Llwyddiant Prentisiad yng Ngwobrau’r QSA

Mae Sgil Cymru yn dathlu’i llwyddiant, ar ôl i bedwar o’i enwebai gipio Gwobrau Prentisiaeth Cynrhair Ansawdd Sgiliau (CAS) 2017 yng Nghaerdydd neithiwr. Mae’r CAS yn gonsortiwm unigryw o ddarparwyr hyfforddiant dysgu yn y gwaith, sydd yn gweithio ar y cyd gyda dros mil o gyflogwyr i gynnig prentisiaethau dros ystod eang o sectorau – o Drin Gwallt i Waith Modurol, Cyfryngau Creadigol i Fferylliaeth. Cafodd y seremoni wobrwyo ei gynnal yng nghampws canolog Coleg Caerdydd a’r Fro, lle dathlwyd llwyddiant ar draws amryw o sectorau, gyda phedwar o enwebiadau Sgil Cymru yn ennill gwobrau.

Ennillodd BBC Cymru Wales wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn am yr ail waith, wedi ennill hefyd yn 2015. Mae’r BBC yn cyflogi deuddeg prentis ar hyn o bryd, yn Broadcasting house ac yn eu pentref drama Roath Lock, wrth weithio’n agos gyda Sgil Cymru i sicrhau fod pob prentis yn cael ystod eang o brofiadau ar raglenni fel Dr Who, Pobol y Cwm, Bargain Hunt ac X-Ray.

Yr ail gwmni o’r sector greadigol i ennill oedd Cardiff Theatrical Services. Ennillon nhw wobr croes-sector Cyflogwr Bach y Flwyddyn. Mae CTS yn adeiladu setiau ar gyfer opera, theatre, ffilm a chynhyrchiadau teledu, ac maent yn eu ail flwyddyn o gyflogi prentisiaid trwy raglen Sgil Cymru. Maent hefyd wedi cyflogi graddedigion eraill o raglen Sgil Cymru.

Roedd Nia Yorke, cyn-brentis ITV Cymru Wales yn sefyll allan yn ei sector, gan ennill Prentis Diwydiannau Creadigol y flwyddyn. Yn ystod ei phrentisiaeth, fe weithiodd Nia ar The Welsh Leaders Debate, fe weithiodd dros nos ar etholiadau Llywodraeth Cymru a Chwpan Rygbi’r Byd.  Mae Nia, sydd yn dod o Drelai yng Nghaerdydd, bellach yn llawrydd ac yn gweithio i ITV Cymru Wales ymysg pobl eraill.

Ennillodd Dewi Foulkes, technegydd effeithiau arbennig sydd yn gweithio i Real SFX, wobr Ysbrydoliaeth y Flwyddyn, yn cydnabod ei lwyddiant o fewn y diwydiant arbennig yma ers iddo gwblhau ei brentisiaeth yn 2012. Yn ddiweddar ennillodd Dewi yr Emmy am ‘Outstanding Special Visual Effects in a Supporting Role’ am ei waith ar Sherlock. Roedd gweld Dewi yn ennill y wobr yn eitha peth gan na fu yn agos at set deledu na ffiilm cyn ei brentisiaeth. Mae Dewi yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o brentisiaid.

Mae Sgil Cymru yn llongyfarch pob ennillydd, ac yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o lwyddiant arbennig i’n cyflogwyr a’n prentisiaid.

Be the first to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.