Am weithio i Sgil Cymru?

Ydych chi eisiau gweithio mewn diwydiant cyffrous i gwmni sy’n tyfu?

Ar hyn o bryd, rydym yn darparu prentisiaethau yn y Cyfryngau, y Cyfryngau Rhyngweithiol
a Marchnata, ac yn gobeithio cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar draws y Cyfryngau yn y
dyfodol agos. Er mwyn gwneud hyn, mae angen mwy o help dros y misoedd nesaf (Mehefin,
Gorffennaf ac Awst).

Os ydych chi eisiau cofrestru eich diddordeb mewn gweithio mewn swyddfa gydag
amgylchedd gyflym, yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu y Gymraeg a Saesneg, ac yn
awyddus i fod yn rhan o dîm bychan, yna cysylltwch â ni heddiw.

Anfonwch e-bost i help@sgilcymru.com gan atodi eich CV ac fe ddown yn ôl atoch cyn
gynted â phosibl.