PRENTIS CYNORTHWY-YDD CYNNWYS FIDEO – AMPLIFIED BUSINESS CONTENT

Cwmni:                         Amplified Business Content
Rôl Prentisiaeth:       Prentis Cynorthwy-ydd Cynnwys Fideo
Lleoliad:                      Caerdydd

Am y Sefydliad

Wedi ei lleoli yng Nghaerdydd a Llundain, rydym yn creu, curadu ac yn rhannu cynnwys. Rydym yn gwneud hyn drwy digwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol, digidol a print.  Rydym yn cynhyrchu digwyddiadau ein hunan ac I gwsmeriaid. Rydym yn argraffi mewn print ac ar-lein.

Mae ein digwyddiadau yn cynnwys Gwobrau Entrepreneur GB NatWest, Integrated Live a GDPR Cynhadledd Ewrop, tra bod prosiectau fideo yn cynnwys Redrow, Sefydliad Aren Cymru a mwy.

Mae aelodau ein tim yn uchelgeisiol, deinamig ac yn mwynhau gweithio mewn gweithle lle mae eu barn a’u syniadau yn cyfri, a lle nad ydynt yn cael eu dal nol yn nhermau datblygu. Rydym yn gweithio’n galed ond rydym yn mwynhau ein gwaith ac yn cael hwyl hyd y ffordd.

Mae’n prif swyddfa ni wedi ei leoli gyferbyn â Chastell Caerdydd yng nghalon canol y ddinas, ac rydym yn gallu gweld Stadiwm Principality o’n gardd ar y tô!

Disgrifiad Swydd

Os rydych yn chwilio am brofiad diflas, heb ddyfodol, sydd yn undonog a dim cyfle I ddatblygu, rydych chi wedi dod i’r lle anghywir!

Ar hyn o bryd rydym yn edrych am brentis cynnwys fideo uchelgeisiol, a fydd yn dod yn aelod gwerthfawr o’n asiantaeth marchnata a digwyddiadau a lleolir yng Nghaerdydd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus dim dim ond yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd a gweithio fel rhan o dîm deinamig, ond byddant yn ennill wrth iddynt ddysgu drwy weithio ar nifer o brosiectau cyffrous, proffil uchel gan gynnwys seremonïau gwobrwyo a chynadleddau. Eu prif rôl fydd cynorthwyo’r uwch fideograffydd, yn darparu cynnwys fideo i gwsmeriaid a prosiectau mewnol. Gofynnir hefyd i’r ymgeisydd llwyddiannus I weithio ar ychydig o waith dylunio graffig.

Dylai’r ymgeisydd perffaith:

  • Bod yn gyfarwydd i ryw raddau â meddalwedd golygu fideo, neu sgiliau golygu fideo sylfaenol
  • Dawn creadigol
  • Meddu llygaid craff
  • Gyfarwydd i ryw raddau gyda meddalwedd dylunio, neu sgiliau dylunio sylfaenol (nid yn hanfodol)
  • Yn gallu blaenoriaethu’r llwyth gwaith
  • Yn gyfforddus yn gweithio i derfynau amser tynn
  • Sgiliau cyfathrebu gwych
  • Agwedd ‘gallu gwneud’ i weithio
  • Fod yn ddyfeisgar
  • Peidio bod ofn i ofyn cwestiynau
  • Bod yn hunan-gymhelliant

Bydd diwrnod cyffredin yn cynnwys y canlynol:

  • Cysylltu gyda chleientiaid i drefnu sesiynau ffilmio
  • Cynllunio creadigol
  • Golygu
  • Cyfrannu syniadau creadigol i gynigion
  • Helpu fideograffydd uwch ar sesiynau ffilmio
  • Cynorthwyo’r uwch dylunydd

Fframwaith

Tra’n gweithio i Amplified Business Content byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.

Cyflog

Yr union gyflog ar gyfer y swydd hon ydy £4.50 yr awr. Y Isafswm Lwfans Cenedlaethol ar gyfer Prentis, yw £3.50 yr awr.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

Sut i Ymgeisio

Lawrlwythwch a chyflawnwch y ffurflen gais a’r ffurflen monitro amrywiaeth ar gyfer y rôl hon. Ebostiwch y ddwy ffurflen gyflawn i help@sgilcymru.com. Byddwch yn cael cadarhnad fod eich cais wedi ei dderbyn unwaith y bydd aelod o staff wedi ei gwirio.

Os nad ydych wedi cael ymateb o fewn 24awr (heb gynnwys penwythnos), ffoniwch 07843 779870 ogydd.

Os oes ganddoch unrhyw gwestiynnau am y prentisiaethau, edrychwch ar ein Cwestiynnau Cyffredin ar y wefan.

Dyddiad Cau

1200 dydd Llun 3ydd Gorffenaf 2017.