Prentis Cynorthwy-ydd Marchnata – Criced Morgannwg

Cwmni:                               Criced Morgannwg
Rôl Prentisiaeth:             Prentis Cynorthwy-ydd Marchnata
Lleoliad:                             Caerdydd

Disgrifiad Swydd

logoMae cyfle gwych wedi codi i weithio yn Criced Morgannwg o fewn ein adran farchnata a’r cyfryngau.

Bydd un prentis yn cael cyfle unigryw drwy gydol rhaglen hyfforddi  15 mis i weithio a dysgu eu crefft ar sail llawn amser. Byddwch yn cael hyfforddiant yn y gwaith a mentora trwy rwydwaith gefnogol Criced Morgannwg ac oddi wrth eich darparwr hyfforddiant Sgil Cymru. Rydym yn chwilio am brentis proffesiynol, cyfeillgar a rhagweithiol i ymuno â’r tîm. Bydd y rôl yn cynnwys helpu i ddarparu digwyddiadau criced rhyngwladol a domestig, a llawer o ddigwyddiadau eraill sydd ddim yn gysylltiedig â chwaraeon drwy gydol y flwyddyn, gan ddefnyddio dulliau marchnata drwy gyfryngau ar-lein ac all-lein.


Disgrifiad swydd a dyletswyddau

Byddai  swydd yma yn addas ar gyfer rhywun gydag angerdd ar gyfer marchnata a chyfryngau digidol. Rydym ni yn angerddol am yr hyn, ac rydym yn chwilio am rhywun sy’n frwdfrydig, yn caru  criced ac yn awyddus i ddysgu ac ymuno â’r tîm.

  • Gwarchod a gwella brand Criced Morgannwg
  • Cyfrannu at lwyfannau digidol y clwb
  • Datblygu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
  • Cynorthwyo gydag ymholiadau gan y cyfryngau
  • Creu cynnwys fideo
  • Cydymffurfio bob amser â chod ymddygiad staff y cwmni
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda thiwtor eich cwrs prentisiaeth

Sgiliau personol :

  • Angerdd i weithio mewn amgylchedd cyfryngau digidol, marchnata, criced a digwyddiadau
  • Y gallu i weithio’n effeithlon a meithrin perthynas waith gyda chydweithwyr
  • Etheg gwaith cryf
  • Brwdfrydedd a pharodrwydd i wrando, dysgu a chymryd cyfarwyddyd
  • Sylw at fanylion
  • Y gallu i weithio o dan bwysau a chyfyngiadau amser

Rhagolygon i’r dyfodol:

Byddwch yn ennill profiad hanfodol yn y diwydiant digwyddiadau, a fydd yn eich helpu gyda cheisiadau yn y dyfodol. Gall swydd llawn amser gyda Criced Morgannwg  fod yn bosibl yn dilyn y brentisiaeth, i brentisrhagorol, yn dibynnu os oes swydd wag ar gael.

Fframwaith

Tra’n gweithio i Criced Morgannwg byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.