CWESTIYNAU CYFFREDIN

Cwestiynau Cyffredin am y Brentisiaeth Uwch Cyfryngau Creadigol a Digidol – Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol (Lefel 4)

Beth yw Prentisiaeth?
Beth fydd Prentisiaid yn ei Ddysgu?
Ble fydd yr Hyfforddiant?
Pa Swyddi sy’n rhan o’r Brentisiaeth?
Oes Posib Ceisio am fwy nag un Swydd Prentis?
Pwy all Ymgeisio am y Rhaglen Brentisiaeth?
Pwy sydd ddim yn gallu Ymgeisio am y Rhaglen Brentisiaeth?
Pa Cymwysterau fydda i eu hangen i geisio am y Rhaglen Brentisiaeth hon?
A fydd Prentisiaid yn cael eu talu, neu oes rhaid iddyn nhw dalu costau astudio?
Ble fydd y Prentisiaid yn Gweithio?
Sut fydd Rhaglen y Brentisiaeth yn cael ei Strwythuro?
Beth sy’n Ddisgwyledig o’r Prentisiaid ar ôl iddynt gael eu Derbyn ar y Prentisiaeth?
Sut fydd Prentisiaid yn cael eu Cefnogi ar y Prentisaeth?
Sut fydd Prentisiaid yn Elwa o fod yn rhan o’r Prentisiaeth?
Y Broses Gyfweld
Pwy yw Arianwyr y Raglen Brentisiaeth?

BETH YW PRENTISIAETH?

Cyfle i weithio a dysgu ar yr un pryd yw prentisiaeth.  Mae bod yn brentis yn golygu bod gen ti swydd sy’n cynnwys ennill cymhwysterau cydnabyddedig a sgiliau hanfodol tra dy fod yn gweithio ac yn ennill cyflog.

Y math o brentisaethau mae Sgil Cymru yn ei gynnig yw:

BETH FYDD PRENTISIAID YN EI DDYSGU?

Bydd Prentisiaid yn dysgu am y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu gyrfa yn y cyfryngau, gan ganolwyntio ar un swydd yn benodol.

Byddant hefyd yn gweithio tuag at Diploma mewn Cyfryngau Rhyngweithiol, Sgiliau Hanfodol a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogwyr. Gwasgwch yma am rhagor o wybodaeth am y fframwaith.

BLE FYDD YR HYFFORDDI YN DIGWYDD?

Rhannir yr hyfforddiant rhwng yr ystafell ddosbarth a hyfforddiant yn y gweithle.

Bydd yr holl hyfforddiant yn y dosbarth yn cael ei gynnal yn swyddfeydd Sgil Cymru yn Great Point Seren Stiwdios yng Nghaerdydd.

PA SWYDDI SY’N RHAN O’R BRENTISIAETH?

Bydd y rôlau sy’n cael eu cynnig yn dibynnu ar ba swyddi mae cwmniau yn gallu eu cynnig. Yn y gorffennol mae’r rhain wedi cynnwys:

  • Datblygu Gwefannau
  • Amlgyfrwng
  • Datblygu Gemau
  • Creu Cynnwys Ar-lein
  • Datblygu Apiau

OES POSIB CEISIO AM FWY NAG UN SWYDD PRENTIS?

Dim ond UN rôl mae posib i chi geisio amdani.

PWY ALL YMGEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH YMA?

Yn 2019, mae’r Prentisiaeth Uwch mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol) yn agored i unrhywun sy’n 18+ ar ddechrau’r cwrs.

PWY SYDD DDIM YN GALLU YMGEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH?

Mae’r brentisiaeth yn gymhwyster lefel 4 sy’n gyfwerth â blwyddyn 1af Prifysgol.

Nid yw’r prentisiaethau yma wedi’i anelu at raddedigion.

PA CYMWYSTERAU FYDDA I EU HANGEN I GEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH HON?

