Heno, buom ni’n cwrdd â lot o wynebau newydd yn ein sesiwn blasu, wedi’i chynnal ar y cyd gyda ScreenSkills.
Roedd yn gyfle arbennig i siarad gyda phobl leol yn Sir Fynwy am gynhyrchiad Channel 4 ac Expectation ‘The Change’ a’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl leol yn gweithio ar yr ail gyfres. Roedd yn gyfle da hefyd i drafod a chwrdd â phobl sydd â diddordeb i ymuno gyda’r diwydiant ffilm a theledu yn yr ardal yna o Gymru.
Diolch i bawb am ddod draw i gwrdd â ni ac am noson wych!
Dyma luniau o’r prysurdeb: