Prentis Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau Cymdeithasol – Golley Slater

Cwmni:                     Golley Slater
Rôl Prentisiaeth:    Prentis Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau Cymdeithasol
Lleoliad:                    Caerdydd

Am y Sefydliad 

Mae Cysylltiadau Cyhoeddus Golley Slater yn rhan o un o’r grwpiau cysylltiadau annibynnol mwyaf yn y DU. Ers ei sefydlu’n wreiddiol fel asiantaeth hysbysebu ym 1957, mae’r grŵp wedi esblygu i fod yn ymgynghoriaeth gwasanaethau marchnata integredig sy’n arbenigo mewn ymgynghoriaeth farchnata, marchnata uniongyrchol, marchnata digidol, hysbysebion recriwtio, dylunio a chysylltiadau cyhoeddus. Cysylltiadau Cyhoeddus Golley Slater Caerdydd yw’r asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus fwyaf a mwyaf profiadol yng Nghymru.

Disgrifiad Swydd

Bydd y prentis yn gweithio ar draws y timau cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol yn swyddfa Golley Slater yng Nghaerdydd, o dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd rheolwr cyfrifon cysylltiadau cyhoeddus. Bydd y swydd yn cynnwys gwaith ymchwil, creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau a sianeli cyfryngau cymdeithasol cleientiaid, cefnogi ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus a monitro’r sylw mae’r ymgyrchoedd hynny’n ei gael yn y cyfryngau.

Sgiliau Angenrheidiol

Rhaid bod gan y prentis cysylltiadau cyhoeddus y sgiliau canlynol:

  • Bod yn unigolyn brwdfrydig ac annibynnol sy’n awyddus i ddatblygu ei sgiliau a’i brofiad yn y diwydiant cysylltiadau cyhoeddus/cyfryngau cymdeithasol
  • Gallu cyfathrebu’n effeithiol a chywir
  • Bod yn gredadwy a hyderus yn broffesiynol
  • Bod yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n gyfforddus yn cyfathrebu ac ysgrifennu yn y Gymraeg
  • Gallu gweithio’n annibynnol fel rhan o’r tîm cysylltiadau cyhoeddus, gan droi at reolwr cyfrifon i gael arweiniad yn rheolaidd
  • Agwedd hyblyg at waith – nid yw cysylltiadau cyhoeddus yn aml yn swydd 9am-5pm
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddysgu a datblygu
  • Bod yn gyfarwydd â defnyddiau a nodweddion allweddol cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter ac Instagram
  • Gallu defnyddio cyfrifiaduron a rhaglenni Microsoft Word, PowerPoint, Excel ac Outlook

Gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus

Bydd hi’n ofynnol i’r prentis cysylltiadau cyhoeddus gyflawni’r gweithgareddau canlynol (ymysg eraill) fel rhan o’i swydd.

  • Gwasanaeth cleient – Cynorthwyo i wasanaethu portffolio o gyfrifon cleientiaid
  • Cyfryngau cymdeithasol – Deall pa gyfrwng cymdeithasol sy’n briodol a phryd a sut y gellir ei ymgorffori mewn ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus. Defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd strategol ac effeithiol i gwmnïau a brandiau
  • Cysylltu â’r cyfryngau – Deall sut mae’r cyfryngau’n gweithio, ymdrin ag ymholiadau gan y cyfryngau o ddydd i ddydd, cynnig straeon a/neu gynhyrchion i’r cyfryngau, meithrin cysylltiadau â’r cyfryngau (h.y. newyddiadurwyr), creu rhestri cyfryngau, monitro datganiadau i’r wasg
  • Ysgrifennu – Drafftio datganiadau i’r wasg, erthyglau neu gynlluniau cyfryngau cymdeithasol fel cynnwys ar gyfer ymgyrchoedd cleientiaid
  • Gwerthuso ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus – Helpu i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus a mesur eu heffaith
  • Ymchwil a dadansoddi data – Cynnal ymchwil ar gyfer y tîm a/neu gleientiaid a chyflwyno adroddiad ar y manylion allweddol
  • Digwyddiadau – Helpu i gynllunio, trefnu a chydgysylltu digwyddiadau, bodloni amcanion y briff
  • Cysylltiadau proffesiynol – Datblygu cysylltiadau proffesiynol â chydweithwyr a chleientiaid trwy wrando’n effeithiol a thrwy gyfathrebu ar lafar/ar bapur

Tasgau gweinyddol

Bydd hi’n ofynnol i’r sawl a benodir gyflawni’r tasgau gweinyddol canlynol hefyd:

  • Rheoli amser – Cynllunio, trefnu a blaenoriaethu ei lwyth gwaith i sicrhau bod gweithgareddau a hyfforddiant prentis yn cael eu cyflawni o fewn yr amserlenni priodol. Sicrhau bod goruchwylwyr yn ymwybodol o waith sydd ar y gweill ac yn cael eu briffio pan fydd unrhyw broblemau’n codi
  • Rheoli dyddiadur – Sicrhau bod dyddiaduron ar-lein/e-bost yn cael eu diweddaru
  • Cyfarfodydd – Trefnu cyfarfodydd mewnol ac allanol, gan sicrhau bod ystafelloedd yn addas a bod anghenion y rhai sy’n bresennol yn cael eu diwallu

Safonau ansawdd 

  • Dilyn gweithdrefnau’r cwmni a’r darparwr hyfforddiant bob amser
  • Cynhyrchu gwaith o safon uchel, gan roi sylw craff i fanylion
  • Cynnal delwedd cwmni a phersonol cadarnhaol
  • Efallai y gofynnir i chi weithio oriau hyblyg o dro i dro i ddiwallu anghenion cleientiaid

Proffil person

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar bapur ac ar lafar
  • Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office a gwahanol gyfryngau cymdeithasol
  • Creadigol
  • Trefnus a gallu rheoli ei amser ei hun
  • Hyblyg ac yn barod i ddysgu
  • Gallu rhoi sylw craff i fanylion
  • Brwdfrydig ac ymroddgar
  • Annibynnol – rhywun a fydd yn defnyddio ei fenter, yn egnïol ac yn manteisio’n llawn ar y cyfle

Cefndir addysgol

  • Mae o leiaf 3 chymhwyster Safon Uwch neu gyfwerth yn ddymunol, ond nid yn hanfodol
  • TGAU A* – C mewn Saesneg neu gyfwerth
  • TGAU A* – C mewn Mathemateg neu gyfwerth

Fframwaith

Tra’n gweithio i Golley Slater, byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.