Prentisiaid Creadigol yn Dechrau ar eu Gyrfa

Croesawodd Sgil Cymru 20 prentis creadigol newydd ar eu Prentisiaeth Lefel 3 Cyfryngau Creadigol a Digidol. Bydd pob prentis yn cwblhau eu cymhwyster gyda Sgil Cymru, wrth weithio am flwyddyn i gwmni cyfryngau yn Ne Cymru.

Am y tro cyntaf mae Bad Wolf, Boom Cymru, Cardiff TV a The Look wedi recriwtio prentisiaid ar y rhaglen. Yn ogystal â chyflogwyr newydd mae BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales a Real SFX wedi dychwelyd i’r cynllun i gyflogi rhagor o brentisiaid.

Mae’r prentisiaid y flwyddyn yma yn gweithio o fewn amrywiaeth o swyddi ar draws gwahanol adrannau’r diwydiant cyfryngau gan gynnwys:

  • Adran Gynhyrchu
  • Effeithiau Arbennig
  • Gwisgoedd
  • Marchnata
  • Ôl-gynhyrchu
  • Radio

Cyn dechrau yn y gweithle mynychodd pob prentis tair wythnos o gwrs rhagarweiniol gyda Sgil Cymru lle ddechreuon nhw ar eu gwaith diploma.

Dwedodd Amy, Prentis Gwisgoedd BBC Cymru Wales:

Rwyf wedi mwynhau dod i nabod gweddill y prentisiaid lefel 3. Mae pawb yn hyfryd ac mae’n dda bod gen i gysylltiadau â phobl i sgwrsio gyda trwy gydol y flwyddyn, sy’n mynd drwy’r un broses â fi!

Ymwelodd y prentisiaid â Stiwdio Blaidd Cymru lle maent yn ffilmio His Dark Materials ar hyn o bryd ac fe gawson nhw’r cyfle i siarad â rhai o’r adrannau sy’n gweithio ar y gyfres. Buont hefyd yn ymweld â chyfleusterau Coleg Caerdydd a’r Fro gan eu bod yn gallu eu defnyddio tra ar eu prentisiaeth.

Dwedodd Eugenia, Prentis ITV Cymru Wales:

Rwyf wedi mwynhau’r daith i Stiwdio Blaidd Cymru fwyaf hyd yn hyn. Roedd y cynhyrchiad mor anferth, roedd yr ymweliad wir yn agoriad llygad imi, ac mae’r profiad wedi fy ysbrydoli i weithio yn galetach ar hyd fy mhrentisiaeth.

Gyda’r cwrs rhagarweiniol yn dod i ben mae’r prentisiaid yn edrych ymlaen at ddechrau yn y gweithle gyda’u cyflogwyr newydd. Wrth weithio fel prentisiaid bydd pawb yn cael eu taflu mewn i’r byd cyfryngau ac yn gweithio ar raglenni ar draws y wlad.

Dwedodd James, Prentis Effeithiau Arbennig Real SFX:

Rwyf yn edrych ymlaen at chwythu llefydd i fyny yn gwahanol rannau o’r DU gyda Real SFX.

Croeso cynnes i’n 20 prentis creadigol newydd…