CYRSIAU HYFFORDDI NEWYDD I’R DIWYDIANT FFILM I LANSIO YN PINEWOOD STUDIO CYMRU

Mae Sgil Cymru, y cwmni sy’n cyflwyno’r Brentisiaeth mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn lansio cynllun hyfforddi newydd o’i ganolfan yn Pinewood Studio Cymru yn cychwyn 31 Hydref 2016. Mae’r cyrsiau yn gwella sgiliau gweithwyr proffesiynol y diwydiant, trwy eu paratoi ar gyfer rolau newydd o fewn cynhyrchu ffilm. Bydd y tri chynllun cychwynnol yn canolbwyntio ar arolygu sgript, rheoli cynhyrchu a lleoliadau. Bydd cyllid ar gyfer y cyrsiau yn dod o Gronfa Ffilm Creative Skillset a gefnogir gan Loteri Genedlaethol y BFI.

Mae’r cwrs cyntaf yn rhaglen ddwys o bythefnos i ddarpar arolygwyr sgript. Bydd deg o hyfforddeion yn cael eu tiwtora gan Ceri Evans-Cooper, sydd gyda credydau niferus dros ddeng mlynedd ar hugain fel goruchwyliwr sgript yn cynnwys ffilmiau yn y fasnachfraint Harry Potter, ‘action thriller’ Matt Damon – Green Zone a Indiana Jones & The Temple of Doom.

Mae’r cynllun hwn yn cael ei ddilyn gan un ym mis Tachwedd, ar gyfer y rhai sydd am gamu i fyny i rôl y rheolwr cynhyrchu. Bydd cwrs pellach yn canolbwyntio ar reoli lleoliadau yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2017. Er bod yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu yng Nghymru, croesewir ceisiadau gan weithwyr proffesiynol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru Sue Jeffries, sydd gyda dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad ym maes cynhyrchu ffilm a theledu:

“Mae’r ffaith fod Creative Skillset wedi gwobrwyo Sgil Cymru gyda arian ar gyfer y cyrsiau yma, yn brawf bod y cyrsiau hyn o’r safon uchel a fynnir gan y diwydiant ffilm y DU. Gyda mwy a mwy o gynyrchiadau ffilm yn dod i Gymru i saethu bob blwyddyn, mae’n hanfodol y gall Cymru gynnig hyfforddiant sy’n bodloni anghenion y diwydiant cyffrous yma.”

Dywedodd David Johnston, Rheolwr Gweithrediadau yn Pinewood Studio Cymru:

“Mae Pinewood Studio Cymru yn falch o gynnal y cyrsiau hyfforddi sydd ar y gweill gan Sgil Cymru. Mae’r profiad hyfforddi helaeth y maent yn darparu i’r cyfryngau yn amhrisiadwy i’r diwydiant yng Nghymru a gyda’r cyllid gan Creative Skillset a Chronfa Loteri Genedlaethol y BFI, bydd y DU gyfan yn elwa. Rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r ymgeiswyr llwyddiannus i Pinewood Studio Cymru”

Ceisiadau yn awr ar agor ar gyfer pob un o’r cyrsiau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.sgilcymru.com/cy/hyfforddiant-ffilm/

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.