ASTUDIAETHAU ACHOS

Connie Matthews

Cwblhaodd Connie Matthews, 18 o Sir Fynwy, Prentisiaeth Lefel 4 mewn Marchnata a Hysbysebu drwy Sgil Cymru. Gweithiodd hi fel Prentis Hysbysebu a Chyfryngau Cymdeithasol gyda Buzz Magazine yng Nghaerdydd.

 

Cyn ei phrentisiaeth doedd Connie, fel llawer o bobl ifanc eraill, ddim yn awyddus i fynd i brifysgol, ond nid oedd hi’n gweld unrhyw opsiwn arall. Yn y gorffenol cafodd Connie broblemau gyda’r ffyrdd traddodiadol o ddysgu yn yr ysgol, felly gwnaeth Connie ddewis llwybr gradd ymarferol i ddilyn yn y Brifysgol yn fwriadol.

 

Dywedodd Connie:

“Drwy gydol y chweched dosbarth, wnes i geisio cael y graddau i fynd i brifysgol. Doeddwn ni ddim yn rhy awyddus ar y syniad o fyw i ffwrdd ac i fynd i’r brifysgol, doeddwn i ddim yn gwybod pa opsiynau eraill oedd gennyf ar y pwynt hwnnw. “

 

Symudodd Connie i ffwrdd i fynychu Brifysgol ond yn fuan sylweddolodd nad oedd y llwybr dewisodd hi yn addas. Ar ôl sylweddoli hyn, symydodd Connie yn ôl adref a dechreuodd chwilio am swydd amser llawn.

 

Trwy ei Fam, cafodd Connie wybodaeth am y Brentisiaeth Lefel 4 mewn Hysbysebu a Marchnata.

 

Dywedodd Connie:

“Roedd yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir yn gyntaf; Doeddwn i ddim yn sylweddoli fod yna prentisiaethau mewn pethau yn y sector greadigol, roeddwn i’n meddwl eu bod nhw i gyd yn ymwneud â plymio neu bethau trydanol. “

 

Yn aml mae llawer o ragdybiaethau am brentisiaethau, ac mae Connie wedi siarad am yn ei blog hiamdanynt. Mae’r prentisiaethau Sgil Cymru yn cynnig swyddi llawn-amser, efo tal o fewn cwmni sefydledig yn Ne Cymru, tra eich bod yn cwblhau cymhwyster Diploma cydnabyddedig. Mae’r rolau swydd sy’n dod o dan y tri llwybr prentisiaeth gwahanol sydd gan Sgil Cymru, yn amrywio o ddatblygu gwe i hysbysebu, gwisgoedd i gamera a phopeth yn y canol.

 

Dywedodd Connie:

“O fewn wythnos o fod yn y cylchgrawn, fe wnaeth fy hyder gynyddu’n gyflym. Rwyf wedi bod yno am bron 5 mis ac ni allaf ddychmygu bod unrhyw le arall.”

Chloe Johnson

Mae un o’r prentisiaid lefel 4 Hysbysebu a Marchnata Sgil Cymru yn esbonio popeth am ei thaith fel prentis a pham nad oedd prifysgol yn siwtio hi. Gweithiodd Chloe Mae Johnson o Gasnewydd fel Prentis Digwyddiadau ac Cynorthwy-ydd Prosiectau gyda Amplified Business Content a chwblhaodd ei phrentisiaeth drwy Sgil Cymru.

 

Cyn ei phrentisiaeth roedd Chloe wedi gorffen ei lefelau A a wrthi’n meddwl am beth ddylai’r cam nesaf yn ei bywyd fod. Fel llawer o bobl ifanc roedd Chloe angen gwneud y penderfyniad rhwng gweithio’n llawn-amser, mynychu prifysgol neu ymgeisio am brentisiaeth.

 

Dywedodd Chloe:

Roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig ac yn ddryslyd am y cam nesaf i fynd yn fy mywyd. Doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i am wneud. Roedd fy ffrindiau i gyd eisioes wedi cael eu derbyn i mewn i Brifysgol ac roedd amser yn rhedeg allan yn gyflym i fi. Roedd y ffaith oeddwn ni gorfod dewis llwybr gyrfa, a fydd yn newid fy mywyd, yn 18 oed yn rhoi llawer o bwysau arnai …

Drwy lawer o waith ymchwil, nes i sylwi ar yr opsiwn o Brentisiaeth. Doeddwn i ddim erioed wedi meddwl am edrych i mewn i Brentisiaethau, gan fy mod bob amser yn meddwl yn unig am swyddi plymio neu beirianneg ar gael trwy gynllun Prentisiaeth. Pa mor anghywir oeddwn i?

 

Trwy ei phrentisiaeth wnaeth Chloe weithio ar 3 digwyddiad, 2 seremoni gwobrwyo, hedfan rhwng Llundain a Chaerdydd i weithio ac mae wedi bod mewn cysylltiad efo swyddfa Lord Sugar.

 

Dywedodd Chloe:

Ni allaf ddiolch Sgil Cymru digon am eu hanogaeth barhaus ac ymroddiad, ac i’r holl bobl sydd wedi helpu fi drwy fy daith hyd yn hyn.