn ystod eich prentisiaeth neu yn dilyn ymlaen ohoni?

Ar ôl fy mhrentisiaeth, roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd fel ymchwilydd/cynorthwyydd rhaglen yn gweithio ar raglenni rhanbarthol a rhwydwaith yn ITV Cymru. Ond mae’n debyg mai fy rhwystr mwyaf oedd gwneud fy hyfforddiant newyddiaduraeth yn ITV, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Fe wnes i hynny yn ystod y pandemig ac felly roedd llawer o ddysgu adref ac ar-lein. Rwy’n ddysgwr eithaf ymarferol felly roedd methu â mynd i’r swyddfa yn anodd iawn ac roedd y flwyddyn hyfforddi ei hun yn gam mawr ymlaen i mi. Roedd yn rhaid i mi wneud arholiad NCTJ yn ogystal â dysgu nifer o wahanol sgiliau newyddiadurwr cynhyrchu er mwyn gorffen yr hyfforddiant. Ond rwy’n meddwl bod fy mhrentisiaeth wedi fy mharatoi ar gyfer yr her oherwydd roeddwn bob amser yn dysgu rhywbeth newydd felly rhoddodd yr hyder i mi wybod fy mod yn gallu neud y swydd. Ac wrth gwrs, roedd cefnogaeth pawb yn ITV Cymru yn anhygoel felly fe wnaeth fy sbarduno i wneud y gorau o’r sefyllfa.

 

Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch fel prentis?

Y cyngor gorau a gefais oedd gan Nadine a Sue sef gwneud y mwyaf o’r flwyddyn. Cymerais y cyngor hwnnw o ddifri, a drïes i gydio ym mhob cyfle a gefais i ddysgu rhywbeth newydd. Fe wnes i ymdrech hefyd i wneud cysylltiadau. Felly, os oedd rhywun yn cymryd yr amser i ddangos rhywbeth i mi, byddwn yn gwneud yn siŵr fy mod yn barchus ac yn garedig ac felly os oeddwn erioed angen cymorth neu eisiau gofyn cwestiwn yn y dyfodol, roeddwn yn teimlo y gallwn fynd at y person hwnnw eto am eu harbenigedd.

Rwy’n meddwl heb arweiniad pawb yn Sgil Cymru byddwn i wedi bod ar goll yn ystod fy mhrentisiaeth.

Ond fe wnaethon nhw hefyd ein hatgoffa ni pa mor bwysig oedd hi i gadw i fyny â gwaith ysgrifenedig a thasgau eich prentisiaeth. Felly roeddwn bob amser yn gwneud ymdrech i’w chwblhau cyn gynted â phosibl ag o’r safon orau. Gadawodd hynny fwy o amser i mi wneud y swydd yn ITV ac roeddwn yn gallu canolbwyntio ar ddysgu sgiliau newydd oherwydd doeddwn i ddim yn poeni am fy ngwaith arall.

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau fel prentis?

Peidiwch â bod ofn rhoi eich hun allan yna ag i wthio eich hun i brofiadau newydd. Os oes gennych chi awr ychwanegol yn y dydd, allwch chi ddefnyddio’r awr honno i gynnig syniad newydd, neu helpu rhywun sydd â llwyth o waith i gyflawni? Gall y flwyddyn hedfan heibio, ond mae pawb eisiau eich helpu i ddysgu, felly peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau a dangos pa mor angerddol ydych chi am y swydd.

Gwenno Ellis Owen

Enw: Gwenno Ellis Owen

Oedran: 18

O: Amlwch, Ynys Môn

Cyflogwr Prentis: Boom Cymru

Swydd Teitl Prentis: Prentis Cydlynydd Cynyrchu

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Cyn y brentisiaeth, roeddwn yn ddisgybl ysgol, yn y chweched dosbarth.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Es i am y brentisiaeth gan ei bod yn rhoi cyfle i mi gwblhau cymhwyster lefel 3, tra’n ennill cyflog ar yr un pryd.

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Roedd fy swydd brentis yn ymwneud â nifer o wahanol ddyletswyddau. Roeddwn I’n gwneud llawer o waith papur a chlirio cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni ffeithiol/byw a hefyd eitemau digidol oedd yn mynd ar wefannau cymdeithasol. Roeddwn hefyd yn gweithio fel rhedwr ar lu o gynyrchiadau oedd yn cynnwys darllediadau byw.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?

Rydw i wedi bod yn lwcus o gael gweithio ar ystod eang o raglenni. Gweithiais fel rhedwr ar raglen byw “Stwnsh Sadwrn” bob bore Sadwrn. Rydw i hefyd wedi cael gweithio ar raglenni ffeithiol fel Prosiect Pum Mil.

Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?

