Y CWMNI

Sgil Cymru: Hyfforddwr y Cyfryngau

Wedi’i leoli yn Great Point Seren Stiwdios (Stiwdio Pinewood Cymru gynt) yng Nghaerdydd, mae gan y tîm fwy na 100 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant a chynhyrchu dwyieithog yn y cyfryngau rhyngddynt. Mae aelodau o dîm Sgil Cymru wedi hyfforddi dros 100 o brentisiaid trwy gyd-weithio gyda chwmnïau ar draws de Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, Equinox Communications, Golley Slater, ITV Cymru Wales, Real SFX, Amplified Business Content ac S4C. Trwy bartneriaeth gyda ScreenSkills, mae Sgil Cymru yn cyflwyno pecyn o gyrsiau hyfforddi ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu y DU.