Cynorthwy-ydd Camera yn Camu Fyny

Mae Sgil Cymru yn croesawu Howard Colin, Cynorthwy-ydd Camera profiadol, fel hyfforddai newydd i’r cynllyn Camu Fyny. 

Mae Camu Fyny yn gyfle prin i weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen yn eu gyrfa, a hefyd ar gyfer y rhai sydd yn arbenigwyr cymwysedig sydd eisiau gweithio ym myd teledu. Bydd y cynllun hyfforddiant yn cael ei deilwra i’r unigolyn yn ôl eu hanghenion, a bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â lleoliad neu gwrs yn para hyd at 10 wythnos, yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y cyfnod cyfan.

Dros 5 mlynedd yn ol dechreuodd Howard ei yrfa trwy weithio i dŷ rhentu camerau lle cafodd y cyfle i afael ar amrywiaeth o offer  camera. Yn dilyn hyn symudodd i fod yn llawrydd trwy weithio yn yr adran camera ar amryw o gynyrchiadau drama Cymraeg.

Dwedodd Howard:

Mae’n daith hir trwy geisio dysgu’r holl offer wahanol a sut i gael y gorau allan o’r offer ar gyfer y cynhyrchiad.

Swydd Howard o fewn yr adran camera ydy Cynorthwy-ydd Camera. O ddydd i ddydd mae ei waith yn amrywio, yn dibynnu ar y cynhyrchiad.

Dwedodd Howard:

Gall fy ngwaith o ddydd i ddydd amrywio yn dibynnu ar y cynhyrchiad, ond mae’r cyfrifoldebau craidd yn cynnwys sicrhau bod y camera wedi cael ei lwytho (gyda cherdyn cof) ac yn barod i saethu. Er mwyn gwneud hyn mae yna nifer o ffactorau sydd angen eu hystyried gan gynnwys: sicrhau bod yr holl git yn cael eu rheoli’n gywir ac mae gennym y pethau sydd eu hangen arnom ar gyfer y siot neu’r olygfa. Mae yna amryw o bethau sy’n gallu arafu cynhyrchiad felly mae angen ragweld rhain er mwyn eu hosgoi. Er enghraifft, gall symud o leoliad allanol oer i leoliad mewnol cynnes achosi lensys i ymgolli â chyddwyso. Mae’n bwysig meddwl ymlaen a mynd â’r lensys i’r lleoliad i gynhesu cyn i’r saethu ddechrau.

Dim ond un enghraifft yw hynny, ond mae yna amryw o sefyllfaoedd all godi. Fy nghyfrifoldeb yw gweithio gyda’r Ysgogwr Ffocws (Cynorthwy-ydd Camera 1af) i sicrhau gweithrediad llyfn y camera.

Trwy cymryd rhan mewn Camu Fyny bydd Howard yn symyd i weithio ar raglennu teledu o safon uchel yng Nghymru.

Am gamu fyny yn eich gyrfa? Mae Camu Fyny 2017 dal ar agor am geisiadau! P’un a ydych yn Ysgrifennydd Cynhyrchu eisiau camu fyny at Gydlynydd Cynhyrchu, neu AD sydd eisiau symud i fyny gradd rydym am glywed gennych. Dwedwch wrthym beth sydd angen arnoch a pham.

Anfonwch hyd at 200 o eiriau am eich hun a chopi o’ch CV at lisa@sgilcymru.com.