CWESTIYNAU CYFFREDIN

Cwestiynau Cyffredin Cyflogwyr am Brentisiaethiau Sgil Cymru

Beth yw Prentisiaeth?
Sut brofiad yw bod yn gyflogwr Prentis?
Beth yw’r ymrwymiad ariannol i’r cyflogwr?
Beth fydd Prentisiaid yn ei ddysgu?
Ble fydd yr hyfforddiant yn digwydd?
Pa swyddi sy’n rhan o’r Brentisiaeth?
Sawl Prentis all cyflogwr ei gael?
Sut mae’r broses yn gweithio?
Sut fydd y rhaglen Brentisiaeth yn cael ei strwythuro?
Am faint o swyddi allai geisio?
Pwy all ymgeisio am y rhaglen Brentisiaeth?
Pwy sydd ddim yn gallu ymgeisio am y rhaglen Brentisiaeth?
Pa cymwysterau fydda i eu hangen i geisio am y rhaglen Brentisiaeth hon?
Beth yw fframwaith y Brentisiaeth?
Beth sy’n ddisgwyliedig o’r cyflogwyr â’r Prentisiaid ar ôl iddynt gael eu derbyn ar y rhaglen, a sut fydd Sgil Cymru yn eu cefnogi?
Sut fydd Prentisiaid yn elwa o fod yn rhan o’r rhaglen?
Pwy yw arianwyr y rhaglen brentisiaeth? 

BETH YW PRENTISIAETH?

Cyfle i weithio a dysgu ar yr un pryd yw prentisiaeth.  Mae bod yn brentis yn golygu bod gen ti swydd sy’n cynnwys ennill cymhwysterau cydnabyddedig a sgiliau hanfodol tra dy fod yn gweithio ac yn ennill cyflog.

Y math o brentisaethau mae Sgil Cymru yn ei gynnig yw:


 BETH YW’R YMRWYMIAD ARIANNOL I’R CYFLOGWR?

  • I fod yn rhan o’r Rhaglen Brentisiaeth Lefel 3 bydd rhaid i’r cyflogwr ymrwymo i gytundeb cyflogaeth gyda Prentis am gyfnod o 12 mis.
  • I fod yn rhan o’r Rhaglen Brentisiaeth Lefel 4 bydd rhaid i’r cyflogwr ymrwymo i gytundeb cyflogaeth gyda Prentis am gyfnod o 15 mis.

Yr isafswm fydd rhaid talu eich Prentis fydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer Prentis. Er hyn, mae nifer o gwmniau yn talu’r Isafswm Cyflog Byw o leiaf, ac mi fyddem yn eich annog chi i ystyried hyn. Wrth i sgiliau datblygu gallai cyflogwyr gynyddu cyflog yn ogystal.

Isafswm Cyflog ar gyfer Prentisiaid yw £3.90 yr awr* (sylwer bod hwn yn is na’r isafswm incwm trethadwy)

* Wrth gwblhau’r Brentisiaeth Lefel 4 bydd rhai sydd yn 19 oed neu drosodd yn gymwys am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu grwp oedran unwaith mae’r 12 mis cyntaf fel Prentis wedi ei gwbhlau.

Am fwy o wybodaeth am yr isafswm cyflog ewch i – www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

 

BETH FYDD PRENTISIAID YN EI DDYSGU?

Bydd Prentisiaid y dysgu am y sgiliau creadigol a technegol sydd eu hangen i adeiladu gyrfa, gan ganolwyntio ar un swydd yn benodol.

Fel rhan o’r prentisiaethau uchod, bydd rhaid i brentisiaid gwblhau Sgiliau Hanfodol Cymru (Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol), os na chaiff ei gyflawni mewn dysgu blaenorol.

BLE FYDD YR HYFFORDDI YN DIGWYDD?

Rhannir yr hyfforddiant rhwng yr ystafell ddosbarth a hyfforddiant yn y gweithle.

Bydd yr holl hyfforddiant yn y dosbarth yn cael ei gynnal swyddfeydd Sgil Cymru yn Great Point Seren Stiwdios yng Nghaerdydd.


PA SWYDDI SY’N RHAN O’R BRENTISIAETH?