Yr unig anhawster y gwnes i wynebu yn ystod fy mhrentisiaeth oedd gorfod byw yn bell o adra. Ond yn lwcus, mi wnes i oresgyn hyn drwy gyfarfod pobol wych drwy Sgil Cymru – a rhywun y rydw i nawr yn alw’n ffrind gorau

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth, roeddwn yn ddigon lwcus i gael cynnig cytundeb arall gan Boom tan ddiwedd mis Chwefror ond erbyn nawr mae wedi cael ei ymestyn tan fis Gorffennaf, felly mae’n rhaid bod i’n gwneud rhywbeth yn iawn!

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

Rwy’n credu mod i’n lot fwy hyderus nawr o gymharu i ddechrau’r brentisiaeth. Rydw i hefyd yn llawer mwy annibynnol yn bersonol, a hefyd yn y gweithle.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Dydw i ddim yn siŵr beth yw’r cam nesaf yn fy ngyrfa. Rydw i’n mwynhau gweithio i Boom ar hyn o bryd. Ond rydw i hefyd yn agored i drio pethau newydd, gan fy mod i’n licio

 

DIWEDDARIAD Haf 2022

 

Diwrnod mewn bywyd Gwenno Ellis Owen

Dwi’n gydlynydd cynhyrchu i Boom Cymru, a dwi ar hyn o bryd yn gweithio ar ddrama newydd ‘Y Goleudy’!

Dwi’n cyrraedd y swyddfa bob bore am 9yb a’r peth cyntaf dwin neud ydi checio ebyst a gweld os oes rhywun wedi gyrru ebost. Dwi yna yn hoffi sgwennu ‘to-do’ list ar gyfer y diwrnod – does dim byd mwy ‘satisfying’ na ticio rhain off!

Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ar ddrama, felly mae lot o fy ngwaith yn cynnws paratoadau ar gyfer y diwrnod saethu nesaf. Felly, pob dydd bydd angen i mi rhoi y ‘sides’ at ei gilydd, eu printio ar gyfer y cast ac yna paratoi ebost yn cynnwys call sheet, sgript ‘sides’ a chyfarwyddiadau i’r set.

Mae fy nhyfrifoldebau hefyd yn cynnwys sortio unrhyw treuliadau gan cast a chriw a chlirio hawlfraint ar unrhyw ddeunydd bydd yn cael ei weld ar sgrin gan gynnwys cerddoriaeth. Dwi hefyd yn gweithio tuag at ein tystysgrif Albert, sef tystysgrif sydd yn dangos ein bod ni yn gwneud ymdrech i leihau ein ol-troed carbon yn ystod y cynhyrchiad. Os oes unrhyw actorion ifanc ar set, rydw i’n ei trwyddedu gyda’r cyngor. Byddai hefyd yn archebu gwesty i’r criw a’r cast os ydym yn saethu rhywle sydd tu fas i Gaerdydd.

‘Da ni wrthi’n dod i derfyn y cyfnod ffilmio felly fy mhrif gyfrifoldeb ar hyn o bryd ydi sortio’r parti WRAP!

Gan ein bod yn dilyn amserlen tynn, gall broblem godi unrhyw bryd! Un diweddar oedd teiar flat ar y fan camera, felly roedd angen sortio hwn cyn gynted a phosib. Problem fach arall sydd wastad yn digwydd yw bod y printer yn stopio gweithio! Dwi angen printio tua 20 copi o ‘sides’ bob dydd felly mae hwn yn gallu bod yn niwsans!

Rydym yn cael cinio tua 1 bob dydd, rydym yn cael cwmni arlwyo i ddod ar set i fwydo cast a chriw. Gan mod i wedi fy leoli yn y swyddfa mae un ohonom ni yn mynd i set i gasglu bwyd i’r gweddill. Neu, mae rhedwr yn dod a’r prydau yn nol i ni.

Byddai yna yn gweithio trwy’r prynhawn tan WRAP, mae amser WRAP yn newid bob dydd yn dibynnu ar yr amserlen. Ac yna, ar ol WRAP dwi’n cael pwyso ‘send’ ar yr ebost i’r holl gast a chriw gyda manylion y diwrnod nesaf!

Zahra Errami

PODLEDIAD CRIW: I ddarganfod ble mae Zahra nawr ac i glywed am brofiad Zahra, ewch i Spotify neu i sianel YouTube Sgil Cymru

Enw: Zahra Errami

Oedran: 26

O: Ynys Môn

Cyflogwr Prentis: ITV Cymru Wales

Swydd Teitl Prentis: Prentis Creadigol a Digidol

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Rheolwr llawr i siop ddillad stryd fawr boblogaidd.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Dwi ddim y person mwyaf academaidd, a wnes i byth ffeindio rhywbeth oedd o wir ddiddordeb i fi astudio yn y Brifysgol, felly roedd prentisiaeth ble allwn i ddysgu tra’n gweithio mewn diwydiant creadigol, yn swnio’n berffaith. Roeddwn i ‘di bod yn gweithio fel Colurwraig am nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ac wedi joio gweithio ar gyfer teledu a ffilm, felly roedd y diddordeb yn y diwydiant wastad wedi bod yno.

