Cyfweld â Phrentis – Adam Neal

Er mwyn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2019 rydym wedi cyfweld â 5 o’n cyn prentisiaid sydd wedi llwyddo yn eu gyrfaoedd yn dilyn eu prentisiaeth. Ein gwestai gyntaf yn y gyfres yw Adam Neal.

Enw:                                         Adam Neal
Oedran:                                   33
O:                                              Aberdar
Cyflogwr Prentis:                  Stiwdios BBC
Swydd Teitl Prentis:             Prentis Adran Heb Sgript

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn y brentisiaeth?
Roeddwn i’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Cymorth Anghenion Arbennig yn Ysgol Uwchradd Sant Ioan.

Pam oeddech chi moen wneud prentisiaeth?
Dwi wastad wedi fod yn awyddus i weithio yn y diwydiant cyfryngau. Es i brifysgol, ond ar ôl dwy flynedd sylweddolais nad oedd y brifysgol i mi ac fe ddechreuais weithio. Pan ddeuthum ar draws prentisiaeth a darganfod nad oedd yn rhaid i chi fod o dan 24 oed, penderfynais roi siawns arni.

Beth oedd eich swydd brentisiaid yn ei olygu?
Roeddwn i’n rhan o’r tîm heb sgript ar gyfer BBC Studios a thra’n gweithio yno mi gefais y siawns o weld nifer o swyddi gwahanol. Yn dibynnu ar y cynhyrchiad, cymerais rôl ymchwilydd, rhedwr neu gynorthwy-ydd rheolwr cynhyrchui. Datblygodd y gwahanol rolau hyn fy sgiliau wrth ymchwilio, gweithredu camera, llwytho ar gyfer golygu, trawsgrifiadau, gwaith papur cynhyrchu fel amserlenni ffilmio yn ogystal â’r saethu o ddydd i ddydd ar leoliad ac yn y stiwdio.

Ar ba raglenni / prosiectau wnaethoch chi weithio?
Rydw i wedi gweithio ar y rhaglenni canlynol: The Miners Who Made Us, The One Show, X-Ray, Crimewatch Roadshow Live a Bargain Hunt.

Beth ddigwyddodd pan wnaethoch chi gwblhau eich prentisiaeth?
9 mis i fewn i’r brentisiaeth, cefais y siawns o ymgeisio ar gyfer rôl ymchwilydd gyda BBC X-Ray ac fe’m gwahoddwyd i gyfweliad. Yn fuan wedyn cefais gynnig y swydd a fyddai’n dechrau mis cyn diwedd fy mhrentisiaeth. Caniataodd Academi’r BBC a Sgil Cymru i mi orffen y brentisiaeth yn gynnar a dechreuais fel ymchwilydd ym mis Awst 2018. Rydw i ar hyn o bryd yn gweithio fel ymchwilydd ar gyfer y rhaglen gyda dros ddwsin o fy straeon fy hun wedi  cael eu darlledu ar BBC One Wales. Dwi’n hynod o falch o fod wedi cyflawni cymaint ers dechrau’r brentisiaeth.

Ydych chi wedi tyfu o ganlyniad i’r brentisiaeth?
Rwy’n credu fy mod wedi tyfu llawer ers dechrau’r brentisiaeth. Dechreuais i’r prentisiaeth yn gwybod fawr ddim am y diwydiant teledu a bellach rwy’n ymchwilydd i raglen ymchwiliol i ddefnyddwyr. Rwy’n teimlo fy mod wedi dysgu cymaint yn fy amser fel prentis ac mae hyn i gyd oherwydd y gefnogaeth a’r addysgu gan Sgil Cymru a fy nghydweithwyr yn BBC.

Yn ddiweddar, gofynnwyd imi sgriptio, saethu, cyfarwyddo a golygu fy eitem  fy hun ar gyfer X-Ray. Dim ond 90 eiliad yn unig oedd yr eitem ond doeddwn i ddim yn disgwyl gwneud  unrhyw beth fel hyn am gwpwl o flynyddoedd!

Mae fy mywyd wedi newid cymaint yn y flwyddyn a hanner diwethaf ac i feddwl mai dim ond 7 mis yn ôl ’r oeddwn i’n brentis ac yn awr rydw i wedi gwneud hyn! Mae gen i lawer mwy i’w ddysgu wrth gwrs, a ffordd bell i fynd nes i mi gyrraedd fy nod, ond roedd hwn yn brofiad gwych.

Beth yw’r cam nesaf yn eich gyrfa?
Rwy’n gobeithio parhau i fod yn ymchwilydd sy’n hunan-saethu, i ddysgu cymaint ag y gallaf am y diwydiant a chynyrchiadau gwahanol, ond y cam nesaf i mi fyddai gyrfa cyfarwyddwr sy’n hunan-saethu.