RHEOLWR LLEOLIADAU 2017

Ymunodd 8 hyfforddai oedd yn brofiadol mewn ffilm, ymunwch â ni yn Pinewood Studio Cymru (Caerdydd) ar gyfer pythefnos o hyfforddiant dwys – 16-27 Ionawr 2017 –siaradwyr gwadd, gan gynnwys:

Clywyd Cynrychiolwyr o:

Dan arweiniad Lowri Thomas.

Gyda gweithdai lleoliad ymarferol (ymweld â nifer o safleoedd), bydd nifer dethol o gyfranogwyr y cwrs hefyd wedi cael cynnig o brofiad gwaith lleoliadau gyda LOCATION SOLUTIONS, y tîm ytu ôl i ffilm Hollywood SHOW DOGS.

Ar agor i ymgeiswyr ar draws y DU. Darllenwch ymlaen am fwy o wybodaeth ac i wneud cais ….

Pryd oedd y cwrs?
Rhedodd y cwrs am 10 diwrnod, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, dros bythefnos, yn dechrau ar Ionawr 16eg, ac yn gorffen ar Ionawr 27ain.

Cyn-hyfforddeion

Mark Mansfield, Caerfyrddin
“Mwynheais i’r cwrs yn fawr, a dwi’n teimlo fod gen i sylfaen da i weithio arno nawr.”

Gareth Roberts, Caernarfon
“Wedi gallu gwneud cysylltiadau pwysig yn y busnes o leoliadau.”

Lotta Lanamaki, Helsinki
“Siaradwyr gwadd oedd y peth gorau. Mwynheais i ymweliadau Finlay a Gareth yn fawr, gwybodaeth diddorol iawn.”

Josie Thornton, Llundain
“Mwynheais i’r ymwelwyr a’r tripiau allan. Roedd y ddwy diwtor cwrs yn hawddgar iawn.”

Aitor Auzmendi, Seville
Mae Aitor yn rhedeg cwmni lleoliadau a gwasanaethau cynhyrchu yn Ne Sbaen, Moroco a Phortiwgal. Daeth Aitor ar y cwrs er mwyn dod i ddeall yn well sur mae adran leoliadau yn gweithio yn y DU, a trosglwyddo’r wybodaeth yma i’w waith bob dydd.

Katja Allen, Merthyr Tudful
“Roedd yr adrannau ymarferol, trafodaethau mawr a siaradwyr gwadd i gyd yn ddefnyddiol iawn.”

Gemma Galey-Jones, Norfolk
“Roedd pob siaradwr yn broffesiynol ac yn llawn gwybodaeth. Roedd cyflwyniad Paul Bach yn wych – mor ysbrydoledig i ni fel rhai sy’n dechrau mas yn yr adran lleoliadau. Mae’r cwrs wedi bod fel heulwen yn fy mywyd – diolch i chi gyd.”

Nina Langrish, Caerdydd
“Byddwn ni’n bendant yn argymell y cwrs yma i unrhywun sydd a diddordeb mewn bod yn Reolwr Lleoliadau.”

Tiwtor y Cwrs

Lowri ThomasLowri Thomas
Hyfforddwyd Lowri fel Rheolwr Llawr Cynorthwyol ac yna Rheolwr Cynhyrchu yn BBC Cymru Wales canol y 1990au cyn mynd ymlaen i fod yn Reolwr Lleoliad llawrydd, yn gweithio yn bennaf ar gyfer y BBC a’r cwmni ‘Gaucho’ o Gaerdydd. Mae credydau Lowri yn cynnwys POBOL Y CWM, DOCTOR WHO a HOLLYOAKS yn ogystal â nifer o hysbysebion, ffilmiau nodwedd cyllideb isel a chynyrchiadau eraill di-ri (byw ac wedi eu recordio) ar gyfer y BBC ac S4C. Roedd rôl Lowri fel Rheolwr Prosiect yn ystod prosiect y BBC ym  Mhorth y Rhath hefyd yn cynnwys cysylltu’n agos â Upstairs Downstairs, Doctor Who a Casualty.