Bydd y rolau sy’n cael eu cynnig yn dibynnu ar ba swyddi mae cwmniau yn gallu eu cynnig. Dyma rai enghreifftiau o’r rolau:

O dan y Brentisiaeth Lefel 3:

  • Adran Camera
  • Effeithiau Arbennig
  • Ôl-Gynhyrchu
  • Adeiladwaith
  • Adran Gwisgoedd
  • Swyddfa Cynhyrchu
  • Cynnwys Digidol

O dan y Brentisiaeth Lefel 4 (Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol):

  • Datblygu Gwefannau
  • Amlgyfrwng
  • Datblygu Gemau
  • Creu Cynnwys Ar-lein
  • Datblygu Apiau

O dan y Brentisiaeth Lefel 4 (Hysbysebu a Chyfathrebu Marchnata):

  • Hysbysebu
  • Marchnata
  • Cyfryngau Digidol
  • Cyfryngau Cymdeithasol

Cysylltwch â ni er mwyn trafod y swyddi gallech fod yn eu ystyried ar gyfer Prentis ar 07843 779 870 / help@sgilcymru.com


SAWL PRENTIS ALL CYFLOGWR EI GAEL?

Gall cwmni gyflogi faint bynnag o Brentisiaid ag y maent yn ei ddymuno, cyn belled bod y cyllid ar gael gan Sgil Cymru er mwyn eu tywys drwy’r hyfforddiant. Mae rhai cwmniau mwy wedi cyflogi 10 Prentis, tra bod y rhai llai wedi cyflogi 1 neu 2.


SUT MAE’R BROSES YN GWEITHIO?

Trafodaethau Cyflogwyr – Mae Sgil Cymru yn gweithio’n agos gyda’r cyflogwr ar drafod anghenion y cwmni, a sut gall bylchau sgiliau presennol gael eu ateb drwy cyflogi Prentis.

Cyflogwr yn Cadarnhau Swyddi – Unwaith i’r cyflogwr benderfynnu ar y swyddi maent yn dymuno eu hysbysebu, bydd angen iddynt gadarnhau hyn drwy ddarparu swydd ddisgrifiad/au i Sgil Cymru (mae esiamplau o swydd ddisgrifiadau ar gael os oes angen). Yn ogystal a hyn, bydd Sgil Cymru angen disgrifiad byr o’r cwmni, ynghyd a chopi jpeg o logo’r cwmni a chyswllt i’w gwefan.

Ymgyrch Recriwtio Sgil Cymru – Sgil Cymru sy’n gyfrifol am ymdrîn â’r ceisiadau i bob swydd Prentis gwag. Mae ffurflen gais a ffurflen fonitro arbennig ar lein sydd ar gael drwy wefan Sgil Cymru (nid ydym yn derbyn CV’s neu unrhyw fath arall o gais). Bydd Sgil Cymru yn ymdrîn a bob cais, ac yn sicrhau bod y cyflogwr yn cael gwybod sut mae’r broses yn mynd rhagddo yn gyson. Mae hysbysebu pob swydd brentis yn ymdrech ar y cyd rhwng Sgil Cymru a’r cyflogwr oherwydd nad yw Sgil Cymru yn derbyn arian i hysbysebu’r prentisiaethau hyn.

Rhestr Hir – Bydd Sgil Cymru yn gweithio gyda’r cyflogwr er mwyn didoli’r ceisiadau i gyd a phenderfynnu ar restr hir o geisiadau, fydd wedyn yn cael eu gwahodd i Weithdy Recriwtio* undydd arbennig.

*Bydd Gweithdai Recritwtio yn cael eu defnyddio ar gyfer Prentisiaethau lefel 3 yn unig.

Gweithdy Recriwtio – Mae’r gweithdy yn ddiwrnod sy’n llawn gweithgareddau wedi eu cynllunio i ddod i adnabod yr ymgeiswyr yn well. Byddant yn gweithio mewn grwpiau cymysg ar tasgau cyffredinol amrywiol, cyn cael tasgau sydd yn uniongyrchol berthnasol i’r swydd y maent wedi ceisio amdani. Bydd angen i’r cyflogwyr fod yn bresennol ar gyfer o leiaf y prynhawn ar ddiwrnod y gweithdy. Bydd staff Sgil Cymru yn gweithio’n agos gyda’r cyflogwyr er mwyn darganfod ymgeiswyr cryf posib.

