MOVIE MAGIC SCHEDULING

Mae pecyn Movie Magic Scheduling yn feddalwedd safon diwydiannol ar gyfer cynhyrchu Teledu. Wedi’i gefnogi gan Creative Skillset, mae’r gweithdy yma’n cynnig cyflwyniad cynhywsfawr i’r meddalwedd, trwy arfogi hyfforddeion gyda’r wybodaeth a’r sgiliau bydd yn ei gosod ar y llwybr at swyddi fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol 1af a Rheolwr Cynhyrchu. Wedi’i gyflwyno gan Gynhyrchydd Llinell yn Pinewood Studio Cymru, mae’r gweithdau Sgiliau Teledu yma yn rhan hanfodol o  ddatblygu gyrfa.

Cynnwys y cwrs 

  • Trosolwg o EP Movie Magic Scheduling
  • Cyflwyniad at Amserlennu
  • Marcio ar Sgript
  • Taflenni Dadansoddiad, Rheolwr Elfen a Rheolwr Categori
  • Mewnbynnu Gwybodaeth
  • Bwrdd Strip – Sortio, Toriadau Dydd, Teitlau a ‘Boneyard’
  • Rheolwr Calendar
  • Gweithdrefnau Amserlennu
  • Adrodd nol (Day-out-of-days)
  • Allforio/Printio

Tiwtor Cwrs

Gareth Davies 

Mae Gareth yn Reolwr Llinell/Rheolwr Cynhyrchu Ffilm profiadol, gyda chredydau yn cynnwys ffilm a enwebwyd am wobr BIFA, ac ennillydd BAFTA – ‘THE PASSING’, ffilm cyntaf Craig Roberts fel Cyfarwyddwr – ‘JUST JIM’, ‘PANIC BUTTON’, ‘THE CHAMBER’, ‘B&B’, ‘DON’T KNOCK TWICE’, a ‘WATCHER IN THE WOODS’. Cynhyrchodd Gareth ‘THE SLEEPING ROOM’, sef ffilm cynta’r DU a ariennir gan ‘crowdfunding’. Mae Gareth yn gweithio ar y cyd gyda llawer o gynhyrchwyr enwog rhyngwladol a’r DU, drwy greu cyllidebau. Mae’ hefyd yn hyfforddwr ‘Movie Magic Scheduling’ a ‘Movie Magic Budgeting’, ar gyfer sawl Prifysgol a chwmni hyfforddiant.

Pryd oedd y cwrs? 
Bydd y cwrs deuddydd yn cael ei gynnal ar Dydd Gwener 10fed Mawrth, a Dydd Sadwrn 11eg Mawrth 2017.

Dyma beth oedd gan fynychwyr blaenorol i ddweud:

“Wnaethon ni mynd drwy pob un o’r prif agweddau ar y meddalwedd, yr wyf nawr yn teimlo’n hyderus iawn i ddefnyddio MMS ar ben fy hun.”

“Roedd dysgu mewn grŵp bychan yn wych gan ei bod yn hawdd i ofyn cwestiynau.”

“Roedd y cwrs yn dda iawn ac yn ddefnyddiol.”

 

Cliciwch yma i weld ein cyrsiau arall mewn hyfforddiant Ffilm a Theledu.

 

Mae’r rhaglen yma’n wedi’i gefnogi gan levy Teledu o Safon Uchel Creative Skillset. 

skillset