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Fues i yn lwcus iawn i gael profi amryw o swyddi gwahanol, o ffilmio a bod yn y galeri i ysgrifennu darnau newyddiadurol gwreiddiol i wefan ITV Cymru. Wnes i ddisgyn mewn cariad gyda’r ochr newyddiadurol o’r swydd yn yr adran ddigidol. Ges i siawns i gael  rheolaeth greadigol o’r Instagram, ac aeth hwnnw â fi i uchelfannau (yn llythrennol!)  hollol boncyrs, fel ar do Stadiwm y Principality, rhywle faswn i erioed wedi dychmygu gallwn i fynd.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?

Dwi ‘di bod yn rhan o gymaint yn ystod fy mhrentisiaeth! Ges i siawns i fod yn ymchwilydd i gyfres Ein Byd a Y Byd ar Bedwar o fewn yr adran Materion Cyfoes Cymraeg. Hefyd wnes i gael y cyfle i greu cynnwys digidol i ITV Cymru ac i Hansh S4C. Mae creu cynnwys digidol i ITV Cymru yn ystod gŵyl Balchder/Pride Cymru, yn un o’r prosiectau dwi’n fwyaf balch ohoni.

Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?

Na, dim rili. Roedd yn dipyn o her gorfod ail-wneud fy sgiliau allweddol, ond gyda chefnogaeth y staff yn Sgil Cymru, yn ogystal â chydweithwyr, wnes i allu gorffen yr unedau a’u cael allan o’r ffordd, i mi gael ffocysu ar fy ngwaith. Fel arall, mi oedd e’n bleser o’r dechrau i’r diwedd.

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Roeddwn i’n lwcus! Daeth swydd Newyddiadurwr o Dan Hyfforddiant i Hansh S4C i fyny, oedd yn siwtio fi i’r dim. Wnes i gais ac o fewn ychydig wythnosau, ges i gyfweliad. Pythefnos wedyn, gyda mis ar ôl o fy mhrentisiaeth, ges i’r newyddion bod fi wedi cael y swydd. Felly es i’n syth mewn i’n rôl newydd pan ddaeth y brentisiaeth i ben.

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

Dwi wedi tyfu gymaint o ran hyder yn fy hunan ac yn fy sgiliau. Dwi’n gweld gwellhad yn fy Nghymraeg, llafar ac ysgrifenedig. Mae hyn lawr i’r faith i mi gwblhau gwaith yn Gymraeg yn Sgil Cymru a gweithio o fewn yr adran rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru. Fyswn i’n dweud bod fy agwedd tuag at waith wedi newid. Ar ôl gweithio am flynyddoedd mewn siopau dillad, roeddwn i’n teimlo’n ddigymell, gyda diffyg ffocws yn fy ngyrfa. Nawr dwi’n deffro bob bore yn edrych mlaen i fynd i ‘ngwaith ac yn teimlo yn fwy positif am fy ngyrfa.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Dwi’n gobeithio gwneud y mwyaf allan o’n swydd o dan hyfforddiant er mwyn sicrhau swydd fel Newyddiadurwr Aml-gyfryngol, rôl eithaf newydd i ITV sydd â mwy o ffocws ar elfennau digidol o’i gymharu â newyddiadurwr cyffredinol. Byswn i wrth fy modd yn cynhyrchu rhaglenni dogfen ddigidol i un o’r darlledwyr mawr yn y dyfodol.

 

DIWEDDARIAD GWANWYN 2022

 

 

Mae Zahra ar hyn o bryd yn gweithio fel Cynhyrchydd Fidio Digidol a Chyflwynydd gyda ITV News sydd wedi ei leoli yn ITN yn Llundain.

 

Ble oedd eich lleoliad cyntaf gyda Sgil Cymru?

 Roedd fy lleoliad cyntaf gydag ITV Cymru ym Mae Caerdydd.

 

Pa bryd y dechreuodd pethau ddisgyn i’w lle? Eich bod chi’n gwybod eich bod chi yn y lle iawn?

 Cefais groeso ar unwaith yn ITV Cymru, a dwi’n credu i fi feddwl ar y cychwyn fod pawb yn llawer rhy brysur a phwysig i roi amser a chyngor i’r prentis – ond roedd hynny’n gwbl anghywir, roedd pawb yn hynod o gyffrous i’n cael ni yno ac yn fwy na pharod i wrando ar bersbectif a syniadau newydd.

Cefais gyfle i dreulio amser ar y ddesg ddigidol, ac roeddwn i’n teimlo bod fy syniadau’n cael eu gwerthfawrogi a chefais lawer o gyfrifoldeb yn gynnar – dyna pryd roeddwn i’n teimlo fy mod wedi dod o hyd i’m lle.

 

Beth yw’r rhwystr mwyaf rydych chi’n meddwl eich bod chi wedi’i oresgyn naill ai yn ystod eich prentisiaeth neu yn dilyn ymlaen ohoni?

