O Ffeithiol i Ffilm i Ffion

Dechreuodd Ffion Taylor ei gyrfa yn 2014 ar Brentisiaeth Cyfryngau Creadigol a Digidol Lefel 3. Gweithiodd Ffion, 23 o Aberystwyth, fel Prentis Rhedwr i Green Bay Media yng Nghaerdydd.

Cyn ei phrentisiaeth roedd Ffion yn gweithio fel gweinyddes mewn bwyty yn Aberystwyth. Astudiodd Ffion Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol a Ffotograffiaeth yn y coleg ac roedd hi’n gwybod ei bod hi am ddechrau gyrfa o fewn y diwydiannau creadigol ond wyddai hi ddim  sut. Gyda llawer o ymchwil fe ffeindiodd Ffion y brentisiaeth ac fe  benderfynodd hi i ymgeisio.

Dwedodd Ffion:

Roeddwn i eisiau gwneud y prentisiaeth oherwydd roeddwn i’n gwybod ei fod e’n mynd i roi sail gref i fi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant teledu a ffilm.

Wrth gwblhau ei phrentisiaeth gweithiodd Ffion fel Prentis Rhedwr ar amryw o gynyrchiadau gan gynnwys Llond Ceg, DNA Cymru a Sian Lloyds Work-Life Balance. O ddydd i ddydd roedd Ffion yn ffeindio a chyfweld cyfranwyr gyda potensial ar gyfer rhaglenni dogfen a phlant, trefnu gwaith papur ar gyfer trwyddedau perfformiad plant, ffeindio lleoliadau a chael caniatâd i ffilmio, a hefyd tasgau gweinyddol o fewn y swyddfa. Yn ogystal â gweithio fel Rhedwr roedd Ffion yn gweithio ar set ac allan ar leoliad fel chaperone.

Dwedodd Ffion:

Yn ystod fy mhrentisiaeth, fe wnes i wynebu nifer o heriau. Gan nad oeddwn i wedi gweithio mewn teledu o’r blaen, roedd e’n dasg anferth i ddysgu popeth. Roedd ceisio ffeindio cyfranwyr am raglenni heb wybod ble i edrych yn anodd! Ond gydag amser ac ymarfer dechreuais i fod yn fwy trefnus a hyderus. Os ofynnwch i mi ddod o hyd i gyfrannwr am gyfres pobl ifanc nawr, byddwn i’n gallu, heb broblem!

Yn dilyn ei blwyddyn fel prentis parhaodd Ffion i weithio i Green Bay Media fel Ymchwilydd am 10 mis. Ers hynny mae Ffion wedi gweithio mewn adrannnau cynhyrchu ar-lein a chorfforaethol, hyfforddiant cyfryngau, ac yn fwy diweddar fel Rheolwr Cynhyrchu Iau I gwmni animeiddio o’r enw Cloth Cat Animation ar gyfres i Channel 5.

Mae hi bellach wedi dewis ehangu ei gorwelion unwaith eto trwy dderbyn swydd o fewn y swyddfa cynhyrchu ar ffilm nodwedd o’r enw Judy. Mae’r ffilm yn cael ei saethu o fewn Pinewood Studios gyda Renée Zellweger yn chwarae’r brif ran.

Dwedodd Ffion:

Heb y brentisiaeth fyddwn i ddim wedi dysgu’r sgiliau sydd wedi siapio fy ngyrfa hyd yn hyn. Wnes i wneud y penderfyniad i beidio mynd i’r brifysgol felly rhoddodd y brentisiaeth y cyfle i fi ddysgu’n ymarferol. Trwy gael y profiad yma mae hyn wedi gwneud i fi sefyll allan yn erbyn pobl eraill. Dwi wir yn meddwl y byddwn i wedi ffeindio fe’n lot anoddach i ddechrau gyrfa o fewn y diwydiant teledu heb hyn.

Os, fel Ffion, rydych chi’n edrych am eich cam nesaf, cliciwch yma i arwyddo lan i dderbyn ein cylchlythyr prentisiaethau sy’n cwmpasu ein holl swyddi gwag ar gyfer newydd ddyfodiaid ar gynlluniau prentisiaeth.