O leia 4 TGAU gyda’r graddau A i C (gan gynnwys Saesneg ac Mathemateg, os yn bosib) neu gyfwerth.

A FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU TALU, NEU OES RHAID IDDYN NHW DALU COSTAU ASTUDIO?

Nad oes rhaid i’r prentisiaid dalu ceiniog tuag at eu hyfforddiant a byddant yn cael eu thalu.

Yr isafswm y bydd Prentis yn dderbyn yw yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer Prentis gan y cwmni lle byddant yn gweithio.  Wrth i’r sgiliau ddatblygu mae’n bosib y bydd nifer o’r cyflogwyr yn cynyddu’r cyflogau.  Y raddfa gyfredol yw £3.90* yr awr (sylwer bod hwn yn is na’r isafswm incwm trethadwy). Fodd bynnag, y cwmniau fydd yn penderfynu ar raddfa cyflog ei prentis.

Am wybodaeth bellach ar yr Isafswm Cyflog ewch i – www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

* Bydd rhai sydd yn 19 oed neu drosodd yn gymwys am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu grwp oedran unwaith mae’r 12 mis cyntaf fel Prentis wedi ei gwbhlau.

BLE FYDD Y PRENTISIAID YN GWEITHIO?

Lleolir y cwmniau yng Nghymru.

SUT FYDD RHAGLEN Y BRENTISIAETH N CAEL EI STRWYTHURO?

Rhaglen llawn-amser dros 15 mis yw hon a dyma fydd y strwythur:

  • Bydd y rhaglen yn dechrau gyda chwrs cyflwyniad i’r diwydiannau creadigol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i’r prentisiaid i gyfarfod â staff Sgil /Cymru, cyfarfod â cyd-brentisiaid fydd hefyd yn dilyn y rhaglen a chyfarfod â pobl broffesiynol o’r diwydiant. Bydd prentisiaid yn gweithio tuag at eu cymhwyster yn ystod y cyfnod yma yn ogystal ag ennill sgiliau a gwybodaeth cyn mynd allan ar leoliad.
  • Bydd pob prentis wedyn yn mynd at eu cyflogwyr lle byddant yn gweithio yn eu swydd yn ennill y sgiliau â’r wybodaeth byddant ei angen i weithio yn y diwydiannau creadigol.  Darperir hyfforddiant bellach yn y dosbarth yn ystod cyfnod 15 mis y rhaglen, lle bydd disgwyl i’r prentisiaid ddod i Sgil Cymru yn Great Point Seren Stiwdios yng Nghaerdydd am flociau o bythefnos i dair wythnos er mwyn cwblhau elfennau ‘y tu allan i’r swydd’ o’r cymhwyster.
  • Yn agos at ddiwedd y rhaglen bydd prentisiaid yn dychwelyd i Sgil Cymru yn Great Point Seren Stiwdios yng Nghaerdydd er mwyn cwblhau’r Rhaglen Gloi.  Bydd hwn yn paratoi’r prentisiaid i ddod yn weithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol.
  • PWYSIG – Yn dilyn 15 mis o ddysgu a hyfforddiant y gobaith yw y bydd nifer o’r prentisiaid yn derbyn gwaith gan eu cyflogwyr.  Ond, ni ellir gwarantu hyn gan bod y diwydiant yn newid yn gyson a bod cwmniau yn dibynnu ar gomisiynau er mwyn ennill gwaith yn y dyfodol. Y tebygolrwydd yw y bydd unigolion, wedi dilyn y rhaglen 15 mis, yn troi’n weithwyr llawrydd yn hytrach nag yn gyflogai llawn amser.

BETH SY’N DDISGWYLEDIG O’R PRENTISIAID AR ÔL IDDYNT GAEL EU DERBYN AR Y PRENTISIAETH?