 Fy rhwystr mwyaf yn bendant oedd rhywbeth roeddwn i wedi sylweddoli ar ôl y brentisiaeth, y gall y diwydiant fod yn gystadleuol – am bob cyfle mae 20 o bobl eraill hefyd eisiau’r un un. Ond dwi’n meddwl os ydych chi’n aros yn ddilys, os oes gennych chi syniadau da ac ymroddiad i’r gwaith – nid yw cystadleuaeth yn broblem!

 

Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch fel prentis?

 Dywedodd Sue Jeffries wrthyf unwaith am ‘beidio â bod yn gyfforddus’ lle’r ydych chi, a chyn gynted ag y byddwch yn teimlo nad ydych yn symud ymlaen neu ddim yn dysgu – mae’n bryd symud ymlaen. Rydw i wedi glynu wrth hynny, ac mae dilyniant yn rhywbeth rydw i wedi’i gyflawni flwyddyn ar ôl blwyddyn ers clywed hynny. Mae’n hawdd mynd yn sownd mewn un lle a diolch am y cyfle, ond mewn diwydiant lle mae pethau’n newid ac yn datblygu drwy’r amser, rhaid i chi gofio eich bod chi angen neud yr un peth.

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau fel prentis?

 Gorau po fwyaf o sgiliau! Cymerwch bopeth a ddysgwch yn Sgil Cymru ac ar leoliad, rhowch gynnig ar bopeth y gallwch ei wneud, yn y pen draw mae gwybod ychydig o bopeth yn fantais. Hefyd, arhoswch yn driw i chi’ch hun, yr hyn sy’n eich gwneud chi’n wahanol i ymgeiswyr eraill mewn swyddi yn y dyfodol yw eich dilysrwydd a’ch gwerthoedd – felly peidiwch â dioddef gan glitz a hudoliaeth y diwydiant!

 

 

Jesse Edwards

Jesse Edwards

O: Ebbw Vale

Cyflogwr Prentis: BBC Radio Cymru

Swydd Teitl Prentis: Prentis Talent Newydd

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Cyn y brentisiaeth, roeddwn i’n weldiwr.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Roeddwn eisiau’r brentisiaeth hon am y byddai’n gam gynta’ tuag at yrfa yr oeddwn am ei dilyn.

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Roedd fy swydd brentis yn golygu bod yn ymchwilydd ar draws holl raglenni dyddiol Radio Wales.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?.

Yn ystod y brentisiaeth, roeddwn i’n dod o hyd i gyfranwyr a chynnwys ar gyfer rhaglenni fel “3 In 30” a “How to” ar raglen Wynne Evans. Roeddwn hefyd yn gwneud y canlynol:

• Gweithio fel ymchwilydd ar sioe phone-in mwya’ poblogaidd Cymru fel ymchwilydd, yn gyfrifol am drefnu gwesteion ac ysgrifennu briffiau a sgriptiau i amserlen lem iawn.

• Gweithio yn y stiwdio ar draws yr holl raglenni dyddiol (Phone-In, Wynn Evans ac Eleri Siôn), nodi amseriadau a gwneud yn siŵr fod pethau’n rhedeg mor llyfn â phosib yn y stiwdio tra roeddem ar yr awyr.

• Ateb y ffôn ar y penwythnosau ar gyfer sioeau fel Money for Nothing a Carol Vorderman.

Wnaethoch chi wynebu unrhyw anawsterau tra’n gwneud y brentisiaeth?

Wnes i wynebu dipyn o anhawsterau yn ystod fy mhrentisiaeth, o ddelio gyda pwysau gwaith i “impostor syndrome”. Llwyddais i orchfygu fy anhawsterau drwy’r awydd i lwyddo a pheidio â cholli’r cyfle a gefais.

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Wedi cwblhau fy mhrentisiaeth, parheais i weithio gyda Radio Cymru ar draws eu holl raglenni.

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

O ganlyniad i’r brentisiaeth, dwi wedi tyfu fel person ac wedi dod yn unigolyn mwy hyderus a chyflawn.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Mae cynlluniau i mi gael fy hyfforddi mewn dilyniant dros yr haf. Ond fy ngham nesaf yw cael cytundeb gyda BBC Radio Cymru ac ehangu fy rhwydwaith o gysylltiadau yn y dyfodol.

Daniel Snelling

Enw: Daniel Snelling

Oedran: 21

O: Casnewydd

Cyflogwr Prentis: Real SFX

Swydd Teitl Prentis: Prentis Creadigol a Digidol

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?

Cyn fy mhrentisiaeth, ro’n i’n rheolwr warws ar gyfer cwmni bach oedd yn gosod sgriniau LED ar gyfer cleientiaid fel Carphone Warehouse a Dixon’s Travel. Yn ffodus iawn, o ganlyniad i’r profiad hyn, roeddwn i’n gallu addasu i’r gwaith gyda Real SFX heb ddim problem.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?