Cyfweliadau – Bydd cyflogwyr yn penderfynnu os ydynt am wahodd rhestr fer o ymgeiswyr i gyfweliad yn swyddfa’r cwmni. Bydd cynrychiolydd o Sgil Cymru hefyd yn mynychu’r cyfweliadau er mwyn darparu gwybodaeth ac arweiniad am y cymhwyster a phrosesau’r Brentisiaeth.

Profiad Gwaith – Mae posib i rai cyflogwyr sydd ddim yn sicr o’u dewis wahodd ymgeiswyr i’r gweithle am brofiad gwaith diwrnod, cyn gwneud penderfyniad terfynol.

SUT FYDD Y RHAGLENNI BRENTISIAETH YN CAEL EI STRWYTHURO?

  • Rhaglen llawn-amser dros 12 mis ydy’r Brentisiaeth Lefel 3.
  • Rhaglen llawn-amser dros 15 mis ydy’r ddau Brentisiaeth Lefel 4.
  • Bydd y rhaglen yn dechrau gyda chwrs rhagarweiniol i’r diwydiannau creadigol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i’r Prentisiaid i gyfarfod â staff Sgil Cymru, cyfarfod â cyd-Brentisiaid fydd hefyd yn dilyn y rhaglen a chyfarfod â pobl broffesiynol o’r diwydiant. Bydd Prentisiaid yn gweithio tuag at eu cymhwyster yn ystod y cyfnod yma, yn ogystal ag ennill sgiliau a gwybodaeth cyn mynd allan ar leoliad.
  • Wedi hyn bydd pob Prentis yn mynd at eu cyflogwyr, lle byddant yn gweithio yn eu swydd yn ennill y sgiliau â’r wybodaeth byddant ei angen i weithio yn y diwydiannau creadigol.  Darperir hyfforddiant bellach yn y dosbarth yn ystod y rhaglen, lle bydd disgwyl i’r Prentisiaid ddod i Sgil Cymru yn Great Point Seren Stiwdios yng Nghaerdydd mewn blociau o ddwy i dair wythnos er mwyn cwblhau elfennau ‘y tu allan i swydd’ y cymhwyster.
  • Yn agos at ddiwedd y rhaglen bydd Prentisiaid yn dychwelyd i Sgil Cymru yn Great Point Seren Stiwdios yng Nghaerdydd er mwyn cwblhau’r Rhaglen Gloi.  Bydd hwn yn paratoi’r Prentisiaid i weithio yn y diwydiannau creadigol.
  • PWYSIG – Yn dilyn y brentisiaeth y gobaith yw y bydd nifer o’r Prentisiaid yn derbyn gwaith gan eu cyflogwyr.  Ond, NI ellir gwarantu hyn gan bod y diwydiant yn newid yn gyson, a bod nifer o gwmniau yn dibynnu ar gomisiynau er mwyn ennill gwaith yn y dyfodol. Y tebygolrwydd yw y bydd unigolion wedi dilyn y rhaglen 15 mis yn troi’n weithwyr llawrydd yn hytrach nag yn gyflogai llawn amser.

AM FAINT O SWYDDI ALLAI GEISIO?

Gall ymgeiswyr fynd am UN swydd yn unig.

PWY ALL YMGEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH?

  • Mae’r Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Digidol a Chreadigol yn agored i bobl dros 16.
  • Mae’r Prentisiaeth Uwch mewn Hysbysebu a Chyfathrebu Marchnata yn agored i bobl sydd dros 18. Does dim cyfyngiad oed wedi 18.
  • Mae’r Prentisiaeth Uwch mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol) yn agored i bobl sydd dros 18. Does dim cyfyngiad oed wedi 18.

 

PWY SYDD DDIM YN GALLU YMGEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH?

Yn anffodus nid yw’n bosib i’r rheiny sydd eisoes wedi ennill gradd Prifysgol neu sydd wrthi’n astudio ar gyfer Gradd Prifysgol ar hyn o bryd i geisio am y Brentisiaeth.

Mae’r Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol yn gymhwyster lefel 3 sy’n gyfwerth â Lefelau A.

Mae’r Brentisiaeth Uwch Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol) a’r Brentisiaeth Uwch Hysbysebu a Chyfathrebu Marchnata yn gymhwyster lefel 4 sy’n gyfwerth â flwyddyn 1af Prifysgol.

