Prentis Cynorthwy-ydd Cynhyrchu – Real SFX

Cwmni:                        Real SFX
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Cynorthwy-ydd Cynhyrchu
Lleoliad:                      Cardiff

Am y Sefydliad

Mae Real SFX yn gwmni sydd wedi ennill ddwywaith yng ngwobrau BAFTA Craft a BAFTA Cymru; maent yn gwmni sy’n darparu effeithiau arbennig o’r safon uchaf i’r diwydiannau teledu a ffilm.  Rydym yn arbenigo mewn effeithiau atmosfferig, tan, glaw, rigiau mecanyddol, creu modelau a phropiau meddal gan ddefnyddio’r techneg a chyfarpar mwyaf blaenllaw.

Disgrifiad Swydd

Fel Prentis Cynorthwy-ydd Cynhyrchu Real SFX, bydd y gwaith yn amrywiol iawn ac fe fydd hon yn rôl weinyddol lefel mynediad da i mewn i’r diwydiannau cyfryngau.

NODER: Nid yw’r swydd hon yn ymwneud a phrostheteg, colur na gwneud propiau.

Dyletswyddau nodweddiadol byddwch yn ymgymryd â nhw:

  • Ateb ffonau
  • Gwaith papur
  • Bwydo data
  • Trefnu criw a chludiant
  • Llungopïo
  • Gweinyddu swyddfa cyffredinol
  • Mynychu digwyddiadau
  • Rheoli Cyfryngau cymdeithasol a rheoli gwefan
  • Dosbarthu gwaith papur cynhyrchu

Sgiliau Hanfodol:

  • Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrienedig ardderchog
  • Sgiliau trefnu a gweinyddu ardderchog
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog
  • Gwybodaeth cyfrifiadurol sylfaenol o gyfrifiaduron Microsoft a Mac
  • Trwydded Yrru llawn DU
  • Y gallu i weithio mewn tim
  • Agwedd gall-wneud

Sgiliau dymunol ond nid yn hanfodol:

  • Cymraeg llafar ac ysgrifennedig

Fframwaith

Tra’n gweithio i Real SFX byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.