Roeddwn wedi bod eisiau gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm erioed ond doeddwn i ddim yn gwybod sut i gymryd y cam cyntaf. Roedd Sgil Cymru yn ffordd wych o gael cymhwyster, dysgu wrth i mi ennill cyflog, a chreu cysylltiadau yn y diwydiant, o’r cychwyn cyntaf.

Beth oedd cyfrifoldebau’r swydd brentis?

Fel Prentis Effeithiau Arbennig, roedd fy nyletswyddau yn cynnwys glanhau a chynnal y cit, trefnu stoc a nwyddau traul y gweithdy, llwytho faniau gyda’r cyfarpar perthnasol ar gyfer y gwaith, a chynnal y faniau.

Ar ba raglenni/prosiectau wnaethoch chi weithio?

Tuag at ddiwedd fy mlwyddyn, cefais gyfle i fynd ar setiau rhaglenni megis His Dark Materials, Doctor Who, Dracula ac Intergalactic.

Beth ddigwyddodd wedi i chi gwblhau eich prentisiaeth?

Ers gorffen fy mhrentisiaeth, dwi wedi cael gwaith llawn-amser gyda Real SFX. Dwi wedi derbyn mwy o gyfrifoldebau o fewn fy rôl ac wedi tyfu i fod yn aelod cyson o’r tîm.

Ydych chi wedi newid/tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?

Gan ddefnyddio’r wybodaeth dwi wedi ei hennill drwy gydol fy mhrentisiaeth, dwi nawr yn fwy hyderus pan yn gweithio yn y gweithdy ac ar set.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?

Oherwydd fy nghymhwyster, mae gen i bellach lwybr gyrfa ymarferol mewn i’r diwydiant ffilm a theledu.

Mairéad Harris

Enw:                                        Mairéad Harris
Oedran:                                   22
O:                                              Powys
Cyflogwr Prentis:                  BBC Cymru Wales
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Gwisgoedd

 

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Cyn dechrau ar y brentisiaeth roeddwn i’n astudio am fy Lefel A.

 

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?
Roeddwn i am wneud y brentisiaeth oherwydd roedd gen i ddiddordeb mewn popeth sy’n ymwneud a gwisgoedd a ffabrig. Roeddwn i’n awyddus i ymchwilio mewn i wisgoedd yn y byd teledu a ffilm felly roedd y brentisiaeth yn gyfle perffaith i mi fedri camu mewn i’r diwydiant.

 

Roedd y ffaith nad oeddwn i angen fynd i’r brifysgol er mwyn gwneud y brentisiaeth yn ffactor mawr i mi, oherwydd mae gwell gen i neidio mewn a dysgu wrth fynd ymlaen.

 

Beth oedd eich swydd brentis yn ei olygu?
Gweithiais ar yr ochr paratoi  a saethu cynyrchiadau. Ar yr ochr paratoi roeddwn i’n cynnal a chadw’r dillad, yr ystafell storio (sydd fel un llwybr anferth mewn cwpwrdd dillad), ac ystafell y Prif Artistiaid (sef lle mae’r holl wisgoedd cast yn cael eu cadw). Sicrheais hefyd fod y tîmau saethu a’r paratoi yn gweithio mewn amgylchedd trefnus ac ymarferol, sy’n gwneud eu swyddi mor hawdd â phosib. Ar yr ochr saethu, reoddwn yn cynorhwyo gyda’r cydlynnu gwisgoedd y brif gast a hefyd yr artistiaid cefndir. Roeddwn i hefyd yn helpu paratoi’r gwisgoedd ar gyfer y diwrnodau saethu sy’n golygu tynnu allan y gwisgoedd cywir ar gyfer yr holl  olygfeydd sydd i’w saethu mewn diwrnod a sicrhau eu bod nhw i gyd yn edrych yn daclus, gyda’r ategolion cywir.

 

Ar ba raglenni / prosiectau wnaethoch chi weithio?
Gweithiais ar Casualty a Pobol y Cwm pan yn cwblhau fy mhrentisiaeth.

 

Beth ddigwyddodd pan wnaethoch chi gwblhau eich prentisiaeth?
Ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth fe gadwodd Casualty fi ymlaen fel Rhedwr Gwisgoedd am flwyddyn, ac wedyn es i’n llawrydd. Ers hynny rydw i wedi gweithio ar lawer o gynhyrchiadau yn cynnwys yr ail gyfres o Keeping Faith/Un Bore Mercher i’r BBC a S4C a Sex Education i Netflix.

 

Ydych chi wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Rydw i’n teimlo fel fy mod i wedi aeddfedu ers gwneud y brentisiaeth oherwydd roeddwn i’n gweithio gyda phobl oedd yn hun yna fi. Mae’r diwydiant yn un hwyl i weithio ynddo,ond mae’n holl bwysig i gofio ac i gadw at y moesau arferol i’r diwydiant ar, ac oddi wrth, y set.

