Prentis Datblygydd Gwe – IT Pie

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                                    IT Pie
Rôl Prentisiaeth:                  Prentis Datblygydd Gwe
Lleoliad:                                  Penarth

Am y sefydliad

logoMae IT Pie yn asiantaeth marchnata digidol, wedi ei leoli ym Mhenarth. Ers 2007 rydym wedi bodi yn adeiladu gwefannau a gweithredu strategaethau marchnata digidol ar gyfer cwmnïau yng Nghaerdydd a ledled y DU. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu atebion creadigol deinamig sy’n sicrhau canlyniadau mesuradwy gyda’r pwyslais ar lwyddiant busnes a hygrededd brand ein cleientiaid.

Yn IT Pie, rydym yn annog diwylliant o greadigolrwydd, dynamiaeth, arloesedd a hwyl gyda’r ffocws ar wthio’r ffiniau tra’n darparu gwasanaethau proffesiynol o’r radd flaenaf, gan sicrhau fod bob diwrnod yn heriol ac yn werth chweil.

Disgrifiad Swydd

Rydym yn chwilio am ddylunydd/datblygydd gwe fydd yn gyfrifol am ddylunio, gosod a datblygu gwefannau. Byddant yn ymwneud ag agweddau technegol a graffeg gwefannau – sut mae’r safle’n gweithio a sut mae’n edrych. Byddant hefyd yn ymwneud â chynnal a diweddaru gwefannau sy’n bodoli eisoes.

Ar ôl sefydlu’r gynulleidfa darged ar gyfer gwefan a nodi’r math o gynnwys bydd y wefan yn cynnal, bydd y dylunydd/datblygydd gwe yn:

  • Ysgrifennu’r côd rhaglennu, unai o’r newydd neu drwy addasu pecynnau meddalwedd gwefan a graffeg sy’n bodoli eisoes i gwrdd ag anghenion busnes.
  • Profi’r wefan a nodi unrhyw broblemau technegol
  • Llwytho’r safle i weinydd a’i gofrestru gyda gwahanol beiriannau chwilio
  • Mynychu cyfarfodydd cleient yn ystod y broses ddatblygu
  • Cyfathrebu unrhyw ddatblygiadau a/neu oedi i’r Rheolwr Prosiect yn effeithiol a gyda chywirdeb

Nodweddion Personol Dymunol:

Mae’n ddymunol i ymgeiswyr:

  • Fod â phrofiad ysgrifennu côd yn Asp.Net, C#, MS SQL, CSS, HTML, JQuery.
  • Ddeall Design a’r llyfrgell CSS perthnasol
  • Feddu ar greadigolrwydd a dychymyg
  • Gael dealltwriaeth o strategaeth farchnata
  • Feddu ar y gallu i greu “galwad i weithred busnes
  • Feddu ar y gallu i fod yn hyblyg a dysgu technegau newydd
  • Feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da
  • Allu cadw’i fyny gyda datblygiadau mewn technoleg gyfrifiadurol a sut mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd busnes
  • Feddu ar y gallu i weithio fel rhan o dîm ac ar ei liwt ei hun
  • Feddu ar y gallu i gwrdd â gofynion amser y prosiect yn ogystal â gweithio dan bwysau

Darperir hyfforddiant

Darperir hyfforddiant tra yn y swydd, gan gynnwys hyfforddiant mewnol a chyrsiau allanol.  Byddwn yn annog a chefnogi cymwysterau proffesiynol lle bo’n briodol.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:

  • HTML, XML, XHTML
  • Java, JavaScript, ActionScript
  • Basau data MS SQL
  • net, C#, CSS
  • Adobe Photoshop a Visual Studio
  • Systemau CMS Pwrpasol

Fframwaith

Tra’n gweithio i IT Pie byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr cyfryngau rhyngweithiol).