Gwobr Prentisiaeth i Adam

Rydym yn falch i gyhoeddi bod un o’n cyn prentisiaid gyda BBC Cymru Wales wedi ennill yng ngwobrau QSA 2019.

Enillodd Adam Neal, cyn Prentis Adran Heb Sgript, y wobr am Brentis Diwydiannau Creadigol y flwyddyn.

Gweithiodd Adam fel prentis mewn adran heb sgript BBC Cymru Wales am flwyddyn cyn cwblhau ei brentisiaeth yn Haf 2018. Wrth i Adam weithio fel prentis fe weithiodd fel ymchwilydd, rhedwr a chynorthwy-ydd rheolwr cynhyrchu. Ers gorffen ei brentisiaeth mae Adam wedi parhau i weithio i BBC Cymru Wales a nawr yn gweithio fel Ymchwilydd ar y sioe X-Ray.

Cynhelir seremoni wobrwyo QSA yng Nghampws Caerdydd Canolog Coleg Caerdydd a’r Fro ar nos Fercher y 13eg o Fawrth 2019. Mae gwobrau QSA yn dathlu llwyddiant prentisiaid a chyflogwyr arbennig y QSA yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mynychodd tua 200 o westeion, gan gynnwys enillwyr y gwobrau a’u gwesteion, eu partneriaid a darparwyr y QSA, ynghyd â chynrychiolwyr o’r llywodraeth ac o fyd addysg a’r gymuned fusnes yng Nghymru a thu hwnt.

Hoffai tîm Sgil Cymru llongyfarch pob enillydd yng Ngwobrau QSA 2018. Roedd hi’n bleser dathlu llwyddiant prentisiaid a chyflogwyr ar y cyd gyda’r gwahanol sectorau.