AROLYGYDD SGRIPT 2016

Ydych chi eisiau gweithio fel Arolygydd Sgript yn y diwydiant ffilm? 

Ymunodd 8 hyfforddai a ni yn Pinewood Studio Cymru yng Nghaerdydd am bythefnos o hyfforddiant dwys, gan gynnwys

  • Gweithdai Ymarferol
  • Trafodaethau gyda gweithwyr proffesiynol a phrofiadol o’r diwydiant Ffug
  • Brofiad Cynhyrchu

Prif Diwtor y cwrs oedd  Ceri Evans-Cooper, Arolygydd Sgript gyda chredydau gan gynnwys ffilmiau yn y fasnachfraint HARRY POTTER, ‘action-thriller’ Matt Damon GREEN ZONE, ac INDIANA JONES & THE TEMPLE OF DOOM. Gweler tudalen IMDB Ceri yma.

Pryd oedd y cwrs?
Rhedodd y cwrs am 10 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, dros 2 wythnos, gan ddechrau ar 31 Hydref 2016 a dod i ben ar Dachwedd 11eg.

Cyn Hyfforddeion 

Becky

 

Becky Crawford, Manceinion

“Roedd y cwrs yn well nag oeddwn ni’n disgwyl. Roedd e’n 10 diwrnod o hyd, felly roeddwn i’n gallu dysgu am bob agwedd o’r swydd yn fanwl.”

 

 

Catriona

 

Catriona Napier, Caeredin

“Roedd y cwrs yn wych. Nes i ddysgu cymaint am swydd yr Arolygydd Sgript. Dwi’n teimlo’n hyderus y gallwn ni weithio ar set nawr, a doeddwn ni bendant ddim cynt.”

 

 

Chiara

 

Chiara Carbonara, Caerdydd

“Roedd y cwrs wedi cyrraedd fy nisgwyliadau a mwy. Roeddwn i wedi synnu ar gymaint o waith ymarferol wnaethom ni.”

 

 

Craig

 

Craig Lewis, Casnewydd

“Strwythr da gyda llawer o elfennau ymarferol. Roeddwn i’n gwerthfawrogi hyn.”

 

 

 

IMG_3896

Harri Jones, Pontypridd

“Ar ol cymryd rhan yn y cwrs dwi wedi dysgu cymaint am y diwydiant yn gyfangwbl, ac wedi penderfynnu pa lwybr dwi eisiau’i ddilyn, a sut yn union i wneud hynny.”

 

 

 

IMG_3895Jane Gruffydd, Bro Morgannwg

“Roedd y darnau ffilmio prysur/heriol yn gret. Mae nhw wedi fy mharatoi ar gyfer sefyllfaoedd annodd mewn ffordd dda.”

 

 

 

Llaima

 

Llaima Cardenas, Caerdydd

“Doeddwn ni ddim yn disgwyl cael cymaint o amser ar set. Roedd cael wythnos gyfan yn wych!”

 

 

 

Paul

 

Paul Rubery

“Roedd cael fy rhoi o dan bwysau yn annodd, ond yn rhan werthfawr o’m datblygiad. Diolch am gael fi! Mwynheais i bob munud.”

 

 

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau hyfforddiant ffilm eraill.

Mae’r rhaglen hon yn cael ei chefnogi gan Gronfa Sgiliau Ffilm Creative Skillset, gyda Chronfa Ffilm Forever Loteri Genedlaethol y BFI.

BFI-Lottery-Creative-Skills