 

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?
Rydw i’n gobeithio camu fyny i weithio fel person gwisgoedd wrth-law y flwyddyn yma, sy’n gam mawr ond rydw i’n teimlo fel fy mod i’n barod ar ôl cael fy hyfforddi gan dîmau ardderchog.

 

Sophie Richards

Enw:                                         Sophie Richards
Oedran:                                   26
O:                                              Caerdydd
Cyflogwr Prentis:                  BBC Cymru Wales
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Camera

 

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Cyn dechrau ar y brentisiaeth roeddwn i’n gweithio mewn tafarn ac yn teithio’r byd.

 

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?
Roeddwn i wastad eisiau gweithio ar set ond doeddwn i byth yn meddwl y bydda fe’n digwydd. Gyda hyn yng nghefn fy meddwl dewisais i ymgeisio am y brentisiaeth gan nad oedd gyda fi unrhyw beth i’w golli.

 

Beth oedd eich swydd brentis yn ei olygu?
Roeddwn i’n hyfforddai ar gyfer yr adran gamera. Roedd yn cynnwys nifer o gyfrifoldebau a dyfodd dros y flwyddyn ar ôl ennill ymddiriedaeth a phrofiad. Roedd y cyfrifoldebau yn cynnwys newid batris, drefnu’r offer camera trwy gysylltu gyda’r tŷ rhentu, setio lan y camera ar gyfer diwrnod o saethu, glanhau a thrin lensys ayyb.

 

Ar ba raglenni / prosiectau wnaethoch chi weithio?
Wrth weithio fel prentis wnes i weithio ar Casualty ac roedd yn cynnwys profiadau o fewn y stiwdio ac allan ar leoliad.

 

Beth ddigwyddodd pan wnaethoch chi gwblhau eich prentisiaeth?
Ar ôl i mi gwblhau fy mhrentisiaeth cefais gynnig i weithio fel Cynorthwy-ydd Camera Llawrydd ar Casualty a dwi wedi parhau i weithio ar y rhaglen, yn rheolaidd dros y 4 blynedd ddiwethaf. O fewn y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi cael siawns i gamu fyny fel Tynnwr Ffocws a dwi wir yn mwynhau’r cyfrifoldebau sydd yn dod gyda’r rôl hwn.

 

Rydw i wedi bod yn lwcus i gael y siawns i weithio ar gynyrchiadau eraill a hyd yn oed gweithio gyda chamerâu yn y Gemau Olympaidd 2016 yn Rio, Gemau Olympaidd 2018 y Gaeaf yn Ne Korea a gobeithiaf y byddaf yn gweithio yn y Gemau Olympaidd 2020 yn Tokyo.

 

Roedd y brentisiaeth wedi dechrau fy ngyrfa ac felly wedi bod yn gatalydd i ddod a mi lle rydw i heddiw.

 

Ydych chi wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Rydw i bendant wedi tyfu fel person o ganlyniad i’r brentisiaeth. Oherwydd natur y diwydiant mae e’n gallu eich ymestyn yn gorfforol ac yn emosiynol ond wnes i ddysgu’n fuan sut i ddelio â sefyllfaoedd anodd.

 

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?
Ar hyn o bryd rwy’n mwynhau’r hyn rydw i’n ei wneud, felly nid oes gennyf gynlluniau i gamu ymlaen unrhyw bryd yn fuan, ond hoffwn weithio ar ychydig o’m mhrosiectau fy hun yn y dyfodol agos.

 

Laura Light

Enw:                                         Laura Thorne
O:                                              Williamstown
Cyflogwr Prentis:                  BBC Cymru Wales
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Swyddfa Gynhyrchu

 

Spotify: www.bit.ly/LauraLightCRIW

YouTube: www.bit.ly/LauraYouTubeCRIW

 

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Cyn y brentisiaeth roeddwn i’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Tonyrefail. Roeddwn i’n gwybod nad oedd prifysgol yn iawn i mi ac roedd prentisiaeth yn rhywbeth roeddwn i wir eisiau gwneud.

 

Pam oeddech chi moen gwneud prentisiaeth?
Mae yna lot o resymau pam roeddwn i eisiau gwneud prentisiaeth. Roedd gweithio yn y BBC yn freuddwyd imi, a gweithio yn y diwydiant cyfryngau oedd yr hyn yr oeddwn i eisiau.

 

Tra oeddwn i yn y Chweched Dosbarth roedd yna lot o bwysau i ni fynd i brifysgol, ond roeddwn i’n teimlo fel bod gwneud prentisiaeth yn mynd i fod yn well gan fod hyn yn rhoi’r cyfle i mi fedri ddysgu a gweithio ar yr un pryd.

