Prentis Swyddfa Cynhyrchu – Wildflame Productions

Cwmni:                      Wildflame Productions Ltd
Rôl Prentisiaeth:      Prentis Swyddfa Cynhyrchu
Lleoliad:                    Tramshed, Clare Road, Caerdydd CF11 6QP

Am y Sefydliad

LogoMae Wildflame Productions Limited yn gwmni cynhyrchu annibynnol sydd newydd ei sefydlu ac sy’n gweithio ar draws rhaglenni ffeithiol, arbenigol ffeithiol a ffeithiol adloniant.

Rydym yn rhan o Flame Media Group, sy’n tyfu’n gyflym fel cwmni dosbarthiad teledu rhyngwladol a busnes cynhyrchu gyda swyddfeydd yn Sydney, Llundain ac o gwmpas y byd (http://flamedistribution.com/about-us).

Mae pobl a diddordebau Wildflame yn amrywiol. Rydym yn cefnogi unigolrwydd ac yn annog y tîm i weithio i’w cryfderau, heb eu caethiwo gan unrhyw beth ond i gyflwyno’r teledu gorau posibl.

Rydym yn dawel yn meddwl yn fawr, yn edrych i gydweithio a gweithio’n rhyngwladol ond rydym hefyd yn hynod o falch o lle’r ydym yn dod.

Mae ein diwylliant yn greadigol, yn gefnogol ac yn hwyl. Rydym wedi ein lleoli yn y Tramshed, lleoliad celfyddydau a cherddoriaeth gyfoes newydd a chyffrous yng nghanol Caerdydd.

Yr ydym ar ddechrau siwrnai gyffrous ac yn chwilio am rywun uchelgeisiol i ymuno â ni.

Disgrifiad Swydd

Beth mae Prentis Swyddfa Cynhyrchu yn Wildflame yn ei wneud?

Byddwch yn aelod iau o’r tîm cynhyrchu, gan ein helpu allan gyda’r holl bethau y mae angen eu gwneud i wneud rhaglenni teledu.

Byddwch yn cynorthwyo’r Cynhyrchydd / Rheolwr Cynhyrchu / Cydlynydd er mwyn sicrhau bod y cynhyrchiad yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon.

Bydd angen i chi fod yn gallu troi eich llaw at amrywiaeth o dasgau – o gweinyddol sylfaenol (gwaith papur, ateb y ffôn) i waith ymchwil, o wneud y coffi i drefnu teithio  a llety, o fynychu sesiwn saethu ffilm i drosglwyddo parsel.

Bydd angen i chi fod yn hyblyg, yn frwdfrydig, yn weithgar, gan roi sylw i fanylion a bod yn gyfathrebwr ardderchog.

Fe fyddi di’n wybodus efo cyfrifiadur ac yn gallu meddwl drostat dy hun.

Bydd angen y gallu i drefnu, ond hefyd i weithio o dan gyfarwyddyd, a bod wedi dy gymell i weithio ac yn frwdfrydig.

Gall y rôl hon weithiau olygu oriau hir ac anghymdeithasol.

Esiamplau o swyddi y gallai Prentis Swyddfa Cynhyrchu eu gwneud yn y dyfodol –

  • Cynorthwy-ydd Rheoli Cynhyrchu
  • Ysgrifenydd Cynhyrchu
  • Cynorthwy-ydd Cydlynu Cynhyrchu
  • Cydlynydd Cynhyrchu
  • Rheolwr Cynhyrchu
  • Cyfarwyddwr
  • Cynhyrchydd
  • Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth

Pa fath o berson sydd angen i mi fod?

  • Cyfathrebwr da
  • Dadansoddol
  • Hunan-gychwynwr
  • Penderfynol
  • Trefnus
  • Diplomataidd
  • Un da am gymryd cyfarwyddyd
  • Addasadwy, yn gadarnhaol ac yn barod i helpu gydag unrhyw beth.

Sgiliau Anghenrheidiol:

  • Sgiliau TG cryf, gan gynnwys pecynnau Microsoft, fel Word ac Excel;
  • Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd ac i weithio fel rhan o dîm
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol dda
  • Menter ac ymwybyddiaeth;
  • Organising and prioritising;
  • Y gallu i ymateb, ac i weithio’n gyflym, o dan bwysau;
  • Trwydded yrru lân

Cymwyseddau Cyffredinol

  • Gwaith tîm
  • Rheoli cydberthnasau – Gallu creu a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag amrywiaeth o bobl.
  • Cyfathrebu – Y gallu i gyfleu neges yn glir.
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill.
  • Dylanwadu a darbwyllo – Y gallu i gyflwyno dadleuon cadarn ac wedi’u rhesymu’n dda i ddarbwyllo pobl eraill.
  • Dyfalbarhad – Yn gallu rheoli effeithiolrwydd personol drwy reoli emosiynau yn wyneb pwysau, rhwystrau neu wrth ddelio â sefyllfaoedd cythruddol. Yn gallu dangos ymagwedd at waith a nodweddir gan ymrwymiad, cymhelliant a brwdfrydedd.
  • Ysgogiad – Yn dangos ymrwymiad, cymhelliant ac egni.
  • Hunanddatblygiad – Yn dangos cryfderau personol ac anghenion datblygu, ac yn ceisio gwella perfformiad yn barhaus drwy feithrin sgiliau a dysgu ymddygiad newydd.
  • Hyblygrwydd – Yn addasu a gweithio’n effeithiol gydag unigolion, grwpiau neu mewn sefyllfaoedd amrywiol.

Fframwaith

Tra’n gweithio i Wildflame Productions Ltd byddwch yn cwblhau Prentisiaeth 12 mis Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol a Digidol.