Llwyddiant i Sue yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru

Llongyfarchiadau anferth i Sue Jeffries, Rheolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru, am ennill Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2017.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu, a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Cyflogadwyedd Brentisiaethau ledled Cymru.

Cynhaliwyd y noson o ddathlu yn y Celtic Manor ar nos Wener y 20fed o Hydref. Roedd amryw o gategori ar y noson yn cynnwys Prentis y Flwyddyn, Cyflogwr Bach y Flwyddyn a Thiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Enillodd Sue y wobr am waith rhagorol hi fel goruchwylydd y tair rhaglen brentisiaeth gwahanol mae Sgil Cymru yn eu rhedeg. Mae’r prentisiaethau yma mewn meysydd gwahanol o’r diwydiannau creadigol, ac mae Sue yn gweithio’n agos gyda nifer o gyflogwyr, gan gynnwys BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Real SFX i sicrhau bod prentisiaid yn cael y mwyaf  o’u hamser ar y cynllun. Fel asesydd arweiniol, mae Sue hefyd yn mentora tri asesydd llawrydd tra’u bod yn canolbwyntio ar ddatblygu gyrfaoedd y prentisiaid.

Dwedodd Sue:

Mae hon yn wobr bwysig iawn i gwmni bach fel fy un i sy’n cael ei ystyried ochr yn ochr â chwmnïau enfawr.

Dim ond 18 mis oed ydyn ni ac felly mae hon yn anrhydedd ddi-ail. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill am ei fod yn ddosbarth mor gryf. 

Fy nod yn awr ydi cydweithio â chyflogwyr yn y cyfryngau i sicrhau ein bod yn llwyddo i gael rhagor o brentisiaid i’r llefydd iawn.

Hoffai Sgil Cymru llongyfarch pob enillydd ac enwebeion yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2017.