Nid yw’r prentisiaethau yma wedi’i anelu at raddedigion.

PA CYMWYSTERAU FYDDA I EU HANGEN I GEISIO AM Y RHAGLEN BRENTISIAETH HON?

O leia 4 TGAU gyda’r graddau A i C (gan gynnwys Saesneg ac Mathemateg, os yn bosib) neu gyfwerth.

BETH YW FFRAMWAITH Y PRENTISIAETHAU?


BETH YW’R DISGWYLIADAU I GYFLOGWYR A PHRENTISIAID WEDI IDDYNT GAEL EU DERBYN AR Y RHAGLEN?  SUT FYDDAN NHW YN CAEL EU CEFNOGI GAN SGIL CYMRU?

Bydd y Cyflogwr yn:

  • gorfod cyflawni ac arwyddo’r holl waith papur perthnasol i’r cymhwyster pan fo’r angen.
  • ymrwymo i gyflogi y Prentis am gyfnod llawn y rhaglen hyfforddi. Ni fydd raid i unrhyw Gyflogwr gyflogi prentis wedi i’r cyfnod hwn ddod i ben.
  • mynychu cyfarfodydd monitro rheolaidd gyda Phennaeth Hyfforddiant Sgil Cymru i roi adborth ar gynnydd y Prentis.  Byddant ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth pan fo’r angen.

Bydd disgwyl i’r Prentis:

  • mynychu cyfarfodydd monitro rheolaidd gyda Phennaeth Hyfforddiant Sgil Cymru i roi adborth ar gynnydd y Prentis.  Byddant ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth pan fo’r angen.
  • gweithio fel aelod iau o staff a chyflenwi’r tasgau yn unol a’r hyn ofynnir gan yr Arolygwr.
  • fod yn bresennol ymhob sesiwn dosbarth yn Sgil Cymru.
  • orffen pob elfen o’r Fframwaith er mwyn cwblhau’r cymhwyster.
  • fynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda’i Asesydd o’r Diwydiant er mwyn adeiladu portffolio o’r gweithle ac ennill y cymhwyster.

Bydd Sgil Cymru yn:

  • cydlynu cyfarfodydd monitro rheolaidd gyda Phennaeth Hyfforddiant Sgil Cymru i roi adborth ar gynnydd y Prentis.  Byddant ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth pan fo’r angen.
  • gweithio gyda phob Prentis a Chyflowr i greu cynllun hyfforddiant unigol, fydd yn adlewyrchu anghenion hyfforddiant yr unigolyn a bydd y cynnydd yn cael ei arolygu.

Fel darparwr hyfforddiant, byddwn yn argymell yn gryf fod y cwmni yn apwyntio mentor i’r Prentis, yn ogsystal a Rheolwr LLinell/Arolygwr.

 

SUT FYDD PRENTISIAID YN ELWA O FOD YN RHAN O’R RHAGLEN?

Ar ddiwedd y prentisiaeth bydd gan Brentisiaid:

  • Profiad mewn gweithle – hyfforddiant ymarferol mewn swydd
  • Portffolio/showreel
  • Geirda gan y cyflogwr
  • Cysylltiadau yn y diwydiant
  • Gwella tebygolrwydd o gael swydd
  • Sgiliau technegol a proffesiynol
  • Cwblhau cymwysterau yn arwain at y fframwaith prentisiaeth

PWY YW ARIANWYR Y RHAGLENNI BRENTISIAETH?

Ariannir y rhaglenni Brentisiaeth hon yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru

Gwnaed y prosiect yma’n bosib drwy Brentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro; y Prif Ddarparwr Hyfforddi ar gyfer Consortiwm y Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA). Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro wedi ei ariannu’n rhannol drwy’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i ddarparu rhaglenni dysgu yn y gweithle led-led Cymru.

Mae’r Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA) yn gydweithrediad 22 darparwr Dysgu yn y Gweithle. Mae ardal ddaearyddol eang tu hwnt yn dod o dan adain Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro (a’u is-gytundebwyr cysylltiol) â’r QSA, gyda darpariaeth yn estyn led-led Gymru. Mae Prentisiaethau Coleg Caerdydd â’r Fro â’r QSA yn cynnig ystod eang o raglenni a gwaith dros 25 o lwybrau gwaith.

Apprentice Footer