Mae ‘Siop Un Stop – One Stop Shop’ yn chwilio am fentor!

MAE CEISIADAU AR GYFER Y ROL YMA NAWR AR GAU

SGIL CYMRU

Swydd newydd:     Mentor (Siop Un Stop – One Stop Shop)

___________________________________________________________________________

Mae Sgil Cymru yn chwilio am Fentor arbennigol i weithio ar brosiect newydd a chyffrous.

Gweler manylion y prosiect yma.

 

Disgrifiad Swydd:

· Gweithio yn bennaf dan adain Sgil Cymru ag ar draws ein partneriaid.

· Ar gael i roi cyngor a chymorth i unigolion, grwpiau a chwmniau sydd eisiau gwybodaeth ar sut i ddod mewn i’r diwydiannnau sgrin, a sut i symud ymlaen neu ar draws o fewn y diwydiannau yna.

· I fod ar draws pob cwrs hyfforddi a chyfle sydd ar gael, gan gynnwys ariannu, yng Nghymru.

· I weithio efo’r Rheolwr Prosiect er mwyn adrodd nol i Reolwr Gyfarwyddwr Sgil Cymru, ac i Fwrdd Rheoli y Siop Un Stop-One Stop Shop a’r BFI.

· Yr angen, ar adegau, i deithio led-led Cymru i gyfarfodydd, gweithdai a chyrsiau.

· Y posibilrwydd o weithio yn hyblyg, o adra, neu yn ein canolfan hyfforddi yn Great Point Seren Stiwdios yng Nghaerdydd

 

Anghenion Hanfodol

· Profiad helaeth o weithio yn y diwydiannau sgrin.

· Dealltwriaeth eang o sut mae rhaglenni yn cael eu darparu, criwio, amserlennu, saethu, a’r broses golygu.

· Dealltwriaeth eang o swyddi pob adran gan gynnwys y criw cynhyrchu, y criw saethu, a’r criw ol-gynhyrchu,

· Dealltwriaeth o reolau gofal, diogelu, iechyd a diogelwch, a rheolau undebol y sector.

· Profiad o weithio ar raglenni yng Nghymru a dealltwriaeth o’r sector.

· Y gallu i gyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg a Saesneg.

· Gall y swydd yma gael ei lleoli yn y gogledd neu’r de, ond mae’n rhaid i’r berson cywir fod yn byw yng Nghymru.

· Y gallu a’r hyder i siarad efo pobl ynglyn a’u gyrfaoedd – fel unigolion ac mewn grwpiau.

· Y gallu i drefnu ac i fod yn gyfathrebwr gwych, gyda’r gallu i weithio yn effeithiol mewn tim bach hynod o brysur.

· Y gallu i ddefnyddio Microsoft Word, Excel, Google Workspace a Dropbox yn effeithiol a threfnus.

 

I’r person sydd â’r set gywir o sgiliau a phrofiad, gellid cynnig y swydd hon yn rhan amser neu’n llawn amser a gall fod ar delerau llawrydd neu fel aelod o staff Sgil Cymru ar TWE (PAYE). Bydd y cyflog yn amrywio rhwng £35,000 a £40,000 y flwyddyn. Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod ar gael i ddechrau ar ddiwedd mis Awst (dyddiad i’w gadarnhau) a bydd y cytundeb yn rhedeg tan 31 Mawrth 2026.

 

Am sgwrs cyn ymgeisio, neu i ymgeisio, cysylltwch a lowri@sgilcymru.com gan gynnwys eich CV cyfredol.