Camu Fyny mewn Colur i Hanna

Mae Sgil Cymru wedi recriwtio hyfforddai cyntaf ar gyfer rhaglen Camu Fyny.

Mae Camu Fyny yn gyfle prin i weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen yn eu gyrfa, a hefyd ar gyfer y rhai sydd yn arbenigwyr cymwysedig sydd eisiau gweithio ym myd teledu. Bydd y cynllun hyfforddiant yn cael ei deilwra i’r unigolyn yn ôl eu hanghenion, a bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â lleoliad neu gwrs yn para hyd at 10 wythnos, yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y cyfnod cyfan.

Cyn ennill ei lle ar Camu Fyny, mae Hanna wedi bod yn gweithio’n galed fel Hyfforddai Colur a Gwallt ar nifer o gynhyrchiadau.  Mae ei CV yn cynnwys y sioe theatr ‘Les Miserables’ yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru, y ffilm ddrama ‘Their Finest’ gyda Sam Claflin a Gemma Arteron, a’r ffilm arswyd ‘Watcher in the Woods’.

Fel rhan o’I rhaglen Camu Fyny mae Hanna bellach yn gweithio ar y gyfres ddrama Keeping Faith/Un Bore Mercher i S4C a’r BBC.  Mae hi’n gweithio dan adain hynod o brofiadol y Cynllunydd Colur a gwallt Claire Prichard-Jones, ac mae hi’n barod yn datblygu nifer o sgiliau newydd gan gynnwys sut i dorri lawr sgriptiau a chymeriadau yn ogystal ag ennill mwy o hyder yn ei rol newydd.

Dwedodd Claire:

Mae Camu Fyny wedi bod yn help mawr i Keeping Faith/Un Bore Mercher, gan ein bod wedi medru parhau gyda hyfforddiant Hanna.  Mae Hanna yn dalentog iawn, ac mae’r ardal yma mor anodd i gael ffordd i mewn iddo.  Heb help Sgil Cymru fyddwn ni ddim wedi medru  bod yn gynorthwy i Hanna.

Dwedodd Hanna:

Mae pob dydd yn wahanol – ac mae hyn yn cadw popeth yn ddiddorol.  Weithiau dwi angen bod ar set yn edrych ar ol y prif gast ac weithiau yr artisiaid cynorthwyol; ar ddyddiau eraill dwi angen paratoi a phlanio y dyddiau sydd i ddod, gan wneud pethau fel setio wigiau, llenwi mowldiau prosthetig, edrych ar ol stoc ac yn y blaen.

Mae ‘camu fyny’ o hyfforddai i swyddi cynorthwyol wedi bod yn hanfodol imi.  Dwi’n hynod o ddiolchgar mod i nawr yn medru cael y profiad o weithio ar 6 mis o ddrama BBC/S4C o’r dechrau i’r diwedd, gan ddatblygu fy sgiliau a bod yn fwy cymwys yn fy rol newydd – dwi’n edrych ymlaen at y cyfleoedd nesa.

P’un a ydych yn Ysgrifennydd Cynhyrchu eisiau camu fyny at Gydlynydd Cynhyrchu, neu AD sydd eisiau symud i fyny gradd, neu drydanwr sydd eisiau symud i mewn i adran gynhyrchu teledu, rydym am glywed gennych. Dwedwch wrthym beth sydd angen arnoch a pham.

Anfonwch hyd at 200 o eiriau am eich hun a chopi o’ch CV at lisa@sgilcymru.com.