Prentisiaeth neu Brifysgol? Dyma Sut Wnaeth Chloe Penderfynu…

Mae un o’r prentisiaid lefel 4 Hysbysebu a Marchnata Sgil Cymru yn esbonio popeth am ei thaith fel prentis a pham nad oedd prifysgol yn siwtio hi. Mae Chloe Mae Johnson o Gasnewydd yn gweithio fel Prentis Digwyddiadau ac Cynorthwy-ydd Prosiectau gyda Amplified Business Content ac yn cwblhau ei brentisiaeth drwy Sgil Cymru.

Cyn ei phrentisiaeth roedd Chloe wedi gorffen ei lefelau A a wrthi’n meddwl am beth ddylai’r cam nesaf yn ei bywyd fod. Fel llawer o bobl ifanc roedd Chloe angen gwneud y penderfyniad rhwng gweithio’n llawn-amser, mynychu prifysgol neu ymgeisio am brentisiaeth.

Dywedodd Chloe:

Roeddwn i’n teimlo’n rhwystredig ac yn ddryslyd am y cam nesaf i fynd yn fy mywyd. Doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i am wneud. Roedd fy ffrindiau i gyd eisioes wedi cael eu derbyn i mewn i Brifysgol ac roedd amser yn rhedeg allan yn gyflym i fi. Roedd y ffaith oeddwn ni gorfod dewis llwybr gyrfa, a fydd yn newid fy mywyd, yn 18 oed yn rhoi llawer o bwysau arnai …

Drwy lawer o waith ymchwil, nes i sylwi ar yr opsiwn o Brentisiaeth. Doeddwn i ddim erioed wedi meddwl am edrych i mewn i Brentisiaethau, gan fy mod bob amser yn meddwl yn unig am swyddi plymio neu beirianneg ar gael trwy gynllun Prentisiaeth. Pa mor anghywir oeddwn i?

Ers iddi dechrau ei phrentisiaeth mae Chloe wedi bod yn rhan o 3 digwyddiad, 2 seremoni gwobrwyo, wedi hedfan i Lundain i weithio ac mae wedi bod mewn cysylltiad efo swyddfa Lord Sugar – a dim ond hanner ffordd drwy ei brentisiaeth mae hi!

Dywedodd Chloe:

Ni allaf ddiolch Sgil Cymru digon am eu hanogaeth barhaus ac ymroddiad, ac i’r holl bobl sydd wedi helpu fi drwy fy daith hyd yn hyn.

Ydych chi eisiau rhoi ‘cic start’ i’ch gyrfa yn union fel gwnaeth Chloe? Ydych chi eisiau ennill cyflog a dysgu ar yr un pryd? Bydd Sgil Cymru yn recriwtio eto yr Haf yma, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn llofnodi i dderbyn ein cylchlythyr ac yn cadw llygad ar ein Facebook a Twitter ar gyfer yr holl newyddion diweddaraf.

Cliciwch yma i ddarllen blog Chloe ar pam y dewisodd hi prentisiaeth dros brifysgol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflogi prentis, plis ffoniwch ni ar 07843 779 870 a/neu ebostio ni ar help@sgilcymru.com.