Bydd disgwyl i chi:

  • fynychu cyfarfodydd monitro pob 8 wythnos gyda Pennaeth Hyfforddi Sgil Cymru yn ogystal a cyfarfod eich asesydd o’r diwydiant yn reolaidd er mwyn adeiladu portffolio uned cymhwysedd
  • fynychu pob sesiwn dosbarth
  • fynychu cyfarfodydd monitro lleoliad gyda cynrychiolydd o’r lleoliad hyfforddi
  • gwblhau pob elfen o’r Fframwaith er mwyn cwblhau’r cymhwyster

SUT FYDD PRENTISIAID YN CAEL EU CEFNOGI AR Y RHAGLEN?

  • Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn gweithio gyda pob prentis i greu cynllun hyfforddi unigol fydd yn adlewyrchu anghenion hyfforddi’r unigolyn a bydd cynnydd yn cael ei fonitro
  • Bydd asesydd yn cynorthwyo/arwain a chefnogi’r prentis i ennill y cymhwyster
  • Bydd aelod o staff Sgil Cymru yn cyfarfod gyda pob prentis er mwyn trafod cynnydd, a bydd aelod o staff yn y cwmni lleoliad yn cael ei apwyntio fel mentor o’r diwydiant i gynnig cefnogaeth a chyngor pan fo angen
  • Bydd yr arolygydd o’r cwmni lleoliad yn rhoi adborth i Sgil Cymru ar gynnydd y prentis a bydd yn cael ei ddefnyddio i fonitro’r anghenion hyfforddi

SUT FYDD PRENTISIAID YN ELWA O FOD YN RHAN O’R RHAGLEN?

Ar ddiwedd y 15 mis bydd gan prentisiaid:

  • Profiad mewn gweithle – hyfforddiant ymarferol mewn swydd
  • Portffolio/showreel
  • Geirda gan y cyflogwr
  • Cysylltiadau yn y diwydiant
  • Gwella tebygolrwydd o gael swydd
  • Sgiliau technegol a proffesiynol
  • Diploma mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol

Y BROSES GYFWELD

  • Yn dilyn cwblhau creu’r rhestr fer gan staff Sgil Cymru â’r cyflogwyr, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliadau wyneb yn wyneb gyda’r cyflogwr a chynrychiolwr o Sgil Cymru ac efallai profiad gwaith.

Byddwn yn gadael i chi wybod os oes rhaid i chi baratoi unrhyw ddeunydd ar gyfer y cyfweliad ymlaen llaw.  Bodd bynnag mae croeso i chi ddod ag unrhyw beth sydd yn arddangos eich sgiliau, dealltwriaeth a’ch potensial i gymryd rhan yn y rhaglen hwn.

Os ydych chi’n llwyddiannus yn dilyn y cyfweliad, bydd yn ofynnol i chi gymryd prawf llythrennedd digidol, rhifedd a llythrennedd.  Wedi hyn bydd Sgil Cymru yn rhoi gwybod i chi drwy ebost os y buoch yn llwyddiannus yn cael lle.

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Caerdydd ar 07843 779 870 / help@sgilcymru.com

PWY YW ARIANWYR Y RHAGLEN BRENTISIAETH HON?

Ariannir y rhaglen Brentisiaeth hon yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru

Gwnaed y prosiect yma’n bosib drwy Brentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro; y Prif Ddarparwr Hyfforddi ar gyfer Consortiwm y Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA). Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro wedi ei ariannu’n rhannol drwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i ddarparu rhaglenni dysgu yn y gweithle led-led Cymru.

Mae’r Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA) yn gydweithrediad 22 darparwr Dysgu yn y Gweithle. Mae ardal ddaearyddol eang tu hwnt yn dod o dan adain Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro (a’u is-gytundebwyr cysylltiol) â’r QSA, gyda darpariaeth yn estyn led-led Gymru. Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro â’r QSA yn cynnig ystod eang o raglenni a gwaith dros 25 o lwybrau gwaith.

Apprentice Footer