Prentis Cynorthwy-ydd Ar-lein – The Look

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                       The Look
Rôl Prentisiaeth:     Prentis Cynorthwy-ydd Ar-lein
Lleoliad:                    Parc Busnes Bae Caerdydd

Am y Sefydliad

Cydnabyddir The Look fel un o’r cwmnïau ôl-gynhyrchu blaenllaw yn y DU. Ein nod yw darparu’r profiad gorau posibl i’n cleientiaid a hefyd i helpu i ddiddanu’r miliynau o bobl sy’n gwylio a mwynhau ein gwaith.

Mae gennym y llif gwaith 4K SDR a HDR mwyaf datblygedig, mewn amgylchedd cyfeillgar a moethus, gan gynnig gwasanaeth pwrpasol i’n cleientiaid o dîm hynod dalentog sy’n hynod ofalus o’r hyn a wnawn.

Pan fyddwch chi angen y gwasanaeth ôl-gynhyrchu gorau gyda chreadigrwydd, dewch i The Look.

Disgrifiad Swydd

Y Pethau Sylfaenol

  • Oriau: 0930 – 1830, o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • Gwyliau: pob gwyl banc ac 20 diwrnod gwaith y flwyddyn

Eich Rôl

Meddalwedd:

  • Windows ad Mac OS
  • Google Tools
  • Quantel Rio
  • Colorfront Transkoder

Mae angerdd dros wneud ffilmiau a sgiliau cymdeithasol da yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Bydd gennych ddull dda o ddatrys problemau gyda’r gallu i feddwl yn chwim  mewn amgylchedd cyflym. Byddwch chi’n rhan o dîm bach, felly mae’r gallu i gymryd perchnogaeth o dasg yn hanfodol.

  • Amynedd a sylw i fanylder.
  • Yn gyfarwydd â gwahanol fathau o ffeiliau digidol.
  • Y gallu i drefnu a rheoli llyfrgelloedd asedau.
  • Dealltwriaeth dda o gyflwyni manylebau technegol.
  • Deall storio a hyder i ddileu fersiynau diangen.
  • Dealltwriaeth o ‘versioning’.
  • Mynychu a chyfrannu at friffiau llif gwaith rheolaidd.
  • Hyder i ofyn cwestiynau lle bo angen.

Yn Fanwl

Rheoli Cyfathrebu rhwng safleoedd

Fel cyfleuster sy’n tyfu mewn amgylchedd cyflym, gyda gofynion technegol a chreadigol sy’n newid yn barhaus, disgwylir i chi ddeall yr hyn a wnawn o’r foment y mae’r ymholiad cleient cychwynnol yn cyrraedd hyd at gyflawni’r ased terfynol.

Yn ogystal â marchnata, mae ein henw da a’n gwaith yn y dyfodol yn deillio o brofiad y cleient a geirda. Er mwyn dangos eich bod yn deall hyn ac i sicrhau bod eich sgiliau yn cael eu nodi a’u hogi, byddwch yn gyfrifol am y cyfathrebu ffurfiol rhwng ein dau gyfleuster.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, disgwylir i chi baratoi a chyflwyno e-bost diweddaru cyfleuster wythnosol. Yn ail, disgwylir i chi baratoi a chyflwyno cyflwyniad misol “State of the Nation” i’n swyddfa yn Llundain.

Wrth baratoi’r e-bost wythnosol byddwch yn gweithio gyda’r tîm archebu yn Llundain a’r gweithredwyr yng Nghaerdydd i sicrhau eich bod yn cael eich briffio’n llawn ar y gwaith sydd i ddod a’r adnoddau sydd ar gael i’ch tîm. Yna caiff y wybodaeth hon ei llunio i mewn i ddiweddariad syml ar ddiwedd yr wythnos.

Bydd y cyflwyniad misol, a gyflwynir yn bersonol neu drwy lwyfan electronig fel Skype neu FaceTime, yn gofyn i chi ddangos eich bod yn deall ac yn gallu cyfathrebu’r wybodaeth berthnasol i dîm Llundain. Dyma hefyd eich cyfle chi i gyflwyno syniadau a chysyniadau rydych chi wedi’u nodi a allai wella systemau a phrosesau.

Cysgodi a Chynorthwyo

Fel rhan o dîm bach, disgwylir i chi dreulio o leiaf dwy awr y dydd, lle bo modd, yn cysgodi ac yn ddiweddarach yn cynorthwyo’r gweithredwyr.

Wrth gysgodi’r gweithredwr bydd angen i chi ofyn cwestiynau perthnasol er mwyn i chi gael dealltwriaeth gynhwysfawr o’r broses yr ydych yn ei arsylwi a’r rhesymeg y tu ôl iddo. Dylai hyn eich galluogi i addasu’r broses fel bo’r angen pan fyddwch yn dod ar draws tasg debyg na fydd wedi’i ddangos i chi eto.

Gan ein bod yn dîm bach, mae lle i chi gael profiad ymarferol wrth gynorthwyo a pherfformio’ch gwaith eich hun yn fuan. Disgwylir i chi gymhwyso’r wybodaeth a gawsoch o gysgodi a hefyd defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i chi (aelodau’r tîm ac erthyglau cymorth ar-lein) er mwyn gallu cwblhau’r dasg.

Gwobrau:

  • Cychwyn eich gyrfa yn gyflym
  • Cyflenwi rhai o’r dramau a’r nodweddion gorau yn y DU o fewn eich blwyddyn gyntaf
  • Gweithio gyda rhai o’r bobl mwyaf creadigol yn y diwydiant ôl gynhyrchu yn y DU

Fframwaith

Tran gweithio i The Look byddwch yn cwblhau Prentisiaeth Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol trwy Sgil Cymru, darparwr hyfforddiant yng Nghaerdydd.