Prentisiaid Llwyddiannus yn Sicrhau Lle ar Gynllun Trainee Finder Creative Skillset

Mae Sgil Cymru yn dathlu llwyddiant dwy gyn-brentis sydd wedi sicrhau lle ar gynllun ‘Trainee Finder’ Creative Skillset. Mae Ffion Taylor a Katja Allen wedi cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi bod yn gweithio yn y diwydiant cyfryngau ers hynny.

Mae ‘Trainee Finder’ yn wasanaeth sy’n ymuno hyfforddeion gyda chwmnïau ffilm, teledu HD a diwydiannau TV plant ar draws y DU. Mae’r cynllun yn gweld ymgeiswyr llwyddiannus yn ychwanegu at gronfa ddata’r ‘Trainee Finder’ am hyd at flwyddyn. Mae’r gronfa ddata yn agored i gynhyrchwyr ffilmiau nodwedd, drama deledu HE, drama, comedi, animeiddio a rhaglenni byw i blant i ddod o hyd i hyfforddeion

Dywedodd Ffion Taylor:

“Roeddwn I mor falch o gael lle ar y cynllun ‘Trainee Finder’ fel hyfforddai swyddfa gynhyrchu. Ar ôl cwblhau y broses cais a chael cyfweliad, mynychais penwythnos ymsefydlu yn stiwdios Mills 3, Llundain, pan gefais y cyfle i gwrdd â hyfforddeion eraill, a dysgu mwy am beth i’w ddisgwyl gan y cynllun.

Fy ngobaith yw y bydd y cynllun yn caniatáu i mi i gael profiad o weithio mewn swyddfa gynhyrchu ar gyfer ffilm HE, a darparu sgiliau gwerthfawr a gwybodaeth a fydd yn fy helpu i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.“

Cefnogir y cynllun gan gronfa buddsoddi sgiliau Creative Skillset sy’n annog cyd-fuddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i sicrhau cyflenwad parhaus o genhedlaeth newydd o dalent,        gyda’r cynnwys creadigol o’r radd flaenaf.

 diddordeb mewn darganfod mwy am ‘Trainee Finder’ cliciwch yma am ragor o wybodaeth.