Prentis Amlgyfrwng – White Hart Multimedia

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                       White Hart Multimedia
Rôl Prentisiaeth:     Prentis Amlgyfrwng
Lleoliad:                     Y Dyfawden, agos at Cas-gwent

Am y Sefydliad

whitehartsmalllogo

Wedi ei leoli uwchben y prydferth Ddyffryn Gwy, ac eto yn agos at yr M4, mae White Hart Multimedia wedi bod yn gweithredu ers dros chwarter canrif. Rydym yn datblygu atebion effeithiol ac arloesol sy’n helpu ein cleientiaid gyfleu eu negeseuon at eu cynulleidfaoedd. Mae ein technegau cynhyrchu fideo a ffilmio yn debyg i’r rhai a ddefnyddir wrth greu newyddion teledu a nodweddion dogfennol, sy’n gwneud i ni weithio yn gyflym ac yn effeithlon, gan achosi cyn lleied o darfu ar batrwm arferol ein cleient o weithio. Mae ein gwaith diweddar wedi cynnwys ffilmio gan ddefnyddio actorion mewn senarios hyfforddi.

Er mai cynhyrchu fideo yw craidd gwasanaethau White Hart, dros y blynyddoedd, rydym wedi tyfu a datblygu gyda datblygiadau technolegol. Rydym bellach yn cyflwyno ein fideos mewn unrhyw fformat, ar unrhyw gyfrwng, hyd yn oed wedi eu hymgorffori mewn cyflwyniadau, ac e-ddysgu.

Disgrifiad Swydd

Byddai’r swydd hon yn arbennig o weddus i’r rheiny sydd yn gyrru, ond hefyd i’r rheiny sydd yn byw yn, neu yn agos at, Dyffryn Gwy, Caldicot neu Casnewydd ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gennym dîm bychan o arbenigwyr cyfryngau ymroddedig, ac yr ydym yn awr yn chwilio am unigolyn brwdfrydig arall, s’yn awyddus i ddysgu sgiliau cynhyrchu lluosog, i ymuno â’n tîm.

Rhaid i’r person yr ydym yn chwilio amdano gael:

• creadigrwydd a dealltwriaeth dda o brosesau technegol;
• angerdd am dechnoleg gwybodaeth, parodrwydd i gadw i fyny â datblygiadau technolegol;
• cymhwysedd mewn, neu barodrwydd i,ddysgu ystod o gymwysiadau perthnasol meddalwedd, megis, golygu meddalwedd, meddalwedd trin delweddau e.e. Photoshop a Illustrator
• y gallu i ddadansoddi problemau ac i gynnig atebion;
• sylw i fanylion;
• awydd i weithio ar brosiect o’r dechrau i’r diwedd;
• sgiliau trefnu ardderchog i gynllunio prosiectau a bodloni terfynau amser
• hyder a brwdfrydedd;
• sgiliau ardderchog rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno, gyda’r gallu i wrando, ymateb ac yn ymwneud â chleientiaid – yn benodol i esbonio pethau’n glir i bobl nad ydynt efallai yn gyfarwydd iawn â chynnyrch amlgyfrwng; wyneb-yn-wyneb ac ar y ffôn.
• gwaith tîm a pharodrwydd i rannu gwybodaeth ac arbenigedd i gyflawni nodau cyffredin.
• Trwydded yrru a chludiant eu hunain
• yn gallu i weithio i ffwrdd o gartre gan gynnwys aros dros nos.

Sgiliau ychwanegol a fyddai’n ddymunol yw:

• gwybodaeth o Word Press
• gallu gweithredu camera fideo
• sillafu a gramadeg da
• Cymraeg llafar ac ysgrifenedig
• sgiliau rhaglennu (html)

Fframwaith

Tra’n gweithio i White Hart Multimedia byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Uwch (lefel 4) Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr Cyfryngau Rhyngweithiol).