POD Y PRENTIS: Jason Barnes

Heddiw, rydym yn falch i ryddhau pennod newydd o’n podlediad ‘POD Y PRENTIS’ gyda’n gwestai – Jason Barnes!

Pennod iaith Saesneg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Gorffennodd Jason ar brentisiaeth CRIW gyda ni yn ddiweddar ac mae’n gobeithio am yrfa o fewn yr adran sain ar gynyrchiadau teledu a ffilm. Yn ystod ei brentisiaeth cafodd flas ar wahanol fathau o gynyrchiadau, o deledu â chyllideb is i ffilmiau cyllideb uchel.

Gallwch chi wrando ar y podlediad ar Spotify, neu ar ein tudalen YouTube yma.