Y Cam Nesaf i Tara

Tara Wyllie, Golygydd Llawrydd, yw’r trydydd hyfforddai ar gynllun Camu Fyny Sgil Cymru. 

Mae Camu Fyny yn gyfle prin i weithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant i symud ymlaen yn eu gyrfa, a hefyd ar gyfer y rhai sydd yn arbenigwyr cymwysedig sydd eisiau gweithio ym myd teledu. Bydd y cynllun hyfforddiant yn cael ei deilwra i’r unigolyn yn ôl eu hanghenion, a bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â lleoliad neu gwrs yn para hyd at 10 wythnos, yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer y cyfnod cyfan.

Fel rhan o’i rhaglen Camu Fyny bydd Tara yn camu fyny o fod yn Olygydd Final Cut Pro I fod yn Olygydd Avid trwy fynychu amryw o gyrsiau. Trwy weithio fel Golygydd Llawrydd dros y blynyddoedd diwethaf mae Tara wedi sylwi bod Avid yw safon y diwydiant a bod angen iddi ei ddysgu.

Dwedodd Tara:

Rydw i’n edrych am hyfforddiant sydd yn medru camu fi fyny o fod yn hyfforddai i rôl uwch fel Golygydd Avid Ardystiedig. Hoffwn I ehangu ar fy sgiliau i fod yn fwy cymwys ac i fedru cael rhagor o brofiad a chyfleoedd i fod yn Olygydd yn y diwydiant drama yng Nghymru.

Cyn ennill ei lle ar Gamu Fyny mae Tara eisoes wedi bod yn gweithio fel Golygydd Offlein ar gyfer amryw o gleientiaid yn ogystal â pharhau i ehangu ar ei sgiliau ôl-gynhyrchu.

Dechreuodd Tara yn y diwydiant fel Hyfforddai Marchnata gyda BBC Cymru Wales nol yn 2009. Trwy ei chyfnod yn y BBC cafodd Tara amryw o brofiadau o fewn y broses gynhyrchu gan gynnwys gweithio fel Rhedwr ar ‘Doctor Who Proms’, cysgodi’r Arolygydd Sgript ar Pobol y Cwm a’r siawns i eistedd mewn ar Olygiad Ar-lein. Yn dilyn y profiad yma sylweddolodd Tara bod hi am fod yn Olygydd go iawn a wnaeth hi sefydlu ei hun fel Cynhyrchydd/ Golygydd Llawrydd yn 2011.

Yn ogystal â gweithio fel Cynhyrchydd/ Golygydd Llawrydd mae Tara wedi gweithio fel rhan o’r tîm cynhyrchu ar amryw o raglenni teledu gan gynnwys ‘The Only Way is Essex’ a ‘Celebs Go Dating’.

Dwedodd Tara:

Wrth weithio ar y cynyrchiadau yma cefais i’r siawns i ddysgu mwy am y broses cynhyrchu. Mae hyn yn bwysig i fi fel Golygydd, i weld sut fedrai helpu’r proses ôl gynhyrchu.

Am gamu fyny yn eich gyrfa? P’un a ydych yn Ysgrifennydd Cynhyrchu eisiau camu fyny at Gydlynydd Cynhyrchu, neu AD sydd eisiau symud i fyny gradd, rydym am glywed gennych. Dwedwch wrthym beth sydd angen arnoch a pham.

Anfonwch hyd at 200 o eiriau am eich hun a chopi o’ch CV at lisa@sgilcymru.com.