Connie’n Llawn Hyder Newydd

Mae Connie Matthews, 18 o Sir Fynwy ar hyn o bryd yn gwneud Prentisiaeth Lefel 4 mewn Marchnata a Hysbysebu drwy Sgil Cymru. Mae hi’n gweithio fel Prentis Hysbysebu a Chyfryngau Cymdeithasol gyda Buzz Magazine yng Nghaerdydd.

Cyn ei phrentisiaeth doedd Connie, fel llawer o bobl ifanc eraill, ddim yn awyddus i fynd i brifysgol, ond nid oedd hi’n gweld unrhyw opsiwn arall. Yn y gorffenol cafodd Connie broblemau gyda’r ffyrdd traddodiadol o ddysgu yn yr ysgol, felly gwnaeth Connie ddewis llwybr gradd ymarferol i ddilyn yn y Brifysgol yn fwriadol.

Dywedodd Connie:

“Drwy gydol y chweched dosbarth, wnes i geisio cael y graddau i fynd i brifysgol. Doeddwn ni ddim yn rhy awyddus ar y syniad o fyw i ffwrdd ac i fynd i’r brifysgol, doeddwn i ddim yn gwybod pa opsiynau eraill oedd gennyf ar y pwynt hwnnw. “

Symudodd Connie i ffwrdd i fynychu Brifysgol ond yn fuan sylweddolodd nad oedd y llwybr dewisodd hi yn addas. Ar ôl sylweddoli hyn, symydodd Connie yn ôl adref a dechreuodd chwilio am swydd amser llawn.

Trwy ei Mam, cafodd Connie wybodaeth am y Brentisiaeth Lefel 4 mewn Hysbysebu a Marchnata.

Dywedodd Connie:

“Roedd yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir yn gyntaf; Doeddwn i ddim yn sylweddoli fod yna prentisiaethau mewn pethau yn y sector greadigol, roeddwn i’n meddwl eu bod nhw i gyd yn ymwneud â plymio neu bethau trydanol. “

Yn aml mae llawer o ragdybiaethau am brentisiaethau, ac mae Connie wedi siarad am yn ei blog hi amdanynt. Mae’r prentisiaethau Sgil Cymru yn cynnig swyddi llawn-amser, efo tal o fewn cwmni sefydledig yn Ne Cymru, tra eich bod yn cwblhau cymhwyster Diploma cydnabyddedig. Mae’r rolau swydd sy’n dod o dan y tri llwybr prentisiaeth gwahanol sydd gan Sgil Cymru, yn amrywio o ddatblygu gwe i hysbysebu, gwisgoedd i gamera a phopeth yn y canol.

Dywedodd Connie:

“O fewn wythnos o fod yn y cylchgrawn, fe wnaeth fy hyder gynyddu’n gyflym. Rwyf wedi bod yno am bron 5 mis ac ni allaf ddychmygu bod unrhyw le arall.”

A oes angen i chi wneud y penderfyniad rhwng prifysgol neu brentisiaeth? Darllenwch stori Connie i glywed ei thaith hi a pham roedd prentisiaeth yn fwy addas iddi na’r brifysgol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud prentisiaeth? Ydych chi eisiau ennill a dysgu ar yr un pryd? Bydd Sgil Cymru yn recriwtio eto yr Haf yma, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn llofnodi i dderbyn ein cylchlythyr ac yn cadw llygad ar ein Facebook a Twitter ar gyfer yr holl newyddion diweddaraf.

Neu os oes gennych ddiddordeb mewn cyflogi prentis, plis cysylltwch efo ni ar 07843 779 870 a/neu ebostio ni ar help@sgilcymru.com.