Prentis Cynorthwy-ydd Prosiect – Sgil Cymru

Cwmni:                        Sgil Cymru
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Cynorthwy-ydd Prosiect
Lleoliad:                      Caerdydd

Am y Sefydliad

SgilCymruLogoWithBoxY darparwr hyfforddiant newydd i’r Prentisiaeth mewn Cyfryngau Digidol a Chreadigol yng Nhgymru yw Sgil Cymru. Wedi ei leoli yn Pinewood Studio Cymru yng Nghaerdydd, mae gan y tîm bron i 75 mlynedd o brofiad cyfunol yn y cyfryngau a hyfforddiant. Mae gan Sgil Cymru 20 prentis ar hyn o bryd yn gweithio mewn cwmniau sy’n cynnwys BBC Cymru Wales, Cardiff Theatrical Services, Fiction Factory, ITV Cymru Wales, Orchard Entertainment, Real SFX a Sports Media Services.

Disgrifiad Swydd

Bydd gwaith ein Prentis Cynorthwy-ydd Prosiect yn amrywiol iawn, a bydd y rôl yma yn rhoi siawns i’r person cywir weld trawsdoriad o’r diwydiannau creadigol.

Dyletswyddau nodweddiadol byddwch yn ymgymryd â:

  • Ateb ffônau
  • Gwaith papur cyffredinol
  • Cofnodi data
  • Llungopïo
  • Gweinyddu swyddfa cyffredinol
  • Mynychu digwyddiadau
  • Cynorthwyo rheoli Cyfryngau Cymdeithasol a rheoli gwefan

Sgiliau Hanfodol:

  • Sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a Saesneg
  • Sgiliau gweinyddol a threfniadol
  • Y gallu i weithio mewn tîm bach clos
  • Agwedd gall-wneud

Sgiliau ddymunol ond nid yn hanfodol:

  • Byddai trwydded yrru yn fanteisiol yn y rôl hon

Fframwaith

Tra’n gweithio i Sgil Cymru byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 15 mis Lefel Uwch (4) mewn Hysbysebu a Cyfathrebu Marchnata.