10 Criw Lleoliad yn Barod am y Diwydiant

Gyda chymorth o Gronfa Sgiliau Ffilm ScreenSkills, gyda chyfraniadau o gynyrchiadau ffilm y DU, rhedodd Sgil Cymru gwrs Rheolwr Lleoliadau gyda’r bwriad o leihau’r gap sgil sydd yn yr adran lleoliadau yn y diwydiant ffilm.

Arweinir y cwrs gan Lowri Thomas, Rheolwr Lleoliadau profiadol sydd wedi gweithio o fewn y diwydiant cyfryngau ers yr 80au. Fel prif diwtor y cwrs wnaeth Lowri fynd a’r hyfforddeion trwy bopeth sydd yn ymwneud a rôl y Rheolwr Lleoliadau gan gynnwys sgowtio, gwaith papur, perthynas rhwng yr adrannau, a phopeth hyd at y clirio fyny ar ôl i’r saethu gorffen.

Cynhelir y cwrs yn swyddfeydd Sgil Cymru yn Pinewood Studio Cymru lle wnaeth y 10 hyfforddai gymryd rhan mewn gwahanol sesiynau gyda Lowri. Cafodd un o’r sesiynau ei gyd-rhedeg gyda Stephen Nicholas, Dylunydd Cynhyrchu a Chyfarwyddwr Celf brofiadol. Yn y gweithdy hwn wnaeth yr hyfforddeion dysgu am bwysigrwydd y perthynas rhwng yr adran lleoliadau a’r adran gelf.

Yn ogystal â’r gwaith dosbarth wnaeth yr hyfforddeion mynd allan i sgowtio am leoliadau yng Nghanol Dinas Caerdydd, yn dilyn briff gan Lowri. Hefyd wnaethon nhw gael taith o gwmpas set ’15 Days’, drama newydd Channel 5, sydd wrthi’n cael ei ffilmio yn Ne Cymru.

Dywedodd Sara Hawley, hyfforddai ar y cwrs:

Roedd y cwrs yn fwy na be o’n i’n disgwyl gan gynnwys y rôl, y sesiynau a’r bobl. Roedd popeth yn well ac yn fwy na be o’n i’n disgwyl.

Dros y pythefnos mynychodd sawl Rheolwr Lleoliadau profiadol, fel siaradwyr gwadd, megis Finlay Bradbury (Christopher Robin, Bridget Jones’s Baby, The Dark Knight), Iwan Roberts (Submarine, Mr. Nice, Keeping Faith) ac Owain Gillard (The End of the F***ing World, Casulaty, Father Brown). Cafodd yr hyfforddeion gyfle i wrando ar brofiadau’r siaradwyr a siawns i ofyn cwestiynau.

Dywedodd Hannah James-Johnson, hyfforddai ar y cwrs:

 Roedd yn anhygoel i gael siarad gyda ffigurau mawr y diwydiant sydd gydag ystod eang o brofiad.

Yn ogystal â’r siaradwyr gwadd wnaeth Andy Dixon Facilities, Creative Risk Solutions a Lubas Medical ddod mewn i gwrdd â’r hyfforddeion a siarad am y gwasanaethau maen nhw’n cynnig a sut maen nhw’n effeithio ar y rôl y Rheolwr Lleoliadau.

Dywedodd Hannah Tribe, hyfforddai ar y cwrs:

Mae’r cwrs hwn wedi teimlo fel ffenestr wych mewn i’r diwydiant, gan gyfarfod â phobl sy’n awyddus i helpu. Er ei bod hi’n rhy fuan i wybod sut mae’r cwrs hwn wedi elwa fi, mae’r cynnydd mewn hyder ac ymdeimlad yn fy ngallu fy hun eisoes yn cael effaith.

Er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf ynglŷn â chyrsiau Sgil Cymru arwyddwch lan i dderbyn y cylchlythyr diwydiant.