Cofrestru eich Diddordeb efo Sgil Cymru!

Ydych chi eisiau gweithio mewn diwydiant cyffrous i gwmni sy’n tyfu?

Yn y dyfodol agos bydd Sgil Cymru yn chwilio am aelodau newydd o staff i ehangu ein tîm yn Pinewood Studio Cymru yng Nghaerdydd. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu prentisiaethau yn y Cyfryngau, y Cyfryngau Rhyngweithiol a Marchnata, ac yn gobeithio cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar draws y Cyfryngau yn y dyfodol agos. Er mwyn gwneud hyn, mae angen mwy o staff!

Os ydych chi eisiau gofrestru eich diddordeb mewn gweithio mewn swyddfa gydag amgylchedd gyflym, yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn awyddus i fod yn rhan o dîm bychan (gyda chi bach sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Pennaeth Diogelwch) yna, cysylltwch â ni heddiw.

Anfonwch e-bost i help@sgilcymru.com gan atodi eich CV ac fe ddown yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Mae'r Pennaeth Diogelwch yn cael egwyl bach
Mae’r Pennaeth Diogelwch yn cael egwyl bach

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.