 

 

Siaradwyr Gwadd gan gynnwys:


Finlay Bradbury
Mae Finlay Bradbury wedi gweithio mewn lleoliadau ar nifer o ffilmiau mawr Hollywood – yn rheoli lleoliad ar gyfer ffilm gyffro James Bond, SPECTRE, comedi rhamantus BRIDGET JONES’ BABY a sioe gerdd Disney, INTO THE WOODS. Mae hefyd wedi sgowtio am leoliadau ar gyfer ffilm Tim Burton MISS PEREGRINE’S HOME FOR PECULIAR CHILDREN a X-MEN: FIRST CLASS, ac wedi gweithio ar CAPTAIN AMERICA: THE FIRST AVENGER a THE DARK KNIGHT. Gallwch weld ei IMDb yma.

Gareth SkeldingGareth Skelding – Locations Solutions

Mae Gareth Skelding wedi bod yn Rheolwr Lleoliad ers 2001. Ar ôl gweithio mewn adrannau cynhyrchu i ddechrau ac yn gweithio ei ffordd drwy’r rhengoedd cynorthwyol, fe sylweddolodd yn fuan fod ganddo lygad dda a dychymyg ar gyfer gwerthu syniadau i gyfarwyddwyr. Mae hyn, ynghyd â’r penderfyniad i gael criw ffilmio i mewn i’r mwyaf heriol o leoliadau (ond yn bwysicach fyth, yn cael nhw i gyd allan eto yn ddiogel) wedi gwneud Locations Solutions y cwmni  ‘go-to’ yng Nghymru.

Mae credydau diweddar Locations Solutions yn cynnwys THE BASTARD EXECUTIONER (20th Century Fox), DA VINCI’S DEMONS (Starz/BBC Worldwide) SET FIRE TO THE STARS (Mad as Birds Films), JACK TO A KING (YJB Films), SHERLOCK (Hartswood), DOCTOR WHO (BBC Wales) a TORCHWOOD (BBC Wales, Starz/BBC Worldwide).


header-home-newAndy Dixon Facilities
Mae cyfleusterau gan ADF yn darparu cerbydau gwasanaeth ar gyfer cynhyrchiadau Teledu a Ffilm yn y DU ac ar draws Ewrop, gan arbenigo mewn cymorth ar-leoliad ar gyfer dramâu a  ffilmiau nodwedd mawr. Gyda fflyd llogi effeithlon a smart, gan gynnwys ôl-gerbydau artiste a thryciau adrannol ar gyfer gwisgoedd, colur a chynhyrchu, yn ogystal â cherbydau bwyta a honeywagons.

Owain Gillard – Rheolwr Lleoliadau, ALM & sgowt lleoliadau
Credydau diweddar yn cynnwys Byw Celwydd (drama deledu ar gyfer S4C); Y Casgliad (drama deledu ar gyfer Amazon Prime); Hysbyseb Banc Barclays; The Bastard Executioner (drama deledu ar gyfer FX); Tricked (ITV); Rosebud The Movie (Tiger Aspect); Hysbyseb First Great Western (Rolo Productions).

Sophie Pinch – Rheolwr Lleoliad
Mae credydau Sophie yn cynnwys ROCKET’S ISLAND, NO OFFENCE ar Channel 4, cyfres teledu CLOSE TO THE ENEMY a BETWEEN TWO WORLDS.

Iwan Roberts – Rheolwr Lleoliad
Credydau diweddaraf yn cynnwys DOCTOR WHO cyfres 7-10, A MIDSUMMER NIGHT’S DREAM a’r ffilm comedi Prydeinig SUBMARINE.

Paul ‘Bach’ Davies – Rheolwr Lleoliad
Mae gan Paul blynyddoedd o brofiad mewn Lleoliadau. Credydau diweddaraf yn cynnwys Y GWYLL / HINTERLAND, THE BASTARD EXECUTIONER, SHERLOCK, DOCTOR WHO a TORCHWOOD i enwi ond ychydig.


