Lawnsiad Hyfforddiant Ffilm yn Pinewood Studio Cymru gyda chwrs Arolygydd Sgript

Mae’r cyntaf o gyrsiau Hyfforddiant Ffilm Sgil Cymru, wedi cymryd lle yn Pinewood Studio Cymru yng Nghaerdydd, gyda wyth Arolygydd Sgript newydd, o bob cwr o’r DU yn cwblhau pythefnos o gwrs dwys. O dan arweiniad Ceri Evans-Cooper, sydd wedi gweithio ar sawl ffilm gan gynnwys ffilm Matt Damon ‘GREEN ZONE’, a’r fasnachfraint ‘HARRY POTTER’,  gwariodd yr hyfforddeion wythnos yn dysgu’r gwaith theori sydd yn gysylltiedig a’r swydd, cyn mynd o’r ystafell hyfforddi at lawr y stiwdio ar gyfer wythnos o waith ymarferol gyda chast a chriw proffesiynol.

Dywedodd un o’r hyfforddeion, Llaima Cardenas o Gaerdydd: 

“Roedd hi’n wych cael gweithio mewn stiwdio gweithredol. Doeddwn ni ddim yn disgwyl cael cymaint o amser ar set – roedd cael wythnos gyfan yn wych! Dwi’n teimlo’n llawer mwy hyderus a wedi’m paratoi i fynd ymlaen yn fy ngyrfa.”

Gyda’r angen sylweddol ar gyfer Arolygwyr Sgript yn y Deurnas Unedig, mae’r hyfforddeion yn awr yn barod i roi eu profiadau ar waith mewn swyddi llawrydd.

Adiodd y cyfranogwr Becky Crawford o Stockport: 

“Dwi’n teimlo’n ffodus iawn i gael hyfforddiant gan griw o galibr mor uchel. Dwi wir wedi mwynhau’r cwrs a dwi wedi ennill gwybodaeth newydd i ychwanegu at y wybodaeth oedd gen i’n barod.”

Dywedodd tiwtor y cwrs, Ceri Evans-Cooper: 

“’Da ni wedi gwneud cymaint mewn pythefnos, ac er bod cymaint i ddysgu, gwnaeth pob un a gymrodd rhan ar y cwrs y gorau o’r cyfle. Byddyn nhw i gyd yn gadael yma gyda set o sgiliau newydd.  Byddai pob un yn creu aelod gwerthfawr i unrhyw dim cynhyrchu, dwi’n siwr y  byddan nhw i  gyd yn gweithio ar set cyn hir.”

Mae’r cwrs newydd Hyfforddiant Ffilm yn edrych am griw sydd yn gobeithio dysgu sgiliau i gael bod yn Rheolwr Cynhyrchu. Yn dechrau’n hwyrach mis yma, mae hyfforddeion wedi cael eu dewis ar gyfer y cwrs yn barod. Ym mis Ionawr 2017, bydd y trydydd cwrs yn cael ei gynnal, gyda pythefnos o hyfforddiant Rheolwr Lleoliad – ffeindiwch mwy o wybodaeth am geisiadau ar gyfer y cwrs yma.

Mae’r Arolygwyr Sgript newydd yn barod am waith, felly os ydych chi’n edrych am Arolygydd Sgript ar gyfer eich cynhyrchiad newydd, cysylltwch gyda Hyfforddiant Ffilm Sgil Cymru, trwy ebostio help@sgilcymru.com.

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.