 

Dwedodd cymaint o bobl wrtha’i y byddai hi’n amhosib i mi weithio i’r BBC oherwydd lle roeddwn i’n dod o ac oherwydd doedd neb arall wedi llwyddo. Roeddwn i 100% yn gwybod mai dyma beth oedd fy mreuddwyd ac roeddwn yn benderfynnol na fyddwn yn methu yn fy nod. Roedd fy ffrindiau yn gwybod faint roeddwn i eisiau gweithio o fewn y diwydiant, felly pan ges i’r newyddion fy mod i wedi cael cyfweliad, roedd yna lawer i ddathlu.

 

Beth oedd eich swydd brentis yn ei olygu?
Roedd fy swydd prentis yn cynnwys trefnu’r paratoi cyn saethu (teithio, llety, arlwyo, asesiadau risg, amserlenni a sgriptiau), trefnu beth i fynd efo ni, megis offer camera, propiau, batris ayyb. Yn ogystal â hyn roedd fy swydd yn cynnwys gwaith papur ôl-gynhyrchu, defnyddio Avid i olygu, a thrawsgrifio.

 

Ar ba raglenni / prosiectau wnaethoch chi weithio?
Gweithiais i ar y rhaglenni canlynol wrth weithio fel prentis: Bargain Hunt, X-Ray, The One Show, Young Dancer, BBC News, Children in Need, Champions League a Crime Watch Roadshow.

 

Beth ddigwyddodd pan wnaethoch chi gwblhau eich prentisiaeth?
Pan wnes i gwblhau fy mhrentisiaeth, roeddwn i mor drist i adael gan fy mod wedi gwneud grŵp da o ffrindiau ac roedd y profiad a gefais yn wych. Fodd bynnag, oherwydd fy mhrofiadau roeddwn i am ehangu fy sgiliau a’n gwybodaeth am farchnata. Rydw i nawr yn gweithio gyda chwmni cyfryngau Cymraeg o’r enw Object Matrix.

 

Ydych chi wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Wnaeth y brentisiaeth helpu fi dyfu mewn sefyllfaoedd da a drwg. Y prif ddatblygiadau i mi oedd gyda fy hyder, gwybodaeth ac annibyniaeth. Dwi wedi synnu faint rydw i wedi ei ddysgu mewn cyfnod byr. Mae prentisiaeth yn bendant yn eich newid chi am y gorau!

 

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?
Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Gwerthu a Marchnata sy’n golygu fy mod i’n rheoli a chydlynu’r gweithgareddau marchnata (cyfryngau cymdeithasol, ebyst, ymgyrchoedd, creu fideos, webinars, digwyddiadau a theithio) yn ogystal â thasgau cysylltiadau cyhoeddus. Mae fy swydd gyfredol wedi fy ngalluogi i deithio, sy’n rhywbeth nad ydw i wedi gwneud o’r blaen, ac mae hyn yn ganlyniad o’r brentisiaeth.

 

Rydw i’n gobeithio gwnâi barhau i dyfu o fewn fy rôl gyda Object Matrix am mor hir ag sy’n bosib. Fodd bynnag, rydw i hefyd yn gweld fy hun yn dechrau busnes ymgynghori neu sefydliad elusennau fy hun i helpu pobl eraill sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg i’r rhai rydw i wedi bod ynddo.

 

Dominic Farquhar

Enw:                                         Dominic Farquhar
Oedran:                                   20
O:                                              Llantwit Fadre
Cyflogwr Prentis:                  BBC Cymru Wales
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Grip

 

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Roeddwn i’n astudio Cynhyrchu Cyfryngau yng Ngholeg y Cymoedd.

 

Pam oeddech chi moen gwneud prentisiaeth?
Rydw i wastad wedi gwybod nad oedd prifysgol yn fy siwtio. Roeddwn i am gael profiad ymarferol ac roeddwn i’n gwybod y byddai prentisiaeth yn rhoi’r cyfle i mi.

Roedd y brentisiaeth yn ddechreuad i’r yrfa roeddwn i wastad eisiau.

 

Beth oedd eich swydd brentis yn ei olygu?
Roedd fy swydd fel Prentis Grip yn meddwl fy mod i’n cysgodi ac yn rhoi help llaw i’r Grips ar Doctor Who a Casualty. Rhoddodd hyn y siawns i mi ddysgu am y swydd a phob dim oedd yn digwydd yn y rôl.

 

Ar ba raglenni / prosiectau wnaethoch chi weithio?
Wrth weithio fel Prentis Grip gweithiais ar Doctor Who a Casualty yn y stiwdio ac allan ar leoliad.

 

Beth ddigwyddodd pan wnaethoch chi gwblhau eich prentisiaeth?
Wrth weithio yn BBC Cymru Wales cefais y siawns i wneud llwyth o gysylltiadau o fewn y diwydiant. Wrth i fy nghontract prentis dod i ben wnes i ddechrau sgwrs gyda’r cysylltiadau yma er mwyn edrych am waith. Natur y diwydiant yw bod y mwyafrif o bobl yn llawrydd, felly wnes i ddechrau gweithio fel Cynorthwy-ydd Grip Llawrydd. Rydw i wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau ers i mi orffen, gan gynnwys Sex Education i Netflix, The Downtown Abbey Movie a chwpl o ddyddiau ar Maleficent a Star Wars. Rydw i ar fin dechrau gweithio ar War of the Worlds.

