Am Gyflogi Prentis?

Mae Sgil Cymru yn chwilio am gyflogwyr ar gyfer ei gynlluniau prentisiaeth lefel 3 a lefel 4. Bydd y rhaglen lefel 3 yn para am 12-mis ac yn ddechrau ym mis Medi 2018. Mae’r ddau gynllun lefel 4 yn para am 15-mis ac yn dechrau yn ôl gofynion y cyflogwr.

Prentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3: Mae’r brentisiaeth yma yn addas ar gyfer cwmnïau sy’n chwilio i gyflogi rhywun mewn amryw rôl a allai gynnwys gwaith camera, gwisgoedd, cyfryngau cymdeithasol, golygu sain a fideo.

Prentisiaeth Uwch (lefel 4) Hysbysebu a Chyfathrebu Marchnata:  Os yw eich cwmni yn ymwneud ag unrhyw agwedd o farchnata, hysbysebu neu PR yna gallai’r brentisiaeth hon fod yn ffordd ddelfrydol i chi recriwtio ar gyfer rolau yn cynnwys hysbysebu, marchnata, creu cynnwys ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol.

Prentisiaeth Uwch (lefel 4) Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol): Os ydych chi’n gweithio ar-lein ac yn datblygu cynnwys rhyngweithiol yna gall y brentisiaeth hon fod yn ffordd dda i recriwtio am rolau yn cynnwys adeiladu a rheoli gwefannau, dylunio digidol greadigol a datblygu apiau.

Am ddysgu mwy am sut i gyflogi prentis cyfryngau gyda Sgil Cymru? Cysylltwch â’r tîm ar help@sgilcymru.com neu ar 07843 779 870.