Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018

Hoffai tîm Sgil Cymru longyfarch pob enillydd ac enwebai yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2018.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu, a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd Brentisiaethau ledled Cymru.

Cynhaliwyd y noson o ddathlu yn y Celtic Manor ar nos Wener y 9fed o Dachwedd. Roedd amryw o gategori ar y noson yn cynnwys Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith, Prentis y Flwyddyn, Cyflogwr Bach y Flwyddyn a Thiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Cafodd tîm Sgil Cymru noson o hwyl yn dathlu llwyddiant pawb.