Prentis Cynorthwy-ydd Adeiladu – 4Wood TV & Film Construction

Cwmni:                                    4Wood TV & Film Construction
Rôl Prentisiaeth:                  Prentis Cynorthwy-ydd Adeiladu
Lleoliad:                                   Caerdydd

Am y Sefydliad

sr_224882Mae 4Wood TV and Film Ltd, a Chyfarwyddwr y cwmni, Scott Fisher, wedi bod yn gweithio yn y diwydiant Adeiladu ar gyfer Teledu a Ffilm ers nifer o flynyddoedd. Mae 4Wood wedi bod yn gweithio’n gyson ar brosiectau fel Doctor Who, Torchwood, Sarah Jane Adventures, Sherlock, Baker Boys, Da Vinci’s Demons a The Bastard Executioner.

Ers i’r cwmni gael ei sefydlu ym 2005, mae wedi cynhyrchu setiau o ansawdd uchel ar gyfer ystod eang o gyfryngau. O eitemau unigryw, i redeg adran adeiladu gynhwysfawr ar gyfer ffilmiau nodwedd, rydym yn cynhyrchu setiau am bris cystadleuol drwy weithio’n agos gyda’r tîm dylunio.  Rydym bob amser yn sicrhau bod yr elfen weledol mor effeithiol â phosib, tra’n cadw rheolaeth gofalus dros y gyllideb.

Disgrifiad Swydd

Mae swydd Prentis Cynorthwy-ydd Adeiladu yn un amrywiol iawn ac yn darparu rôl weinyddol lefel mynediad da mewn i fyd y cyfryngau.

Byddwch yn cynorthwyo gyda chyfrifoldebau megis:

  • Ateb ffonau
  • Gwaith Papur
  • Bwydo data
  • Archebu deunydd adeiladu
  • Gweinyddu swyddfa cyffredinol
  • Rheoli gwefan a Chyfryngau cymdeithasol
  • Dosbarthu gwaith papur cynhyrchu
  • Cydlynu gyda’r Adran Gelf i sicrhau bod yr adeiladu’n ddidrafferth
  • Oriau gwaith 8yb-5yp Llun i Gwener

Sgiliau Hanfodol:

  • Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig ardderchog
  • Sgiliau trefnu a gweinyddu ardderchog
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog
  • Gwybodaeth sylfaenol o gyfrifiaduron Microsoft a Mac
  • Trwydded yrru llawn DU a thrafnidiaeth eich hunan
  • Agwedd bositif, gall-wneud.

Sgiliau dymunol ond nid yn hanfodol:

  • Cymraeg llafar ac ysgrifenedig

Fframwaith

Tra’n gweithio i 4Wood byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.