POD Y PRENTIS: Jessica Llewellyn

Heddiw, rydym yn falch i ryddhau pennod newydd o’n podlediad ‘POD Y PRENTIS’ gyda’n gwestai – Jessica Llewellyn!

Pennod iaith Saesneg mis yma gyda Lisa Jarman yn cyflwyno. Gorffennodd Jess prentisiaeth gyda BBC Chwaraeon blwyddyn ddiwethaf ar ôl cychwyn prentisiaeth yn 2022. Mae Jess wedi gweithio o fewn teledu a radio ac yn y bennod yma mae’n sôn am y sgiliau hanfodol buodd hi’n dysgu yn ystod y brentisiaeth ac yn trafod bywyd llawrydd.

Gallwch chi wrando ar y podlediad ar Spotify, neu ar ein tudalen YouTube yma.