Diwrnod Stiwdio i Brentisiaid y Dyfodol

Cymerodd dros 45 o bobl ifanc sydd am weithio yn y cyfryngau ran mewn gweithdy recriwtio prentisiaid yn Stiwdio Enfys yng Nghaerdydd yr wythnos hon. Dan arweiniad Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru, a’r Asesydd Matt Redd, bu prentisiaid y dyfodol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau I’w cyflwyno i’r diwydiant.

Yn ogystal â dysgu am y rolau sydd ar gael yn y diwydiannau creadigol, cafodd y cyfranogwyr gyfle i gwrdd ậ staff o gwmnïau yn y cyfryngau, gan gynnwys Bad Wolf, Boom Cymru, ITV Cymru Wales, Real SFX a The Look. Roeddent yn gallu gofyn cwestiynau am lwybrau i mewn i’r diwydiant a sut mae pethau’n gweithio y tu ôl i’r llenni yn y cwmniau unigol yma.

Roedd y cyn-brentis o BBC Cymru Wales a Sgil Cymru, Molleasha Quinn a chyn-brentis ITV Cymru Wales a Sgil Cymru Nia Yorke, yn y stiwdio i siarad am eu profiadau ar y cynllun prentisiaeth, a sut mae nhw wedi troi eu cyfle i mewn i yrfaoedd llwyddiannus yn y cyfryngau.

Bydd nifer o’r cyfranogwyr yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses, cyn i’r rhai llwyddianus gael eu dewis ar gyfer prentisiaethau gyda chyflogwyr yn y cyfryngau.

Dywedodd Sue Jeffries Sgil Cymru:

Mae hi wedi bod yn ddiwrnod arbennig yn y stiwdio. Gyda cymaint o dalent gwych yn y stafell, mae cyrraedd y cam yma yn y broses yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac mae dyfodol y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn edrych yn ddisglair iawn.

Cliciwch yma i weld y swyddi gwag ar gynlluniau prentisiaeth Sgil Cymru.