 

Ydych chi wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Rydw i wedi tyfu lan o ganlyniad i’r brentisiaeth. Mae fy agwedd wedi newid a dwi nawr yn benderfynol o lwyddo yn fwy nag erioed.

 

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?
Y cam nesaf yn fy ngyrfa yw dysgu mwy a derbyn pob cyfle sy’n codi. Fy mhrif nod yw gweithio fel Grip Allweddol ar ddramau safonol.

 

Adam Neal

Enw:                                         Adam Neal
Oedran:                                   33
O:                                              Aberdar
Cyflogwr Prentis:                  Stiwdios BBC
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Adran Heb Sgript

 

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Roeddwn i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Cymorth Anghenion Arbennig yn Ysgol Uwchradd Sant Ioan.

 

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?
Dwi wastad wedi fod yn awyddus i weithio yn y diwydiant cyfryngau. Es i brifysgol, ond ar ôl dwy flynedd sylweddolais nad oedd y brifysgol i mi ac fe ddechreuais weithio. Pan ddeuthum ar draws prentisiaeth a darganfod nad oedd yn rhaid i chi fod o dan 24 oed, penderfynais roi siawns arni.

 

Beth oedd eich swydd brentisiaid yn ei olygu?
Roeddwn i’n rhan o’r tîm heb sgript ar gyfer BBC Studios a thra’n gweithio yno mi gefais y siawns o weld nifer o swyddi gwahanol. Yn dibynnu ar y cynhyrchiad, cymerais rôl ymchwilydd, rhedwr neu gynorthwy-ydd rheolwr cynhyrchui. Datblygodd y gwahanol rolau hyn fy sgiliau wrth ymchwilio, gweithredu camera, llwytho ar gyfer golygu, trawsgrifiadau, gwaith papur cynhyrchu fel amserlenni ffilmio yn ogystal â’r saethu o ddydd i ddydd ar leoliad ac yn y stiwdio.

 

Ar ba raglenni / prosiectau wnaethoch chi weithio?
Rydw I wedi gweithio ar y rhaglenni canlynol: The Miners Who Made Us, The One Show, X-Ray, Crimewatch Roadshow Live a Bargain Hunt.

 

Beth ddigwyddodd pan wnaethoch chi gwblhau eich prentisiaeth?
9 mis i fewn i’r brentisiaeth, cefais y siawns o ymgeisio ar gyfer rôl ymchwilydd gyda BBC X-Ray ac fe’m gwahoddwyd i gyfweliad. Yn fuan wedyn cefaisgynnig y swydd a fyddai’n dechrau mis cyn diwedd fy mhrentisiaeth. Caniataodd Academi’r BBC a Sgil Cymru i mi orffen y brentisiaeth yn gynnar a dechreuais fel ymchwilydd ym mis Awst 2018. Rydw i ar hyn o bryd yn gweithio fel ymchwilydd ar gyfer y rhaglen gyda dros ddwsin o fy straeon fy hun wedi  cael eu darlledu ar BBC One Wales. Dwi’n hynod o falch o fod wedi cyflawni cymaint ers dechrau’r brentisiaeth.

 

Ydych chi wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Rwy’n credu fy mod wedi tyfu llawer ers dechrau’r brentisiaeth. Dechreuais i’r prentisiaeth yn gwybod fawr ddim am y diwydiant teledu a bellach rwy’n ymchwilydd i raglen ymchwiliol i ddefnyddwyr. Rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu cymaint yn fy amser fel prentis ac mae hyn i gyd oherwydd y gefnogaeth a’r addysgu gan Sgil Cymru, fy nghydweithwyr yn BBC.

 

Yn ddiweddar, gofynnwyd imi sgriptio, saethu, cyfarwyddo a golygu fy eitem  fy hun ar gyfer X-Ray. Dim ond 90 eiliad yn unig oedd yr eitem ond doeddwn i ddim yn disgwyl gwneud  unrhyw beth fel hyn am gwpwl o flynyddoedd!

 

Mae fy mywyd wedi newid cymaint yn y flwyddyn a hanner diwethaf ac i feddwl mai dim ond 7 mis yn ôl ’r oeddwn i’n brentis ac yn awr rydw i wedi gwneud hyn! Mae  gen i lawer mwy i’w ddysgu wrth gwrs, a ffordd bell i fynd nes i mi gyrraedd fy nod, ond roedd hwn yn brofiad gwych.

 

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?
Rwy’n gobeithio parhau i fod yn ymchwilydd sy’n hunan-saethu, i ddysgu cymaint ag y gallaf am y diwydiant a chynyrchiadau gwahanol, ond y cam nesaf i mi fyddai gyrfa cyfarwyddwr sy’n hunan-saethu.