KLIEEuOTComisiwn Sgrîn Cymru
Mae Sgrîn Cymru yn dîm bychan ond ymroddedig a gwybodus, yn y sector diwydiannau Creadigol o fewn Llywodraeth Cymru. Wedi’i sefydlu yn 2002 (fel Comisiwn Sgrin Cymru) maent wedi cynorthwyo miloedd o gynyrchiadau dros y blynyddoedd. Mae Sgrîn Cymru yn gweithio gyda phrosiectau rhyngwladol a domestig o bob siâp a maint. O ffilmiau byr at ffilmiau nodwedd mawr, photoshoots i hysbysebion, rhaglenni dogfen i ddramâu, ac yn darparu cymorth amhrisiadwy i gynyrchiadau ffilmio yng Nghymru. Mae Sgrîn Cymru yn cynorthwyo gyda:
* Sgowtio Lleoliadau ledled Cymru lle mae adnoddau’n caniatáu (gellir cynyrchiadau hefyd gael mynediad at amrywiaeth o reolwyr lleoliad llawrydd / sgowtiaid drwy eu cronfa ddata. Gellir eu cyflogi ar gyfradd-ddyddiol a gytunwyd o flaen llawr).
* Ffeindio criw llawrydd, cyfleusterau neu lety
* Logisteg fel cau ffyrdd.


Cardiff Film Office LogoAli Yassine – Swyddfa Ffilm Caerdydd
Adran yng Nghyngor Dinas Caerdydd yw Swyddfa Ffilm Caerdydd, ac mae’n rheoli ffilmio a ffotograffio ar gyfer prifddinas Cymru – dinas fwyaf ffilm-gyfeillgar Cymru. Rydym yn falch o fod wedi gweithio ar rai o brojectau mwyaf y byd ffilm a theledu ac rydym yr un mor falch o fod wedi gweithio ar brojectau llai hefyd. O ffilmiau enfawr a dramâu ffuglen wyddonol poblogaidd i hysbysebion, ffotograffau a fideos cerddoriaeth, rydym yn cynnig gwasanaethau i gyfryngau rhyngwladol yma ym mhrifddinas Cymru.


another-logo-crJan Wilkins – Creative Risk Solutions
Jan yw Sylfaenydd cwmni Creative Risk Solutions, yr unig gwmni yswiriant yng Nghymru, sy’n arbennigo yn y Cyfryngau. Mae gan Jan dros 30 mlynedd o brofiad o fewn y sector yswiriant i Deledu a Ffilm, gyda AON Pinewood sc am sawl blwyddyn yn gyfrifol am reoli’r cynllun Darlledwyr yn S4C, cyn sefydlu Creative. Cynhyrchiadau’n cynnwys: HINTERLAND, THE INDIAN DOCTOR, SUE PERKINS CITY OF JOY, RICHARD HAMMOND MIRACLES OF NATURE, MICHAEL SHEEN – FIRE UNDER THE CROSS, drama S4C BYW CELWYDD, ANITA, ALYS.


logoChris Lubas – Lubas Medical
Darparwr hyfforddiant cyn-ysbyty a phersonél meddygol sy’n cynnig hyfforddiant meddygol a chymorth parafeddyg. Mae perthynas y cwmni gyda chorfforaethau teledu fel y BBC wedi datblygu ers ddarparu gwasanaeth meddygol ar gyfer y gyfres gyntaf o Dr Who ac ers rhoi cymorth parafeddyg parhaus ar y setiau o gynyrchiadau gan gynnwys: Casualty, Torchwood, Plant mewn Angen a Upstairs Downstairs (i enwi ychydig).

wNjzKdtm-2Faye Newton – Liverpool Locations
Mae Liverpool Locations yn ffynhonnell rheoli lleoliadau ffilm ar gyfer Ffilmiau Nodwedd, Dramâu Teledu a Hysbysebion ac yn cael ei redeg gan chwiorydd, Faye a Claire Newton. Mae ganddynt gronfa ddata preifat enfawr o lleoliadau a chysylltiadau yn y ddinas. Mae ganddynt dros 33 mlynedd o brofiad yn ffilmio ar draws y DU a’r Gogledd Orllewin, gyda Lerpwl yn cael eu harbenigedd. Gyda’i adeiladau hanesyddol, pensaernïaeth trawiadol ac agwedd gyfeillgar ffilm, mae Lerpwl bellach yn un o dinasoedd sydd yn cael eu ffilmio fwyaf yn y DU.

 

Cefnogir y cwrs yma gan Gronfa Sgiliau Ffilm Creative Skillset, a Chronfa Film Forever Loteri Genedlaethol y BFI. 

BFI-Lottery-Creative-Skills