LEFEL 4 (HYSBYSEBU A CHYFATHREBU MARCHNATA)

NID YDYM YN RHEDEG Y BRENTISIAETH YMA RHAGOR OND DARLLENWCH ISOD I DDYSGU AM EIN GWAITH YN Y GORFFENNOL:

Dechreuodd prentisiaeth Lefel 4 cyntaf Sgil Cymru yn 2016, a dyma’r tro cyntaf erioed i’r brentisiaeth yma ddigwydd yng Nghymru.

Yn ogystal â hyfforddi gyda Sgil Cymru yn Stiwdio Pinewood Cymru yng Nghaerdydd, mae’r prentisiaid wedi gweithio mewn nifer o rolau gwahanol – gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu, marchnata a chyfryngau digidol.

Ymysg y cwmniau sydd wedi cynnig cyfleoedd dros y blynyddoedd diweddar mae Amplified Business Content, Golley Slater, Buzz Media a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Derbyniodd pob un o’r prentisiaid lwfans prentis gan eu cyflogwr, a 15-mis o brofiad gwaith go iawn yn y cyfryngau yn ogystal a llond trol o gysylltiadau defnyddiol am waith yn y dyfodol.

Prentisiaeth Lefel 4 oedd hon, sy’n cyfateb i flwyddyn gyntaf prifysgol.

Cofia – mae’n bosib mynd i Brifysgol neu Goleg ar ôl cwblhau Prentisiaeth.  Ond nid swydd haf yw Prentisiaeth, mae’n ymrwymiad 15 mis o hyd.

Ariannir y rhaglen Brentisiaeth hon yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru

Roedd y prosiect yma’n bosib diolch i Brentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro; y Prif Ddarparwr Hyfforddi ar gyfer Consortiwm y Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA). Ar yr adeg hon, roedd Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro wedi ei ariannu’n rhannol drwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i ddarparu rhaglenni dysgu yn y gweithle led-led Cymru.

Apprentice Footer