Prentis Adeiladu Golygfaol – Cardiff Theatrical Services

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                        Cardiff Theatrical Services Ltd (WNO)
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Adeiladu Golygfaol
Lleoliad:                      Caerdydd

Am y Sefydliad

12806loCardiff Theatrical Services LTD yw’r cwmni sy’n creu golygfeydd sydd yn dod o dan adain yr Opera Genedlaethol Gymreig, ac sydd ag ystod eang o gleientiaid o’r radd flaenaf yn amrywio o’r ENO i’r Royal Opera House i The Royal Court â’r National Theatre gyda chredydau ar nifer o sioeau’r West End gan gynnwys Gwobr Ennill Olivier Hangmen, The Audience, The Importance of Being Earnest ac As You Like It (NT) i’r diweddaraf Half A Sixpence (Theatr Gwyl Chichester/Camack) a’r Magic Flute, Lyric Opera Chicago.

Rydym yn darparu gwasanaethau golygfaol o’r safon uchaf i gleientiaid ym Mhrydain ac ar draws y byd ac mae gennym dîm medrus o Seiri, Gweithwyr Metel, Artistiaid Golygfaol, Drafftsmyn a Rheolwyr Prosiect.  Mae nifer o’n prif weithwyr wedi bod yma am amser hir iawn ac rydym yn awyddus iawn i ddechrau datblygu a dod â’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr ymlaen!

Disgrifiad Swydd

Beth mae Prentisiaid Adeiladu Golygfaol yn ei wneud?

Mae Prentisiaid Adeiladu Golygfaol yn dysgu sut i wneud golygfeydd yn defnyddio cyfuniad o ddeunyddiau fel coed ac adrannau blwch dur (steel box sections).  Byddant  mesur, marcio a thorri deunyddiau i faint manwl gywir; yn adeiladu ‘fflatiau’ golygfaol â ffrâm bren, rhoi cladin ar fframiau dur a chreu elfennau eraill ar gyfer golygfaoedd cyn i’r artistiaid golygfaol eu gorffen. Byddant hefyd yn gweithio’n agos gydag aelodau eraill o’r tîm er mwyn rhoi elfennau o’r set at ei gilydd a’u gosod ar gyfer eu gorffen, eu pwyso a’u rhoi at ei gilydd cyn cael eu gyrru allan.

Bydd Prentis Adeiladu Golygfaol yn ennill sgiliau craidd mewn gweithdai gwaith coed a Metel, gallant hefyd weithio gyda deunyddiau eraill megis plastig a defnydd yn dibynnu ar y gorffeniad sydd ei angen.

Mae’r gallu i ddarllen darluniadau a chynlluniau graddfa ac i weithio’n systematig drwy’r dasg yn sgil hanfodol fydd yn eich helpu i ddatblygu fel Prentis gyda ni.

Gallai’r rôl yma arwain at waith pellach a datblygiad gyrfaol parhaus nes datblygu i ddod yn Saer Golygfaol/ Gwneuthurwr Gwaith Metel llawn. Os oes gen ti sgiliau sylfaenol ymarferol da mewn gwaith coed, ac rwyt ti’n awyddus i weithio ar brosiectau graddfa fawr, gall hyn fod yn ddewis arall yn lle Addysg Uwch neu hyfforddiant ffurfiol galwedigaethol arall.

Yn ddelfrydol, er mwyn bod yn Brentis Adeiladu Golygfaol, bydd gen ti 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Gwaith Coed neu DT. Bydd angen i ti fod yn gallu darganfod datrysiadau ymarferol i broblemau a bod yn ymarferol. Bydd angen sgiliau cyfathrebu gwych arnat, yn ogystal a bod yn gweithio’n dda mewn tîm.

Esiamplau o swyddi gall Prentis Adeiladu Golygfaol eu gwneud yn y dyfodol –

  • Adeiladwr Golygfeydd Cynorthwyol
  • Saer/Weldiwr- Gwneuthurwr
  • Fforman/Goruchwyliwr
  • Saer Wrth Gefn (mewn Ffilm neu Deledu)
  • Saer Cynhyrchu ar Daith gyda chwmni theatr neu opera
  • Cydlynydd Prosiect neu drafftsmon (gyda hyfforddiant pellach)

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Ymarferol
  • Creadigol a dychmygus
  • Brwdfrydig gydag agwedd yn gallu ei wneud
  • Cyfathrebwr da
  • Hunanysgogol
  • Hyderus
  • Rheolaeth amser gwych

Prif Ddyletswyddau

  • Paratoi a chreu eitemau ar gyfer golygfeydd gyda thîm o Seiri Golygfaol a Gwneuthurwr Gwaith Metel.
  • Gweithio’n agos gyda’r tîm yn y gweithdy ar samplau ac eitemau gorffenedig o olygfeydd gan gynnwys ‘fflatiau’ pren, unedau llwyfannu ac eitemau 3D golygfaol eraill.

Sgiliau Anghenrheidiol

  • Gallu ymarferol gyda defnyddiau gwrthiannol
  • Brwdfrydig ac wedi dy ysgogi i weithio’n galed
  • Creadigrwydd a dychymyg
  • Y gallu i reoli dy amser, i gwrdd a therfynnau amser a gweithio o fewn tîm mewn amgylchedd gweithdy prysur

Fframwaith

Tra’n gweithio i CTS byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.