Prentis Chwaraeon Aml-lwyfan – BBC Cymru Wales

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                       BBC Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Chwaraeon Aml-lwyfan
Lleoliad:                     Ty Darlledu, Llandaff, Caerdydd

Am y Sefydliad

BBC_Cymru_Wales_logo.svgDarlledwr y genedl yw BBC Cymru Wales, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy ein gwefannau.

Mae adran Ffeithiol a Cerddoriaeth BBC Cymru Wales wedi ei leoli yn Llandaf, Caerdydd, ac mae’n cynhyrchu ystod o raglenni ar gyfer teledu a radio lleol a rhwydwaith gan gynnwys Scrum V, Match of the Day Wales, Radio Wales Sport.

Disgrifiad Swydd

Beth mae Prentis Chwaraeon Aml-lwyfan yn ei wneud?

Yn gweithio gyda a chynorthwyo timau cynhyrchu i gyfrannu at a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys i’r teledu, radio, arlein â’r cyfryngau cymdeithasol, gyda ffocws penodol ar gyfryngau cymdeithasol.

Gweithio’n bennaf gyda’r tîm ar-lein Chwaraeon BBC Cymru, gydag allbwn/cynnwys, sy’n  cynnwys: Scrum V, Match of the Day Wales, Radio Wales Sport.

Gan fod hwn yn rôl aml-lwyfan, bydd y Prentis yn cael y cyfle a bydd disgwyl iddynt symud ar draws llwyfannau yn yr adran Chwaraeon Cymru – Ar-lein, Teledu a Radio, gyda ffocws penodol ar gynnyrch Cyfryngau Cymdeithasol.

Ffocws Cyfryngau Cymdeithasol:

Bydd y prentis yn bennaf yn canolbwyntio ar  Digidol / Cyfryngau Cymdeithasol, ac yn treulio cryn dipyn o amser yn y tîm Chwaraeon Ar-lein. Bydd y cyfrifoldebau yma yn cynnwys:

  • Cefnogi cynllun cyfryngau cymdeithasol ar gyfer BBC Cymru Wales Sport, i yrru cyrraedd ac ymgysylltu;
  • Ymchwilio ac awgrymu syniadau ar gyfer pynciau newydd ar gyfer cynnyrch cyfryngau cymdeithasol;
  • Cefnogi sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Adran Chwaraeon, gan gynnwys Facebook, Twitter a Instagram.
  • Bod i fyny â’r tueddiadau newydd ar gyfryngau cymdeithasol ac ymateb yn unol â hynny;
  • Bod yn ymwybodol o’r tueddiadau cyfryngau cymdeithasol dyddiol, gan awgrymu straeon ac ymgysylltu â defnyddwyr dylanwadol cyfryngau cymdeithasol y tu mewn a’r tu allan i’r BBC;

Esiamplau o swyddi y gallai Prentis Chwaraeon Aml-lwyfan eu gwneud yn y dyfodol –

  • Ymchwilydd
  • Cynorthwy-ydd Cynhyrchu
  • Newyddiadurwr Darlledu
  • Cynhyrchydd
  • Rheolwr Cynhyrchu
  • Cynhyrchydd Cyfryngau Cymdeithasol

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Deinamig
  • Creadigol
  • Brwdfrydig
  • Cyfathrebwr da
  • Dadnsoddol
  • Yn dangos menter
  • Penderfynol
  • Trefnus
  • Diplomataidd
  • Yn dda am dderbyn cyfarwyddyd

Sgiliau Anghenrheidiol:

  • Y gallu i ddangos sgiliau ymchwil gref
  • Diddordeb mawr mewn chwaraeon
  • Dealltwriaeth o allbwn Chwaraeon BBC Cymru/Wales
  • Mae Saesneg ysgrifenedig o safon dda yn angenrheidiol
  • Profiad a gwybodaeth o’r cyfryngau cymdeithasol
  • Sgiliau technegol TG amlwg, a byddai gwybodaeth o olygu yn ddymunol
  • Angerdd dros deledu a newyddiaduraeth
  • Agwedd rhagweithiol, angerdd dros ddweud stori, â’r gallu i gyfrannu at syniadau newydd a mentrus ar gyfer eu darlledu.

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Meddwl yn Greadigol – Yn gallu troi syniadau/ysgogiadau creadigol yn realiti ymarferol. Yn gallu edrych ar sefyllfaoedd a phroblemau presennol mewn ffyrdd newydd a chreu datrysiadau creadigol.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Fframwaith

Tra’n gweithio i BBC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.