Prentis Arolygydd Sgript – BBC Cymru Wales

Cwmni:                        BBC Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Arolygydd Sgript
Lleoliad:                      Porth y Rhath, Bae Caerdydd

Am y Sefydliad

BBC_Cymru_Wales_logo.svgDarlledwr y genedl yw BBC Cymru Wales, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy ein gwefannau.

Porth y Rhath yw canolfan ragoriaeth gwbl fodern y BBC ar gyfer Drama, lleoliad sy’n fwrlwm o ynni a doniau newydd. Pan symudodd y cynyrchiadau cyntaf i Borth y Rhath ym Medi 2011, fe wnaethant wireddu un o addewidion y BBC i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer Drama yng Nghaerdydd.

Mae’r cyfleuster 170,000 troedfedd sgwâr hwn a leolir ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, sy’n cynnwys naw stiwdio ac sydd yr un hyd â thri chae pêl-droed, yn awr yn gartref parhaol, at y pwrpas i bedair o brif ddramâu’r BBC – Casualty, Pobol y Cwm, Doctor Who – yn ogystal ag i gynyrchiadau newydd i’r dyfodol.

Disgrifiad Swydd

Beth mae Prentis Arolygydd Sgript yn ei wneud?

Rôl y Goruchwyliwr Sgript yw gwneud yn siŵr bod golygfeydd yn dilyn ei gilydd mewn ffordd ddealladwy ac yn llyfn gan nad yw rhaglenni yn cael eu ffilmio fel arfer mewn trefn.

Yn ystod y cyfnod cyn-gynhyrchu maent yn edrych ar y sgript am unrhyw wallau ac amcangyfrif yr amser y bydd yn cymryd i ffilmio golygfeydd. Maent yn datblygu crynodebau o’r stori a chymeriadau ac maent yn edrych ar y rhestr saethu i wneud yn siŵr y bydd y golygfeydd sydd eu hangen yn cael eu saethu o bob ongl.

Yn ystod y saethu, maent yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr ac maent yn cysylltu’n agos ag adrannau eraill. Mae hyn yn golygu cadw nodiadau manwl ysgrifenedig a chofnodion ffotograffig, ‘action’, gwisgoedd a phropiau, holl fanylion camera a lens, gwybodaeth pob llechen a gwybodaeth golygfa.   Maent yn monitro’r  sgript yn agos i sicrhau nad oes unrhyw linellau yn cael eu methu, yn cadw cofnodion o saethu y diwrnod blaenorol a pharatoi’r holl waith papur ar gyfer ôl-gynhyrchu.

Maent yn paratoi adroddiadau manwl Dilyniant Dyddiol, Taflenni Dyddiol Golygyddion ac Adroddiadau Chynhyrchu Dyddiol. Maent yn darparu’r adran  gynhyrchu gyda chofnodion o unrhyw ofynion ychwanegol.

Dyma enghreifftiau o’r swyddi y gallai Prentis Arolygydd Script wneud yn y dyfodol –

  • Arolygyddd Sgript 

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Person gyda ffocws a’r sylw am fanylder
  • Cyfathrebwr da
  • Trefnus
  • Diplomyddol 

Sgiliau allweddol yn cynnwys:

  • Sgiliau eithriadol o arsylwi
  • Sgiliau sylw gofalus a threfnus i fanylion
  • Stamina i aros yn effro ac I ganolbwyntio yn ystod diwrnodau ffilmio hir
  • Gallu cymryd nodiadau manwl gywir yn gyflym ac yn effeithlon
  • Yn meddu ar synnwyr da o gyfansoddiad gweledol, persbectif a symudiad
  • Meddu ar sgiliau trefnu rhagorol a dull ymarferol o weithio
  • Gallu i feddwl ar eich traed ac ymateb yn gyflym i amgylchiadau sy’n newid
  • Bod â sgiliau cyfathrebu da ac yn dangos diplomyddiaeth a sensitifrwydd wrth weithio gydag artistiaid a chriw
  • Yn gallu aros yn gyfeillgar ac yn ddigynnwrf mewn sefyllfaoedd heriol
  • Deall gofynion y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol a gweithdrefnau
  • Yn gallu i gydweithio a gweithio fel rhan o dîm

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Fframwaith

Tra’n gweithio i BBC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.