Prentis Swyddfa Cynhyrchu (Fffeithiol) – BBC Cymru Wales

Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi heibio.

Cwmni:                        BBC Cymru Wales
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Swyddfa Cynhyrchu (Ffeithiol)
Lleoliad:                      Ty Darlledu, Llandaf, Caerdydd

Am y Sefydliad

BBC_Cymru_Wales_logo.svgDarlledwr y genedl yw BBC Cymru Wales, yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru ar y teledu, y radio a thrwy ein gwefannau.

Mae adran Ffeithiol a Cerddoriaeth BBC Cymru Wales wedi ei leoli yn Llandaf, Caerdydd, ac mae’n cynhyrchu ystod o raglenni ar gyfer teledu a radio lleol a rhwydwaith gan gynnwys Crimewatch, Bargain Hunt, Coast, X-Ray, BBC Young Dancer a Composer of the Week.

Disgrifiad Swydd

Beth mae Prentis Cynhyrchu yn ei wneud?

Fel Prentis Cynhyrchu bydd angen i ti fod yn frwdfrydig, yn weithgar, bod â sylw arbennig at fanylion a bod yn gyfathrebwr gwych.

Fel rhan o’r Tîm Cynhyrchu byddi’n cynorthwyo’r Cynorthwy-ydd Cynhyrchu / Ymchwilydd / Cydlynydd Cynhyrchu er mwyn sicrhau bod y cynhyrchiad yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithiol.

Bydd disgwyl i brentisiaid cynhyrchu Teledu a Radio wneud ystod eang o dasgau megis ateb y ffôn, archebu tocynnau teithio a llety, trawsgrifio, darparu cefnogaeth weinyddol i’r Cydlynydd Cynhyrchu â’u tîm ac wrth gwrs, gwneud y te!

Byddi’n barod i weithio oriau hir, yn wybodus efo cyfrifiadur ac yn gallu meddwl drostat dy hun.

Bydd angen y gallu i drefnu, ond hefyd i weithio o dan gyfarwyddyd, a bod wedi dy gymell i weithio ac yn frwdfrydig.

Bydd angen i ti ddangos angerdd clir am gynhyrchu teledu a radio, a dangos diddordeb go iawn yn y rhaglenni rydym yn eu creu â’r diwydiant yn gyffredinol.

Gallai’r rôl yma dy osod ar lwybr Rheoli Cynhyrchu, gan weithio dy ffordd o fod yn Gynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu (PMA) i Gydlynydd Cynhyrchu (PC) i Rheolwr Cynhyrchu (PM) neu gall fynd a chi i lawr llwybr mwy golygyddol, gan symud o fod yn Rhedwr i Ymchwilydd i Gynorthwy-ydd Cynhyrchu/Cyfarwyddo. Bydd y rôl yn cynnig mewnwelediad i’r ddau ochr i gynhyrchu.

Esiamplau o swyddi y gallai Prentis Cynhyrchu eu gwneud yn y dyfodol –

  • Ymchwilydd
  • Cynorthwy-ydd Cynhyrchu/Cyfarwyddo
  • Gynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu (PMA)
  • Cydlynydd Cynhyrchu (PC)
  • Rheolwr Cynhyrchu (PM)

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Cyfathrebwr da
  • Dadansoddol
  • Mentrus
  • Penderfynol
  • Trefnus
  • Diplomataidd
  • Un da am gymryd cyfarwyddyd

Sgiliau Anghenrheidiol:

  • Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd ac i weithio fel rhan o dîm
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol dda
  • Menter a sylw at fanylion
  • Y gallu i weithio’n gyflym ac yn gyson er mwyn cyrraedd terfynau amser
  • Mwynhau gweithio mewn awyrgylch prysur ac o dan bwysau
  • Byddai’r gallu i yrru yn fanteisiol yn y rôl yma 

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm – Gweithio’n effeithiol iawn fel rhan o dîm; yn gweithio er budd y tîm cyfan
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir drwy fabwysiadu amrywiaeth o arddulliau, dulliau a thechnegau sy’n briodol i’r gynulleidfa ac i natur y wybodaeth
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill. Gallu defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarbwyllo pobl mewn ffordd sy’n arwain at gytundeb neu newid ymddygiad
  • Cynllunio a threfnu – Yn gallu bod yn flaengar er mwyn sefydlu dull gweithredu effeithiol a phriodol i chi’ch hun ac eraill. Yn blaenoriaethu ac yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr holl faterion a ffactorau perthnasol megis terfynau amser, gofynion staffio ac adnoddau.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol. Yn gallu deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol a gwrthwynebol ar fater, addasu dull o weithredu wrth i ofynion sefyllfa newid, a derbyn newidiadau yn eich sefydliad eich hun neu ofynion eich swydd yn hawdd.

Fframwaith

Tra’n gweithio i BBC byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.