NEWYDDION PRENTISIAID – Branwen Roberts, Tommy Harrop ac Aaron Jones

Pob Hwyl i Branwen Roberts, Tommy Harrop ac Aaron Jones sydd wedi cychwyn gwaith ar ‘Hafiach’ wythnos diwethaf am 3 wythnos – cynhyrchiad VOX Pictures i S4C. Mae’r cynhyrchiad yn saethu o gwmpas Rhyl a Chaernarfon. Bydd Aaron yn yr adran lleoliadau, Branwen yn yr adran gelf a Tommy yn y swyddfa gynhyrchu. Pob lwc i chi gyd!