Wythnos diwethaf, ar y 17eg o Fai, buon ni’n ffarwelio gyda phrentisiaid CRIW yn y gogledd 2023-2024!
Mae un ohonynt, Cynan Roberts, wedi hedfan allan i Seland Newydd am flwyddyn, mae Cai Pritchard a Huw Hughes yn dal i weithio ar STAD 2 am 3 wythnos arall. Ar ddiwedd hynny, mi fydd Cai yn hedfan allan i Ganada am sawl mis ac mi fydd Huw yn mynd ymlaen i weithio efo Vox Pictures ar Hafiach. Mi fydd Fiorella Roberts yn ymuno â Huw ar Hafiach yn yr adran golur.
Dymunwn bob hwyl i Cynan, Cai, Huw a Fiorella yn eu gyrfaoedd!
Cyn iddyn nhw fynd, recordiodd rhai ohonynt fideo i siarad am eu profiadau – byddwn ni’n rhannu’r rhain wythnos nesaf.
Mae’r llun uchod yn dangos y CRIW ar ddechrau’r brentisiaeth!